Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

II. Y PREGETHWR. Clerigwyr rywbryd tua 1857 ef i sylw holl Gymru. Yn rhinwedd ei swydd, ymwelai â'r pedair esgobaeth deuai tyrfaoedd i'w wrando ymhob man lIe y cyhoeddid ef i bregethu; ac nid ychydig o syndod a am- lygid, yn neillduol yn y Gogledd, wrth glywed y fath hyawdledd yn dylifo allan o bulpud yr Eglwys. Ymhen tair blynedd cynhygiwyd iddo fywoliaeth Pwllheli a llafuriodd yno am bedair blynedd gyda llwyddiant mawr. Ond yn 1864, denwyd ef i'r Deheubarth, pan y rhoddwyd ficer- iaeth St. Ioan, Caerdydd, iddo. Bu yno am un mlynedd ar ddeg, a gwnaeth ei ol yn arosol ar y dref. Yn ystod ei arosiad yma, cododd ei hun i fri mawr fel pregeth- wr galluog, fel gweithiwr Cristionogol llwyddiannus, ac fel bardd a llenor. Bu yn foddion i ddyblu a threblu y gallu Eg- lwysig yn y dref ond er gofid i'r dref yn gyffredinol, yn 1875 symudodd i Wrec- sam, a bu yn dal y ficeriaeth hon am un mlynedd ar bymtheg. Yn ystod ei arosiad yma cafodd ganoniaeth yn Llanelwy, ac yn 1890 Archddiaconiaeth Wrecsam. Yma y treuliodd ddarn mwyaf a goreu ei fywyd cyhoeddus, ac yma yn ddiau y profodd ei lafur diflino yn fwyaf llwyddiannus. Prin y credwn fod yr un gweinidog yng Nghymru, -yn perthyn i unrhyw enwad, wedi bod mor llwyddiannus­-wedi bod yn offeryn i ychwanegu cymaint o gymunwyr a gwrandawyr, a chodi cynifer o addoldai ac ysgoldai o fewn cylch yr un amser ag a wnaeth y Deon Howell tra yn Wrecsam. Ar ol gweithio yn galed yn y dref honno am un mlynedd ar bymtheg, mewn amser ac allan o amser, yn 1891, fe dderbyniodd y cynnyg o fywoliaeth Gresford, heb fod yn nepell o Wrecsam. Tra yma y collodd ei briod, a bu honno yn ergyd ofnadwy iddo o'r braidd y credaf iddo byth ym- uniawnu fel cynt ar ol y dymhestl a'r ddrycin honno. Ymhen y chwe blynedd -yn 1897-dyma alwad arno i ymgymeryd a Deoniaeth Tyddewi fel olynydd i'r Deon Y Deon Howell. I bu yn giwrad yng Nghas- tell Nedd ond rhyw ddwy flynedd, ond yr oedd son am dano wedi ymledu dros yr holl ardaloedd, a dygodd ei ddewisiad yn Ysgrifennydd i Gym- deithas Gynorthwyol y Phillips. Lled anhawdd ydoedd ganddo adael y Gogledd bellach, ar ol treulio y rhan oreu o'i fywyd cyhoeddus yno; ond yn y dybiaeth y gallai ymryddhau o ofalon plwyfol fod yn adgyfnerthiad iddo o ran corff a meddwl, ac am y credai y gallai anadlu ychydig o fywyd i'r Eglwys yn hen ddinas Dewi Sant, boddlonodd i dderbyn yr apwyntiad. Gwyr pawb fel yr oedd wedi gweddnewid pethau yn yr Eglwys Gadeiriol, ac wedi adfer y Gymraeg i'r gwasanaethau crefyddol a gynhelir o fewi ei muriau. Yn fuan wedi ei benodiad i'r ddeoniaeth, penderfynodd adfer yr Eglwys Gadeiriol i'w hurddasolrwydd cyntefig, a rhoddi y gweddill o'i oes at y gwaith. Trwy weithgarwch diflino ef y codwyd y capel fng nghongl ddwyreiniol yr adeilad hen- afol — capel, gyda llaw, a agorwyd yn haf 1902, ac yn yr hwn y cynhelir gwasanaeth- au arbennig. Nid oes amheuaeth, pe cawsai'r Deon fyw am ychydig o flynyddau yn ychwaneg, na fuasai wedi gwneyd Ty- ddewi yn gyrchfan i filoedd o bererinion bob blwyddyn, os nad yn ganolbwynt bywyd uchaf yr Eglwys yng Nghymru. Rhaid i bawb addef fod Deon Howell yn un o gewri pulpud Cymru dyna fydd ei le mewn hanesiaeth yn y dyfodol; ac nid oedd gan yr Eglwys yng Nghymru yr un tebyg iddo o ran hyawdledd, gwreidd- ioldeb a newydd-deb, brwdfrydedd Crist- ionogol, a ysbrydolrwydd ei genadwriaeth- au. Yr efengyl yn ei symlrwydd a bregeth- ai; medrai ei gwneyd yn ddyddorol i'r cynulleidfaoedd mawrion a ymdyrrai i'w wrando, a gwnai fel y mynnai a hwynt. Nid damwain ydoedd ei boblogrwydd yn codi o'r ffaith nad oedd gan yr Eglwys yng Nghymru ar y pryd yr un meistr y gyn- ulleidfa ymysg ei chlerigwyr ac nad oedd un o'i mewn y gellid ei gyfrif yn un o'r hoelion wyth ond yr oedd holl anheb- gorion gregethwr mawr yn cyfarfod yn y Deon Howell. Yr oedd yn Gymro yn credu yn ei genedl a'i hiaith yn ysgrythyrwr cadarn, yn efengylaidd ei syniadau yn credu yn ysbrydolrwydd yr Hen Lyfr a chysegredigrwydd y Sabbath ac ordin- hadau'r efengyl; yn feddyliwr clir a chraff yn meddu ar allu desgrifiadol tu- hwnt i'r cyffredin; yn ymadroddwr llithrig a hyawdl a digonedd o lais ac, uwchlaw y cwbl, yr oedd yn credu ei hunan yng ngallu y gwirioneddau a bregethai i godi dynoliaeth, a dyna a'i gwnai i ymdaflu