Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

briodi. Mi ddaru mi briodi hefo'r hen Feti Morus honno, wyddoch chi, ond ar ol gneyd, mi welis i yn fuan iawn mod i wedi priodi ei thlodi hi, ei thempar hi, ei thwyll hi, a'r hen sgiams ofnadwy oedd yn perthyn iddi hi. Wyddoch chi beth, fechgyn, mi 'roedd yna ddynes yn y dre acw, dro byd yn ol, yn mynd i briodi, ac mi ddeudais i, os basa rhwbath yn agor i llygid hi, mai priodi fasa'r peth tybyca o neud hynny ac, yn siwr i chi, mae honno, rwan, yn gweld yn iawn heb na sbectols na dim." Unwaith caeth pâr ifanc oedd wedi priodi ers blwyddyn neu ddwy, ato i ddweyd fod ganddynt fabi, ac yr oedd y baban ar freichiau ei fam ar y pryd, a danghoswyd ef gyda phob balchder goddefadwy a naturiol i Tomos Williams. Wrth weled yr hen sylwedydd mor ddi- gyffro, gofynnodd y gwr ifanc iddo,- Wel, Tomos Williams, beth yda chi'n feddwl o'r babi ? Welsoch chi un clysach na fo yn rhywle ryw dro?" LLAN DDEWI'R CWM, GER LLANFAIR MUALLT. R oedd prydnawn dydd Gwener, Gorffennaf 8, 1853, yn anarferol o dy- wyll, mwll, ac afiach a'r noson honno, yn gynnar yn y nos, dechreuodd daranu, a pharhaodd y "tyrfau" i neshau a chryfhau, fel erbyn hanner nos yr oedd yr ystorm mor anghyffredin o gryf a dy- chrynllyd fel na chlywodd yr hen bobl fwyaf oedrannus oedd yn fyw erioed ei bath. Yn oriau y bore, i wneyd yr ystorm yn waeth eto, disgynnai y gwlaw yn genllif mawr, a hynny'n ddidor, nes cadw bron pob teulu mewn anhunedd. Ond hyn sydd yn rhyfedd i'w adrodd, nad oedd y taranau yn cael yr un effaith ar bawb. Tra yr oedd llawer yn effro drwy y nos gan ddychryn, cysgai rhai mor drwm fel nad oedd modd i'w deffroi. Ad- roddir am hen bobl yn byw yn Rhyd Wilym, yn y plwyf a ennwyd, tra yr oedd yr hen wraig ar ddihun yn y gwely trwy "Wel," atebai yntau, "peth ofnadwy ydi babi, fel y cei di weled mewn deufis neu dri. Mi fu gen i fabi ryw dro, ac ni welis di 'rioed ffasiwn gampia a llanast fedra fo neyd mewn rhyw hanner awr. Wyddost ti, mi fedrai hwnnw waeddi am ddeng munud heb gymyd ei wynt o gwbwl. Mi fyddai'n tynnu digon o flew o marf a ngwallt i i stwffio gobennydd y dydd y mynnoch di. Mi fydda'n tynnu pob math o luniau ar bapyr y wal hefo'r pocer ac mi wnai hynny weithia pan fyddai hwnnw yn boeth. Mi fydda'r criadur bron yn sicir o fynd yn swp sal os na fedra fo dorri soser ne gwpan dê yn regilar bob pum munud. Mi fyddai yn gofalu am syrthio ar i wymad i'r lIe cadw glo, ac ni ddoi y gwalch ddim oddi yno os nad awn i a'r pot jam iddo fo. Peth ofn- adwy ydi babi, wel di! Paid ti a chan- mol gormod arno fo, nac ymfalchio gor- mod yno fo ar y dechra 'ma." Llawer o sylwadau cyffelyb yn ddi- ameu a draddododd Tomos Williams ar y cwestiwn mawr a dyddorol o briodi a de- chreu byw. Llif y Ddol Fach. gydol y nos yn ei hofn a braw, yn credu fod diwedd y byd wedi dod, cysgai yr hen Wr yntau mor drwm er iddi alw "Tom" yn aml, a cheisio ei ddeffroi lawer gwaith, fel yr oedd pob ymgais yn gwbl ofer. O'r diwedd rhoddodd i fyny, gan dybied fod yn well ei adael i fyned i'r byd arall yn esmwyth a thawel yn ei gwsg, na'i ddeffroi a myned yn ei ddychryn. Parhaodd y mellt a'r taranau, a'r gwlaw i ddisgyn, am oriau; ond yn ffodus nid oedd y gwynt yn gryf y noson hon; ond taranau yn rhuo trwy y nos, a gwlaw yn disgyn fel cenllif y trofanau, oedd prif nodwedd yr ystorm; fel erbyn i'r bore wawrio, yr oedd yr holl nentydd wedi gorlifo'n mhell dros y glannau, a'r gwastadeddau yn orchuddiedig gan ddyfroedd. Gwnaed niweidiau a cholledion mawr- ion i lawer o eiddo, yn dai ac anifeiliaid, ym mhlwyf Llanddewi'r Cwm. Di- wreiddiwyd coed mawrion, y rhai a ddaethant i waered gydag afon Dihoenwy,