Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

nes llanwodd bwa pont Llanddewi'r Cwm, ac yn fuan ymollyngodd y bont o dan bwysau'r gronfa, a chymerwyd hi ymaith yn llwyr. Yn awr, cododd hyn lif yr afon mor sydyn, fel mai diangfa gyfyng a gafodd rhai teuluoedd wrth geisio ffoi i'r llofftydd rhag y dwfr. Ym Melin Dol Llinwydd, ar yr un afon, yr hon oedd yn cael ei dal gan ddyn diwyd o'r enw Thomas Evans, y gwnawd y trychineb nesaf a adroddir. Cafodd ef a'i deulu ddiangfa hyd at fod yn wyrth- iol. Daeth y llifeiriant mor sydyn, a chododd y dwr mor uchel, gan lanw i mewn i'r ty, fel y gorfu i'r preswylwyr oll ddringo i'r nen-lofft, ac yno eto canlyn- wyd hwynt gan lanw y dwfr, fel y gorfod- wyd hwynt o'r diwedd i dorri twll yn y to i fyned allan, a cheisio am ddiogelwch ar ben yr adeilad. Yn fuan gwelent fod un hanner i'r ty yn cael ei gymeryd ymaith. Yn awr symudodd yr oll 0 honynt i ran arall o'r adeilad, Ue y buont yn y sefyllfa honno am oriau, a hynny hyd doriad y wawr, yn disgwyl am enciliad y dwfr. Adnabyddid un o'r plant hyn, a fu yn y cyflwr yma, mewn blynyddoedd diwedd- arach wrth yr enw Evan Evans (Llew Buallt), arweinydd poblogaidd Côr Un- debol Buallt, yr hwn sydd newydd ymad- ael a'r byd a'r bywyd hwn, ac wedi ym- uno a'r côr nefol, er Hydref 18, 1903, yn 57 mlwydd oed. Felly nid oedd ond saith mlwydd oed pan fu yn y sefyllfa beryglus honno am ei fywyd. Ond y mae y gwaethaf eto heb ei ad- rodd. Ychydig yn is i lawr, ar fin yr afon hon-Dihoenwy, yr oedd anedd-dy o'r enw y Ddôl Fach, lIe y cyfaneddai hen foneddiges barchus o'r enw Mrs. Law- rence, ei mherch, ei mhorwyn, a'i dau wyr. Wedi i oleuni dydd dywynnu ar y dyffryn, gwelwyd fod y ty a'r teulu wedi eu hysgubo ymaith yn llwyr, ac ymhen rhai diwrnodau y deuwyd o hyd i gyrff y trueiniaid anffodus yn afon Gwy. Aeth corff y ferch gyda'r llifeiriant mor bell a thref Talgarth, — pellter o bymtheg mill- tir o leiaf. Yr oedd llawer ty yn yr ardal hon mor llawn o ddwfr y bore hwn, yn enwedig ar leoedd gwastad, fel nas gallai y teuluoedd anturio oddi ar y llofftydd i lawr i'r ceginau; ac mewn rhai tai deuai y dyfroedd allan trwy ffenestri'r llofftydd fel cwympiadau nentydd tros greigiau. Pan agorodd un amaethwr ddrws ei dy, Ty'n y Pant, Llanwrtyd. rhuthrodd y dwfr allan, gan gario llestri, dodrefn ysgeifn, a phob esgid oedd yn y ty allan gydag ef. Diwreiddiwyd coed ar amryw leoedd ar lannau'r Dihoenwy, a chludwyd hwynt i wared gyda'r llif mor bell a Dôl Llin- wydd, lIe y taflwyd hwynt allan i ddôl eang yn nhrofa'r afon; a dywedir i'r deiliad,­-Mr. Price, — o'r lIe hwnnw, werthu gwerth can punt 0 goed ynn oddi ar y ddôl honno'n unig. Torrodd yr afon hon allan dros ei cheulannau mor gryf fel y newidiodd ei chwrs yn hollol mewn rhai lleoedd am led caeau. Torrodd darn o dir (landslip) ar lethr yn yr ardal, a rhedodd i waered gyda y fath nerth a chyflymder, gan fyned ar draws adeilad newydd oedd wedi ei godi i gryn uchter, ac aeth a'r oll o'i flaen i ffwrdd, fel nad oedd ond prin ddim olion o hono'n aros ar ol. Llithrodd darn an- ferth oddi ar lethr yr Allt Walltog, fferm ar ochr ddwyreiniol Dihoenwy, a rhedodd i waered hyd ddyffryn gwastad islaw, lle y safodd. Ar ei ganol tyfai derwen o faintioli lled fawr; dangosir y darn tir hwn eto, a'r dderwen yn tyfu'n foddlon fel cynt; a chyfrifir hon gan yr ardalwyr yn un o brif ryfeddodau y cylchoedd, yn parhau o hyd i fytholi bore yr ystorom fawr. Ymdorrodd dwfr allan ar lethrau sychion mewn amryw fannau ym mhlwyf- ydd Maesmynys a Llangynog, yn ffrydiau mawrion lle na welwyd ffynnon nac un tarddiad erioed o'r blaen; ac ar eu rhwygiad allan o'r ddaear, achosent dwrf rhyfedd a chlywadwy o bell, a thaflent swm anferth o dir i fyny i gryn bellter i'r awyr, a dilynid y ffrydlifoedd rhyfedd hyn gan arogl brwmstanaidd trwm. Llifai y fath nerth o ddwfr allan o'r tor- iadau hyn fel y torrent rigolau dyfnion yn y llethrau wrth redeg i waered, a gwelir olion amryw o honynt eto ar rai ffermydd yn y plwyfydd a nodwyd. Cymerodd y toriadau hyn Ie wedi i'r bore wawrio ar y wlad; a chan fod y gwlaw wedi peidio, a chynifer o deuluoedd yn effro trwy y nos, aeth llawer iawn allan i edrych ar y gol- ygfeydd annisgrifiadwy, ac y mae dynion geirwir sydd eto'n fyw, oedd yn llygaid- dystion o'r hyn a adroddwyd uchod. Yr oedd yr holl ardal wedi ymddyrysu megis gan fraw, fel y symudodd amrai i ardal arall i gysgu y nos Sadwrn honno. EVAN JONES.