Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

gorff ac enaid, gyda holl ddifrifwch ei natur a gwresogrwydd ei ysbryd, i'r gwaith. Erys ei enw ymysg cewri y pulpud Cymreig tra y bydd hanes am dano ar gof a chadw; ac yn ei farwolaeth y mae y ddolen olaf a gysylltai gewri dechreu y ddeunawfed ganrif a phregethwyr yr oes hon wedi ei thorri. Byddai anturio ceisio ei ddarlunio bron yn rhyfyg, oblegid yr oedd bob amser o dan y fath arddeliad, a'r fath ysbrydolrwydd yn ei amgylchu a'r fath naws nefolaidd ar ei genadwri. Yr oedd yn rhaid ei glywed i gael synied cy- wir am dano ond gellir dweyd y byddai bob amser yn ysgubo popeth o'i flaen yr oedd pob ystum o'i eiddo yn urddasol ac yn cyflawni neges neillduol; yr oedd ei iaith-yn Saesneg yn gystal a Chymraeg- yn goeth ac ystwyth; ei resymiadau yn eglur i bawb ei apeliadau yn daerion ac yn cyrraedd y gydwybod a byddai'n sicr cyn diwedd pregeth neu araeth o godi y gynulleidfa yn y naill i diriogaethau cân a moliant a'r dorf yn y llall i'r pwynt uchaf o frwdfrydedd. Yr oedd ganddo bob amser genadwri neillduol at ei genedl, a dywedai honno yn y fath fodd fel nad allasai neb byth ei hangofio ac y mae pre- gethau ac areithiau Llawdden yn fyw heddyw yng nghof miloedd o Gymry. Ond er fod y Deon felly wedi ei eni yn freiniol o ran corff ac ymddangos- iad allanol a dawn siarad," ys dywedai'r hen bobl, a galluoedd meddyliol, a chreb- wyll, a chalon fawr mewn llawn gydym- deimlad a'i genedl ymhob ymdrech o'i heiddo i ymddyrchafu ac â dynoliaeth yn gyffredinol, ni bu fyw ar y pethau hynny yn unig. Yn hytrach, ymgydnabyddodd â hanes a llenyddiaeth Cymru, fel yr oedd yn berffaith gyfarwydd â'i hangen- ion a'i rhagoriaethau a'i gwendidau. Yr oedd yn ddarllennwr ac yn efrydydd caled, a chadwodd hynny ef mewn cyffyrddiad â'r holl helyntion a'r chwyldroadau a gy- merodd le yn ystod ei oes mewn byd ac eg- lwys. Talodd sylw arbennig i areithydd- iaeth a chredai os oedd gwirionedd yn werth i'w ddweyd o gwbl, y dylid ei draethu yn y modd mwyaf effeithiol ag oedd yn ddichonadwy i allu dynol nid ar antur, megis dyn yn curo'r awyr, ond wedi yr ystyriaeth briodol pa fodd i'w ddangos a'i wneyd yn eglur, a phan fyddai angen, beri iddo gyffwrdd â chydwybodau a chalonnau y gwrandawyr. Meistrolodd y gelfyddyd, a rhaid ei restru ymhlith gor- euon areithwyr y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn wir, rhagorai ar holl siarad- wyr ei oes yn ei ddiweddglo, a dyna un o ddirgelion ei lwyddiant. Ni chlywyd mo hono erioed yn nyddu pregeth neu araeth nes y byddai wedi mynd cyn feined fel na welai y gynulleidfa bwynt ei ymresymiad ac na theimlent un awch ar ei apeliadau, ac yntau yn gorfod terfynu yn sydyn a llipa a diafael. Gwyddai pryd a pha fodd i ddiweddu, a dyma y munudau y gwelid ef yn ei ogoniant. Byddai wedi profi ei bwnc ac yn hofran yn yr uchelder- au mewn llawn fuddugoliaeth, a'i wranaa- wyr wedi eu codi i'r pwynt uchaf o frwd- frydedd; yna dygai ryw wirionedd neu wers neillduol gerbron fel maen clo ar yr adeiladwaith, a sicrhai y cyfan wrth eu gilydd gyda holl ddifrifwch ei natur, nes y byddai ei wrandawyr wedi llwyr ymgolli yn yr un peth mawr a ddadleuid ger eu bron gan y pregethwr hyawdl. Hen Ymneillduwr selog o sir Feirion- ydd, bron ddeugain mlynedd yn ol, a glywais yn son gyntaf erioed am y Parch. David Howell-y pryd hwnnw ficer Pwll- heli. Yr oedd yr hen wr wedi bod yn edrych am ei fab, yr hwn oedd yn cadw Ysgol Genedlaethol yn agos i Bwllheli. Digwyddodd fod ym Mhwllheli y Sabbath, ac aeth i wrando ar y ficer yn pregethu. Ymddengys fod Llawdden yn ei hwyl ar- ferol y tro hwnnw, ac i'w hyawdledd a newydd-deb ei feddyliau gael dylanwad neillduol ar yr hen Feirionwr; o'r hyn lleiaf, 'doedd wedi gweled na chlywed dim ar ei daith yn werth i'w hadrodd ond pre- geth Llawdden. Cyn dweyd gair o hanes ei daith na hynt y mab wrth yr hen wraig, dyma fe yn torri allan­-" Dyna bregethwr sydd gan yr Eglwys ym Mhwllheli chlyw- ais i erioed ffasiwn beth; yr oedd o f el y môr, ac y mae cystal pregethwr a'r un glyw- ais i erioed yn pregethu mewn Sassiwn. Ac nid yn unig y mae yn bregethwr mawr, ond y mae'n ddyn trwyddo draw," ychwan- egai. Yr oedd ar y Methodistiaid eisieu prynnu darn o dir i godi capel arno ond gan ei fod yn agos i'r Eglwys, nid oedd y perchennog yn foddlon i'w werthu heb ymgynghori â'r ficer. A beth feddyliech chwi ddywedodd Llawdden? Dywedodd nad oedd ganddo wrthwynebiad yn y byd, ac mai y cwbl oedd arno eisieu oedd digon o le i ddrws yr eglwys agor. Dyna i chi ddyn teg, o ysbryd Cristionogol, ac yn berffaith foddlon i sefyll ar ei wadnau ei hun." Ac ni pheidiodd yr hen Gymro trwy weddill ei oes a son am y bregeth a glywodd gan y Parch. David Howell ym Mhwllheli yn wir, y bregeth honno, ac eiddo Morgan Howell, Thomas Richards (Abergwaun), a Jones (Llandegai) oedd testyn ei fyfyr- dod a'i siarad yn ei funudau olaf.