Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

PEN. VI. TRAETHU AR BRIODAS. Nis gwn fod llawer o engreifItiau o'r hyn a ellir yn briodol ei alw yn ffraeth- ineb i'w gael yn hanes Tomos Williams. Efallai nad teg a fyddai honni ei fod yn wr ffraeth. Yr oedd tafod yr hen wr yn hollol barod ar bob amser i siarad ar un- rhyw fa-ter neu achlysur, ond hwyrach mai llefaru yn ddigon di-bwynt a wnai yn fynych iawn. Er hynny i gyd, dichon y taflai i mewn, yn awr ac yn y man, lawer brawddeg bert a difyrrus, a gwerth ei chofio. Pan y byddai mewn tymer lled dda, a phlant y dre wedi esgeuluso plagio" nemawr arno, chwedl yntau, ceid ganddo, weithiau, ychydig o'i hanes yma a thraw yn y byd, ac yn yr hanesion hynny, yn hollol ddiarwybod iddo ef, ceid esamplau mynych o rywbeth tebyg iawn, o leiaf, i ffraethineb; neu, efallai, mai gwell fuasai ei alw yn bertrwydd ym- adrodd. Pan yn "hogyn drwg' yn yr India, yn nechreu y ganrif o'r blaen, adroddai ei fod yn ninas Calcutta un diwrnod iddo gael ei droi allan o'r lIe y lletyai ynddo am guro y gwr a'r wraig a phump o "lodgers" oedd yno. Aeth allan i'r prif-ffyrdd a'r caeau, heb fod ganddo yr un ddimai yn ei boced. Daeth eisieu bwyd a diod arno, a phan wedi dioddef y cyfryw eisieu yn hir iawn, daeth i gyfar- fod â boneddiges hardd a lled rodresgar yr olwg arni. Yn ei gyfyngder gofyn- nodd iddo am dipyn o help. Aeth hithau mewn ymchwydd mawr a gogoneddus i'w phwrs, a thynnodd ddimai allan, gan ei hestyn iddo. Edrychodd T'omos yn lled ddifrifol, ac, efallai, yn sarhaus, ar y dernyn a roddwyd yn ei law; ac ebai wrth y foneddiges, sidanaidd, mewn mwy nag un ystyr, gan gapio yn nodweddiadol arni, "Ydach chi'n siwr, m'm, y medrwch chi sbario cymin a hyn ?" Wedi rhoddi y glec yna iddi, aeth Tomos yn ei flaen yn fyfyrgar ryfeddol. Fel yr wyf, mae'n debyg, eisoes wedi awgrymu, nid oedd efe a'i wraig, Beti Morus, yn byw ar y telerau goreu. Credai Beti nad oedd Tomos yn rhoddi digon o arian iddi i gadw'r ty­-cynnyrch y ffortun ddychmygol oddiwrth yr almanac- iau a'r cerddi. Meddai Beti ar dafod rhyfeddol o barod, ac, ysywaeth, yr oedd gan Tomos dafod llawn mor barod a hithau. Yr oedd donioldeb a hyawdledd eu ffrae, weithiau, yn destyn sylw a dy- ddordeb heol gyfan. Rhaid yw addef fod Tomos, hyd yn oed pan yn Gristion, yn ffraewr digyffelyb. Gallai gyda'r rhwyddineb mwyaf ddyfynnu adnodau o epistolau Paul i brofi yr hawl i'r priodol- deb o ffraeo. O ran hynny, medrai efe wneyd ambell adnod a'i chyfaddasu at ei weithredoedd a'i ymddygiadau ei hun, gan fod yn ddigon beiddgar i'w thadogi ar neb llai nag Apostol mawr y Cenedloedd ei hun. Un diwrnod, pan oedd Beti ac yntau yn cweryla dan arddeliad neillduol o amlwg, cododd Tomos ei lais, ac, efallai, ei law, a llefodd â llef uchel,- Wel di, Beti, dydw i ddim yn mynd i gymryd fel hyn gen ti o hyd. Dydi'r Scrythyr 'i hun ddim yn disgwyl i mi neud hynny. Dyna'r 'Posol Paul, wyt ti'n gweld, pan oedd o'n corespondio hefo'r lodes-nage, y Lodeseaid­-mi roedd yna fwy nag un-­pan oedd o yn cadw cypeini i'r lêdis reiny, mi ddeudodd wrth un o honyn 'hw,- Paid ti a mynd yn gocyn hitio i bawb nac i neb arall,' a dydw inna, Beti, ddim yn mynd i d'adael ditha i nhroi a nhroesi finna fel yr wyt ti'n leicio." Wedi'r araeth awdurdodol yna, byddai Beti Morus yn dechreu arni, ac yn dweyd y drefn gyda chryn hyawdledd, ac ar derfyn ei hanerchiad dywedai,-u Cofiwch chi, Tomos Williams, fodchi wedinghym- ryd i er gwell ac er gwaeth. "Do," oedd atebiad Tomos, "mi cymris i di, yr hen sopen anghynnes, er gwell 0 lawer nag yr wyt ti." Byddai Tomos, yn bur fynych, yn athrawiaethu, neu yn doethinebu, beth a ddywedaf, ar fusnes y priodi. Naturiol iawn oedd iddo wneyd hynny, yn bennaf, oherwydd y profiad chwerw a gafodd ei hun o gylch y fodrwy. Digwyddai fod yn Llanfairtalhaiarn un diwrnod, ac yr oedd dwy briodas yn cymeryd lle yn eglwys y plwyf ar yr un bore, yr hyn oedd yn beth lled anghyffredin yn y pen- tref tlws a barddonol hwnnw. Clywodd Tomos am y priodasau, ac wedi amlygu cryn syndod o'r herwydd, meddai, yn dra difrifol, — "Druan ohonynhwy, yn mentro gneud ffasiwn beth Mi fydd yn difar gan i clonna nhw cyn pen 'chydig wsnos- au. Peth ofnadwy ydi priodi, tasa pobol yn dallt hynny. Wyddo nhw ddim yn iawn be mae nhw'n i neyd pan y byddan nhw'n priodi. Mi ddyla'r hogia yma gofio mai nid person y ddynes mae nhw'n