Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CANIAD VI. CYSTENYN FAWR, ar ol ad-drefnu'r byd, Ar ol dymchweliad lluoedd uffern ddu, Oedd fel rhyddhawr a phennaeth dynol ryw, Ac addewidion ei foreuddwyd claer, Fel blagur Ebrill yng ngogoniant Awst, Yn cael eu sylweddoli yn ei nawn,- Yn gorffwys un diwrnod-llawn o swyn Mehefin, mewn ystafell yn ei Lys,- Ystafell llе y byddai ef a Duw Yn cydgyfarfod mewn cymundeb brwd. Gyferbyn iddo yr eisteddai gwraig Oedrannus-gref mewn corff a, meddwl, lawn 0 ffydd ac ysbrydolrwydd,-hardd uwchlaw Ei rhyw; ei gwallt modrwyog cedd fel gwlan Sidanaidd ar ei phen; ymdaenai gwrid Drwy wynder difrycheulyd dros ei grudd; A gorffwys ar ei gwyneb-pryd yr oedd Disglaerdeb tawel megis gwawr y nef. Cyfarchai hi,—" Fy mam, fy anwyl fam; Ha mwy na mam i mi a fucst ti. Ti fuost yn oleuni ar fy llwybr,- Yn fur o dân o gylch fy mywyd oll, Ac yn ffynhonnell mewn anialwch cras O gydymdeimlad a diddanwch pur. Dy addysg imi yng Nghaercoelin, pan Chwareuwn wrth dy lin-dan wên fy nhaid, A dy weddiau taerion ar fy rhan, Cadwasant fi yn Nicomedia. bwdr- Yn burdeb effro ac yn rhinwedd byw. Ar hyd fy einioes-mewn dyryswch tost, Yng ngwyneb myrddiwn o elynion certh, Dan gyfrifoldeb amgylchiadau byd,- Mor fynych am arweiniad atat ti, Ac am orffwystra i fy ysbryd blin Yn hedd dy gariad, y dychwelwn i Fy rhwymedigaeth iti sydd yn fwy Na rhwymedigaeth unrhyw fab i fam. Mewn dagrau buost ti yn hau yn hir; Ond medi yn rhyddfreiniad crefydd Crist, Ac ynnof fi, yr ydwyt weithian gnwd Toreithiog mewn gorfoledd. Dos yn awr, yn ol Dy awydd cryf, i Balestina, a dwg Athrylith Cristionogaeth-cariad, hedd, Uniondeb,-gyda thi; a gwasgar hi Drwy fasnach helaeth a dinasoedd heirdd, Diwylliad ac arferion llwythau aml, Y byd dwyreiniol. Gwaith arwrol; ti, o bawb, Gan faint dy ras a dy ddoethineb bur, Er hynny, ddichon ei gyflawni ef. Trwy gychwyn ymgyfathrach rhwng cenedl oedd, A chydgymundeb mwyn rhwng cyfandiroedd, Dechreui ladd gelyniaeth hen ddynoliaeth, A gwneyd paradwys odd y greadigaeth. Dy gariad fydd yn chwilio am y lleoedd Y ganwyd Ef-gogoniant Nef y nefoedd,- Y lladdwyd ac y claddwyd Ef-y Bywyd Tragwyddol,— ac yn esgyn llethrau hyfryd Y mynydd ddringodd ar ei- ffordd i i wynfyd. Ti adeiledi ynddynt hwy eglwysi— Eglwysi fydd yn deilwng o fawrhydi Ein Hymerodraeth, er nad o ddaioni Yr Iachawdwriaeth. Myn yn Bethlehem, Yn lle y Benglog, yn Jerusalem, Cystenyn Fawr. Ac yn yr Ardd, le i addoli Crist Fu unwaith wrth ein gwared ni mor drist; A dychwel adref. Cawn ei foli Ef Ynghyd, pan ddeui, â soniarus lef." Myfi, fy mab," atebai hithau, "af— A af, er hyned wyf, dan nawdd yr Ior; A myned imi sydd yn wynfyd pur. Fel mae fy enaid weithian yn mawrhau Yr Arglwydd am ei ddoniau aml i mi Fy einioes gofiaf heddyw ar ei hyd- Fy nhad—Caercoelin—awr dy eni di- Dy dad ardderchog­ein hysgariad tost- Ei alwedigaeth-Bettws Garmon erch- A Chroesawr ddofn, a llawn o ing i mi! Gwaredodd fi o gyfyngderau fil Ond ni ddisgwyliais weled dydd fel hwn, A mab i mi yn llywodraethu'r byd Gweddio drosot ydoedd gwaith fy oes; Derbyniais fwy—bendigaid fyddo Duw O lawer nag a geisiais i erioed. Yn iach, fy mab A gawn ni gwrdd drachefn in mhen blynyaaceaa weai nyn yr oeua Cynulliad mawr o saint, o lawer gwlad,- Gwyr pendefigaidd, dysgedigion myg, A chadlywyddion llariaidd, claer eu bri, Yn ymfwynhau, ar wyl yng nghanol haf, Wrth drefniad cariad Ymerawdwr doeth, Yng ngerddi eang, swynol, Treves,—у rhai, Mewn awyr lawn o beraroglau iach, Yng ngolwg miliwn o brydferthion byw, Gan gilio weithiau i ochelyd tes, A lleddfu syched ag afalau pêr A grawnwin melus, dan gysgodion ir, Glodforent eu Creawdwr yn barhaus. Moliannent Ef yn bennaf yn ac am CYSTENYN Fawr. Myngent gyda hwyl Rinweddau mirain ei gymeriad pur,- Ei nerth, doethineb, cariad, pwyll, a ffydd,- Uniondeb perffaith ei gyfreithiau byw,- Cadernid iraidd ei lywodraeth fawr;- Dywedent fod ei Lys i gyd yn deml,- Ei lawforwynion yn wyryfon hardd,- Ei wasanaethwyr yn dduwiolion glân, A Duw yn frenin ar ei deyrnas oll. Mawrhawn Ef," meddent, am ei roddi i ni A boed ei was yn wynfydedig byth." Iaith mintai ras:l yma oedd, Y mae Ein Hymerodraeth serch yn un drachefn; Er cymaint yw, er amled, ac er mor Amrywiol yw ei deiliaid, mae yn un 0 Ddwyrain hyd Orllewin, ac o rew Y Gogledd hyd losgfeydd y De, y mae I gyd yn un. Yn un y cafodd rhai Hen Ymerawdwyr hi: gadwasant hi Yn fil o ddarnau. Ond CYSTENYN FAwR. Ar ol ei chael yn ysig ac yn fwy Na hanner marw, er yn fyw o wyn Bradwriaeth a gelyniaeth, ac mor lawn 0 dân eiddigedd nes yr ysai nerth Ac aidd ei bywyd hi ei hun i ffwrdd,- A wnaeth o honi un lywodraeth gref. Er gwaethaf ei chaseion grymus-myrdd