Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Mewn ambell ffair, cymerai digwydd- iad tebyg i hyn Ie. Byddai Tomos wedi gwerthu almanac i ddyn neillduol; ac ym mhen yr awr, efallai, deuai y dyn hwnnw ag ef yn ol gan ddweyd,- Tomos Williams, wyddoch chi fod yr almanac ddaru chi werthu i mi yn hen?" Yn hen, wir," ddywedai Tomos, bybê wyt ti 'n alw'n hen ? Faint ydi oed o?" Mae hwn yn chwech oed," fyddai yr ateb. "Ac mi rwyt ti'n galw hynny'n hen Faint ydi dy oed di?" "Mi fydda'n ddeugain Wyl Andras nesa." Wyt ti n hen am fod chdi'n ddeu- gian ?" Gwarchod ni nac ydw i." "Dos adre, ynta, a phaid a dwad ata i i neud ffwl ohonat dy hun, ac i glebar fod yr almanac yn hen." Gwelir ar unwaith mai nid fel y mae rhai yn cyfrif oed" almanaciau yr oedd y marsiandwr athronyddol o Lanrwst yn gwneyd hynny. Mewn amgylchiadau dy- ddorol o'r fath ciliai y prynnwr ymaith yn ddistaw dan wenu a lled edmygu y cymysgedd o ddiniweidrwydd a chyf- rwystra oedd yn yr hen wr, a gadael iddo fwynhau Buddugoliaeth yr Amseroni." Byddai Tomos yn llawn mor ddy- ddorol fel masnachwr cerddi. Cariai lawer math ohonynt. Tra nas gellir ei gyhuddo o fod yn gwerthu rhai an- anfoesol-ac yr oedd cyfiawnder o'r cyfryw i'w cael yn ei amser ef- gwerthai rai gwirion, a rhai digon seil- ion o ran papyr a mater. Cymerai arno, o leiaf, fod yn lled ofalus, ac o geisio ym- ateb cydwybod dda wrth drafaelio gyda cherddi. Ar ben y sypyn a gariai byddai nifer lled dda o'r hyn a ellir eu galw yn "gerddi duwiol — math o farwnadau oer a sych, y buasai dyn yn ewyllysio cael marw yn ei fabandod yn hytrach na chael byw i fod yn wrthrych y fath glin- darddach o rigymau gauafaidd a chrin. Yn awr, golyger fod Tomos yn myned at dyddyn golygus yn y wlad a'i swp cerddi yn ei law. I'w gyfarfod, i'r drws, dyna wraig oedrannus, a pharchus, ond trist yr olwg arni, yn dod. Dealla efe yr amgylchiadau ar unwaith. Mae y wraig, yn ddiweddar iawn, wedi claddu ei gwr. Wedi cyfarch gwell iddi, a chyd- ymdeimlo â hi, tynn allan nifer o "gerddi o gysur â theulu y fan a'r fan, ar farwol- aeth hwn a h,vn." Rhydd air o ganmol- iaeth effeithiol i'r "farddoniaeth odidog" ac i'r bardd aruchel fu yn euog o gablu urddas llên a chrefydd drwy rygnu y fath ysbwrial iseldras. Nid oes eisieu gwas- traffu ychwaneg o "sebon" ar y rhigwm na'i grewr dyna werth swllt yn cael eu prynnu yn y fan, a phryd iawn o datws, cig hallt, a phwdin pys i'r "merchant" caredig a theimladwy. Cylyma Tomos y bwndel i fyny, ac wedi diolch i wraig y ty, cychwynna ymaith, a gofala am fyned drwy y buarth yn y cefn. Nid yw wedi myned nemawr lathenni ffordd honno CYll clywed rhywun yn galw arno, a phwy sydd yno ond dwy lodes hoenus, landeg, gyda gwrid y mynydd ar eu gruddiau, a direidi deniadol, a drechai fynach ac a brynnai sant, yn dawnsio'n beryglus o swynol yn eu llygaid. Merched, neu for- wynion, y ty ydynt. Adwaena'r hen law ei gwsmeriaid, ac ail egyr ei bac yn ddi- ymdroi. Nid yw o ddiben yn y byd iddo ddangos y cerddi marwnadol iddynt. Ugain oed ydynt Mae nerth ac iechyd yn eu holl ewynau. Llenwir eu llygaid â llawenydd, a'u calonnau â gobaith. Ni buont yn glaf am awr erioed, ac ni buas- ent yn gwybod am fodolaeth dagrau oni bai iddynt eu gweled ar ruddiau pobl eraill. Beth sydd a wnelynt hwy â Llen- yddiaeth yr Amdo? Wedi troi heibio y marwnadau gyda diystyrrwch rhai wedi eu diogelu rhag drycin, gofynnant i'r hen frawd gyda math o ddiniweidrwydd, ar fin dysgu cellwair, yn brydferth yn eu llygaid,-­"OeS gyno chi ddim cerddi caru, Tomos Williams?" "Wel," fyddai yr ateb, dipyn yn ochelgar, fel pe tae, dyma i ti hanes caru Hwsmon y Bryn hefo Morwyn y Ddôl, a dyma un arall ar >" ac yna tynnid cryn nifer o rai eraill allan gyda theitlau aruchel cyffelyb. Prynnid hwy yn ddiymdroi, gan nad pa faint fyddai ohonynt. Wrth daro'r far- gen, gofynnai Tomos, "'Rhoswch chi, yda chi'n 'nethod da'ch dwy?" "O, ydan, Tomos Williams, yr ydan ni'n perthyn i'r seiat yn y capel yng ngwaelod yr allt yna," fyddai yr ateb. Rhoddai hynyna ryw gymaint o olew ar gydwybod y marsian- dwr dyddorol a chyfrwys; ac yna ai i'w daith yn llawen, wedi gwneyd masnach dda o ddagrau ffugiol a rhamant garu o'r degfed dosbarth wedi'r cant.