Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Jacki, Porthmon Soar. GAN Y PARCH. T. M. REES, BUCKLEY. y ID yw porthmyn yn cael y gair goreu yn was- tad. Ond dyn duwiol 1 iawn oedd Jacki y porthmon. Mae hyn yn dweyd llawer iawn, o n i d ydyw? Cant fwy o fai nag a haeddant mae'n debyg, fel llawer eraill. Bu Jacki yn wyllt iawn, ac yn hoff o'r ddiod pan yn leuanc. Yr oedd ei gampau yn desbyn siarad yr holl wlad oddiamgylch Soar. Yn ei droedigaeth ni chollodd ddim o'i wres a'i fywiogrwydd cynhenid. Fel yr oedd yn brif wrthddrych sylw a siarad cyn ei droedigaeth, felly yr oedd wedi hynny yn y capel. Nid myned i'r capel a sylwi yn fanwl ar seremoniau oedd ei gre- fydd ef, ond egwyddor fyw, newydd, yn llywodraethu ei serchiadau, ei amcanion, a'i holl weithredoedd. O ddillad yr oedd Jacki yn gwbl ddi- ystyr. Ni fuasai yn anwybyddu dillad yn fwy pe wedi darllen a chnoi ei gil ar Sartor Resartus." Argyhoeddiad dwfn wedi ei gyfieithu yn gymeriad oedd pre- geth fawr ei fywyd. Mewn gweddi yr oedd yn nerthol anghyffredin ac yr oedd yn gadarn yn yr Ysgrythyrau. Ni chaf- odd Soar erioed reswm cryfach dros gre- fydd na Jacki y porthmon. Rhyw dro aeth a nifer o foch i'r farchnad Fôr-yd, ac yn eu plith yr oedd dau frawd llai na'r lleill dipyn. Craffodd rhywun ar y ddau hyn, a gofynodd i Jacki,- "Shwd foys i fyta yw'r ddau 'na?" Wel," meddai Jacki, ma stwmog splendad gyda hwna ond am hwn-druan o hono-un bach delicate iawn yw e' Er i'r porthmon ddweyd y gwir wrth y dyn, y mochyn a'r stumog wan brynodd wedi'r cyfan. Mae yn talu i ddweyd y gwir hyd yn oed mewn masnach. Son am foch," ebai Jacki un diwrnod, yr wyf yn cofio mochyn gen i, y sala welas i 'riod. Wel, yr odd c'wilydd arno i arddal ê, wir. Yr odd'i wrych ê yn stiko lan fei poplars. Beth 'yt ti'n feddwl netho i iddo fa?" Wn i ddim yn wir." "Wel, mi g'merais y gwalla \shears). ac mi doras 'i wrych ê dipyn. Os odd ê yn etrych yn gas o'r blân yr odd ê yn etrych lawar iawn gasach weti 'ny. Pan etho i ag ê i Fôr-yd, yr odd c'wilydd arno i sefyll ar 'i bwys ê yn y farchnad. Ar y ngwaith i yn mynd i fewn i'r dre dyma fachan ym mlan ato i gan ofyn,- Faint y'ch chi isha gäi am y teiger 'na?" Chei di ddim o hono fa am unrhyw brish, ebwn ina, 0 herwydd yr odd e'n etrych mor ofnatw o fawreddog ti'n gweld Wel, wedi cyrradd y pen dyma fachan arall ym mlan ato i gan ofyn,- Oti chi wedi bod yn 'i drimio fa erbyn y ffair Mae ê yn etrych yn bert, myn asgwrn i. Faint y'ch chi'n gisho am dano fa?' Wedi tipyn o shiarad ti'n gwel'd, fe geso'r prish oe'n i wedi ofyn ar y cynta'. Fuo fi ddim mor falch i ga'l gwarad o fochyn 'rio'd a hwnnw; a phe bai dicwdd i fi ga'l mochyn 'yto mor hyll a phechod, â i ddim i drio polishio dim arno fa. Ma natur yn drech na chelfyddyd hyd yn oed mewn gwrych mochyn." Os mai gwerthu moch wnai Jacki, nid oedd yn ymdrybaeddu yn y baw fel y cre- aduriaid hynny. Fel pobl Finland yr oedd yn gofalu eu golchi, weithiau, er mwyn cael tipyn o syberwid," fel y dywedai. Tarawai ar rywbeth yn ei ymddyddan a'i gwsmeriaid fuasai yn gwneyd lles i'w calon. Aeth Twmi Dafydd ato un diwrnod i brynu mochyn. Pregethai Twmi ambell waith. Beirniad lled lym ydoedd, yn en- wedig os byddai i bregethwr ddefnyddio papur. "'Rwy i yn lecio ca'l y bara oddar y bâk-stôn," ebai Twmi. Falla 'ny," atebai Jacki, ond rhaid i ti gofio, 'dyw bara ffresh ddim yn cytuno a phawb." O! nid dyna wy i yn feddwl. Yn dwym o'r galon wy i yn feddwl, ac nid yn ffresh o'r study nos Satwrn. 'Rwy'n lico adnota yn y bregeth, Jacki­-rhowch ddicon o adnota i fi ag wy i wrth y modd. Ie, adnota, a thân, a brwmstan. Dyna