Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

PEN. V. GWERTHU ALMANACIAU A CHERDDI. AN mai rhyw dipyn o lyfrwerthwr teithiol oedd Tomos am ei flynyddau olaf, byddai, yn natur- iol, yn crwydro cryn dipyn oddicartref; er mai anfynych, yn y blyn- yddau hynny, yr ai ym mhellach ar un llaw na Phenmachno neu Ddolyddelen, a Chonwy ar y llaw arall. Cymerai ei amser yn dra hamddenol i fyned o'r naill fan i'r llall. Yr oedd fel pe am gymhwyso yr ymadrodd Ni frysia yr hwn a gredo," hyd yn oed at ei draed. Nid oedd yn cadw siop fawr, gan ei fod yn medru ei chario gydag ef i bob man. Gallai roddi y siop, weithiau, mewn ysgrepan, a phryd arall mewn poced an- ferth, a allasai fod yn ddisgynyddes barchus o ryw hen sach gynddiluwaidd. HEN GÍMERIADAU LLANRWST I. Sion Catrin. Capelitlo. Hawdd iawn ydoedd agor a chau siop fel hyn ar riniog ty, neu fin y ffordd, pan y mynnid. Yr un fath a siopau chwech a dimai y dyddiau hyn, yr un bris oedd ar bopeth yn siop Tomos Williams. Y pris hwnnw ydoedd ceiniog. Fel yr awgrymwyd eisoes, yr hyn a werthid gan- ddo oedd cerddi ac almanaciau. Wrth gwrs, yr oedd cerdd, oni bai iddi fod wedi ei chyfansoddi ar bwnc y dydd, yn llenyddiaeth up to date" unrhyw adeg, tra nad oedd almanac felly. O leiaf, dyna'r farn gyffredin yn ei gylch. Ond ni fynnai Tomos hynny. I bwrpas mas- nachol, yn ol ei dyb ef, yr oedd almanac blwyddyn fyddai wedi dod i ben yn gwneyd y tro yn eithaf gogyfer a'r flwy- ddyn fyddai yn dod i fewn. Wrth werthu almanaciau nid oedd Tomos yn rhy ofalus am edrych rhai am ba flwyddyn oeddynt; y prynnwr oedd i fod a'i lygad yn agored ar ryw fater cysetlyd o'r fath.