Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

rispectabl o forfil ond pe cawsech chi'ch taflu i fôr y byd, mi fydda holl sharks uffern wedi'ch gneyd chi'n sgyrion cyn pen dau funud. Mewn difri, ddynion, gweddiwch fwy a ffreuwch lai." Eisteddodd Tomos i lawr a golwg gyn- hyrfus arno. Wedi y fath hyawdledd gwerinaidd a'r uchod­-math o gyffredin- edd wedi ei ysbrydoli-gorchuddiwyd pob wyneb gan gywilydd ac arswyd. Diwedd- wyd y seiat yn swta, heb gyflwyno mawl na thraddodi bendith, a diangodd pawb i'w gartref heb yngan gair. Hwyrach y bu anerchiad plaen yr apostol beiddgar, ond diaddurn a di-awdurdod, o Lanrwst, o fwy o fendith i'r eglwys honno na hyd yn oed ymweliad cenhadon oddiwrtn Gyf- arfod Misol y sir. Fe arfenr dweyd y ceir perl o enau llyffant, weithiau. Tua hanner can mlynedd yn ol, yr oedd yn Llanrwst wr ieuanc a'i fryd ar fyned i'r weinidogaeth, ac, efallai, wedi dechreu pregethu. Rhywbryd, ar y ffordd, neu mewn ty, cyfarfyddodd Tomos Williams ag ef, a gofynnodd rhywun iddo roi gair o gyngor i'r dyn ieuanc. Ufuddhaodd yntau. Wedi rhagymadroddi mewn dull cyffredin, dywedodd wrtho,- Gofala di am ddwad allan yn bre- gethwr iawn yn well pregethwr o'r han- ner na Eisio concro pechod sydd yn y byd yma, wel di. Mae'r arfau at neyd hynny yn ol reit, ac mae nhw gen ti yn lân ac yn finiog. Mi welis i lawer sawldiwr a chyno fo gledda nobl ofnatsan, ond pan ddoi hi'n binsh arno, fedra fo ddim i handlo. Rwan gofala di am gael training iawn wrth orsedd gras, nes y medri di handlo cledda'r Ysbryd, fel na rID WY'N hoffi'r awel dyner, <iẃV> Mae naws y nef yn hon; Yn wridog gwna fy ngwelw rudd, Rwy'n hoffi'r awel dyner, A pheraroglau môr a thir, Rwy'n hoffi'r awel dyner, A ddaw, yng nghwmni'r fore wawr, I ddeffro popeth byw Gwalia, Llandrindod. Yn siriol gwna fy mron; Sy'n dod dros fryniau ban, I adgyfnerthu'r gwan. Yn newydd o law Duw bydd yna'r un yn rijiment y Ciaptan mawr yn medru mynd a'r belt oddiarna ti. Ond pe dasa ti'n digwydd methu bod yn bregethwr mawr, mi fedri fod yn bre- gethwr duwiol. Fydd o fawr o gamp i ti íod yn fwy galluog na Charles Melus.* Ond mi fydd yn gamp fawr i ti fod yn fwy duwiol na fo. Beth bynnag nei di, cofia fod yn ffyddlon hyd angau. Yn amser y rhyfel ofnadwy rhwng Wellington a Na- poleon, mi roedda ni wedi bod am un wsnos yn batlo riw gymint yn ddi-stop, bron ddydd a nos, ar ochra Sbaen ond un bora, dyma ni'n cael batl fawr am gwm- pas saith o oria. Mi gafodd cannoedd o bobtu eu lladd. Am yr wsnos honno, mi roeddwn i wedi mhenodi hefo lot o rai erill, i fynd drwy'r maes i chwilio am y cyrff meirwon, ac i'w claddu nhw. Ac ar ol y fatl fawr yr ydw i yn son am dani hi, dyma ni yn dwad o hyd i gorff bachgen clws, gwmpas un ar bymtheg oed­-bachgen o fiwglar yn perthyn i'r French—yng nghanol ein pobl ni. Mi roedd oedd wedi cael ergyd farwol yn ei dalcen a dyna lIe 'roedd y peth bach clws, yn gorwedd ar wastad i gefn, a'r biwgl wrth ei wefusau, a'i law bach, anwyl yn cydio yn dynn am dano fo. Dyna i ti farw iawn 'Rwan, John, pan ddaw dy dyrn ditha i farw, cofia di fod yr angylion fydd wedi cael ordors i ddwad yma i nol d'enaid di, yn cael hyd i dy gorff gydag Udgorn mawr yr Iechydwriaeth yn sownd wrth dy wefusa di." Charles Mellish. Llanfairtalhaiarn. hen bre- gethwr di-ddawn, ond nodedig o dduwiol, gyda'r Methodistiaid. Yr A wel. Yr adar a'i croesawant, A'r egin mân di-ri Yn gymhlith a'r blodionos mwyn, A wenant arni hi. Rwy'n hoffi'r awel dyner, Ond eiliw wan yw hi, 0 awel fil dynerach ddaw O fynydd Calfari; 0 tyred awel nefol, Ar dy adfywiol hynt, Dyhidla beraroglau'r groes, Fel yn y dyddiau gynt. EDWARD JENKINS.