fuant feirw o newyn a syched yn y cyfryw amser. ABERYSTWYTH Argraffwyd gan John Cox, yn yr Heol Fawr. 1826. Cynhwysa'r faled dros bedwar ugain o benillion. Dyma rai o honynt,- "Chwi'r Cymry mwynaidd moesol, Cyd-synnwch a mi'n siriol, I wrando ar hyn o gyffes glir Mewn geiriau gwirioneddol. O hanes crew o forwyr, Echryslon yw'r achlysur, A thost yw'r driniaeth ddarfu'nt ga'l, Mewn cyflwr sal eu sawyr. Ar fwrdd y Frances Mary, Er coffa am y cyfri', Pedwar cant ond dwy'n ddi gel A gariai hi o dynelli. Y Captain mwyn mewn dychryn, A waeddodd ar y bechgyn, Boed iddynt wneuthur yn ddi baid, Bob peth sydd raid mewn drycin. 0 haliwch lawr yr hwyliau, A brasiwch fynu'r breichiau, Rhowch fynu'r llyw a phen y llong, Yn square ger bron y tonnau. Ni welwyd tan yr haulwen, Fwy achos i wylofain, F'ai'n abl dryllio calon draig I weled gwraig y Captain. "'Rhon ydoedd ferch i farchog, Synwyrol, lân, a serchog, Ac yn meddu llawer iawn, O ddysg a dawn godidog. Hi wisgai nos a boreu Ei sidan hyd ei sodlau, A chambrig Holland yn ei chrys, Ac am ei bys fodrwyau. O'r diwedd daeth ymwared, Ar gefen Mawrth y seithfed, Trwy Frigate brave a'i henw Blond, A phawb oedd ffond ei gweled," &c. Y mae'r faled yn gyfryw nas gellid ei darllen yn gyhoeddus gan mor dryfrith ydyw drwyddi o ddesgrifiadau arswydlawn o'r echryslonderau yr aeth llongwyr a theithwyr y Frances Mary drwyddynt ar ei thrychinebus fôr-hynt. Dyma faled arall o waith Dafydd Rice- Gan David RICE, Llansantffraid. CAN NEWYDD yn cynnwys yr hanes mwyaf neillduol am dri o wyr boneddigion, sef JOHN THURTEL, JOSEPH HUNT, A WILLIAM PROBERT, a gydunasant mewn dirgel fradwriaeth yn erbyn bywyd William WARE, Esquire, o Lyons Inn, Strand, yn Llundain. Y mae'r Gân yn cynnwys yr hanes manylaf am y modd a'r man, Ue y darfu i John Thurtel ei ladd ef, ar nos y pedwerydd dydd ar hugain o fis Hydref diweddaf, 1828, mewn lôn a elwir Gill's Hill Lane, ym mhlwyf Elstree, yn swydd Hertford, pedair milltir ar ddeg o Lundain; yn ol ei dwyllo allan o'r dref uchod i hynny o fan mewn rhith o fyned i'r wlad i saethu petris. Y mae'r amgylchiad hefyd yn ymddangos fod y pedwar gwr boneddig uchod mewn mynych ymarfer o fod yng nghyfeillach eu gilydd, yn chware cardiau ac amryw gampiau eraill, yn yr hyn yr oedd y 'Scwier yn fwy llwyddiannus na'r lleill o'i gyfeillion, ac wedi ennill yn ddi- weddar dri chant o bunnau oddiar John Thurtel wrth chwareu cardiau, yr hyn a enynodd lid a chenfigen yng nghalon y gelyn tuag ato; ac o ganlyniad, y pechod wedi ei ymddwyn a esgor- odd ar farwolaeth y 'Scwier; y mae hefyd un Mr. Noys, a'i ferch, Miss Noys, a Mrs. Probert, wedi cael eu cymeryd i fyny o'r un herwydd. Yr hanes a dynwyd allan o'r diweddar bapurau newyddion a argraffwyd yn Llundain, ac oddiyno a anfonwyd i lawr gan gyfaill i'r awdwr, i Lansantffraid,- Lle darfu im' 'sgrifenu, Yn gloff o'r glun ar wely, I roddi hanes maes trwy'r wlad, Er cariad at y Cymry. Gan David RICE. Aberystwyth, argraffwyd gan E[sther] Williams. Cynhwysa'r faled hon driugain ac un o benillion ac y mae ynddi amryw nodiad- au eglurhaol ar ymyl y ddalen i esbonio'r prifenwau, megis ag y ceir yn y faled flaenorol, gyda hyn o wahaniaeth, fod y nodiadau yn honno yn ngodreuon y dal- ennau ac nid ar yr ymylon. Cychwyna hon fel hyn,- Clywch yr hanes 'sgeler, A basiodd draw yn Lloeger, Ar y pedwerydd dydd ar hugain swrth 0 Hydref, wrth yr amser. "Pan ddaeth y tri llofruddion, Mewn agwedd boneddigion, A 'Scwier Ware aeth efo nhwy, Heb wybod mo'u dybenion. "I maes i saethu petris, Mae'n debyg, oedd eu hesgus, A'u cymhwysderau at y gwaith, Cyn mynd i'r daith arswydus.