Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

'naiff i'r hen foys i symud — gwynto'r sul- phur yn gryf. Fe fydd yn rhaid iddi nhw shiffto o'u lIe pan glywa nhw hwnnw." Dw i ddim yn gallu cyd-wel'd a ti yn y fan yna, Twmi, er dy fod ti yn bregeth- wr," daliai Jacki. Nid y sulphur nath i fi symud, ond tynerwch. Fe alla i sefyll popath yn well na thynerwch. Yr atnod nghoncrodd i odd,- Cbrsen ysig nis tyr, a llin yn mygu nis diffydd." Cyn i'r mochyn gael ei werthu yr oedd- ent wedi dadleu ar etholedigaeth, uffern, nefoedd, y cwymp oddiwrth ras, a llawer pwnc arall. Gwreiddiol iawn oedd syniad- au Jacki ar bob pwnc. Daeth Guto'r labrwr ato i brynu mochyn unwaith. Hen bagan gwyn oedd Guto — anllythyrenog ac anuwiol. Jacki," ebai, ma isha mochyn bach arno i." Yt ti yn meddwl byw am dipyn yto, 'rwy'n gweld, Guto," meddai'r porthmon. Wel, otw, wrth gwrs mod x," atebai'r pagan gwyn. Oti ti yn meddwl rhwpath am fyw ar ol mynd odd 'ma, Guto ?" gofynai Jacki. Oti ti yn meddwl y cewn ni fyw ar ol hyn ta, Jacki ?" Otw, wrth gwrs 'rwy'n siwr y cewn ni fyw ar ol hyn." Wel, beth yw dy reswm di dros gretu fel 'na, Jacki ? Os na rywun wedi dod 'nol i weud rhwpath?" Dylid cadw mewn cof na fu Guto erioed y tu fewn i un lIe o addoliad. Braidd yn anghredadwy ydyw fod y fath bagan i'w gael yng Nghymru heddyw, ond yn ardal Soar mae y peth yn hollol wybyddus. Glywas ti son am Moses, Guto ?" Do fe glywas am foy o'r enw 'na Moses, Mos, Moses ddath a'r Israeliaid allan o'r Aipht pan oin nhw wedi bod 'no am amser hir fel slaviaid, ti'n gweld." `' Diar cato ni," meddai Guto. Nicander Mae'r enw yn dal yn ei fiwsig, Ir fel ei fywyd o gariad a gwaith Cymru adawodd mewn galar adwythig A dyled i dalent a'i llewyrch maith Ni gofiwn y teilwng— binacl anrhydedd Dringodd drwy allu egwyddor a dawn Enillodd mor brid, ddihunan orfawredd, 'R hwn o athrylith, o ddyn oedd mor llawn. Fe wetws Duw wrth Moses am ddod i ben mynydd ychal, ti'n gweld. Ac wedi iddo fa fynd, fe fu farw, ac fe gladdws Duw ei 'i hunan." Wel, os clywas i shwd beth ariod! Pa'm odd Duw yn 'i gladdu ê 'i hunan, Jacki ?" O achos fod Moses yn ddyn mor dda 'rodd perygl i'r bobl fynd i addoli i gorff ê ta nhw yn gwpod lIe cas ê 'i gladdu. Dyna'r rheswm i Dduw g'meryd y gwaith yn ei law 'i hunan." Os clywas i shwd beth ariod meddai Guto drachefn. Mhen cannodd lawar o flynydda wedi 'ny, fe welwyd y Moses yma ar ben mynydd gyta Iesu Grist yng ngwlad Canan Ar hyn rhoes Guto chwibaniad cryf. Hawyr bach dyna ddicon o reswm i fi dros gretu y cewn ni fyw ar ol hyn. 'Rwy'n dy gretu di ar dy air, Jacki." Oti ti wedi meddwl b'le y byddi di fyw, Guto ? Cofia ma'n rhaid i ti ddewish dy le yn y byd hwn." Ma'n rhaid i fi fynd yn awr," meddai Guto wrth glywed hyn, dera i fi ga'l y mochyn 'na." Mae perarogl hyfryd yn Soar ar ol Jacki y porthmon. Erioed ni chafodd gweinidog well cyfaill nag ef. Parod yd- oedd yn wastad i daflu olew ar wyneb y dyfroedd cythryblus. Mewn cymwynas- garwch yr oedd yn ddihafal. Rhoddodd lawer iawn o arian i gynorthwyo bachgen ieuanc godwyd yn Soar i'r weinidogaeth, ac hefyd i'r cymdeithasau dyngarol, dir- westol, a chenhadol. Bu farw yn dangnefeddus. Gorchfyg- odd ofn angau yn gynnar yn ei yrfa gref- yddol, ac edrychai yn orfoleddus arno fel concwerwr. "Dim ond newid lIe fydda i wrth farw, ti'n gweld," ebai, 'rwy' i wedi newid natur yn barod." Os oedd yn blaen, syml a di-nod yng ngolwg y byd, yr oedd yn seren ddisglaei yn ffurafen yr eglwys, ac fe erys ei goffad- wriaeth yn fendigedig yn Soar. Nicander. CYBI.