Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

A BAEDDU YMNEILLDUAETH. GAN Y PARCH. T. J. JONES, M.A., GELLYGAER. ■ SGYNNODD Ann i'r or- sedd yn y flwyddyn 1702. Merch ydoedd, fel y gwel- som, i Iago II., ond trwy ddyfarniad y Parlia- ment, yn hytrach nag o herwydd unrhyw ber- thynas i w thad y gwnaed hi yn frenhines. Yr oedd gwaed yr hen âch brenhinol ynddi, a da fu gan lawer am hynny, oherwydd sicrhau, fel y tyb- iwyd, adferiad y feddyginiaeth oddiwrth glwyf y brenin. Bu yn briod a Sior, tywysog Denmarc, a bu iddi fab, yr hwn a fu farw yn blentyn bychan. Ymron yn uniongyrchol ar ol iddi hi ddechreu llywodraethu torrodd rhyfel fawr allan ar y Cyfandir rhyngom ni a Ffrainc a'r Ysbaen. Cododd y Duc o Falboro i hynodrwydd a llwyddiant ang- hyffredin fel arweinydd ein byddinoedd. Yn ystod y rhyfel honno yr enillwyd y fuddugoliaeth fythgofiadwy ar faes Blen- heim ac y cymerwyd Gibraltar. Bu y rhyfel yn hir iawn ei pharhad, ac o gost dychrynllyd mewn gwaed a thrysor i'n gwlad, ond fe dewir son am hynny. Soniais gynt* am y gwahaniaeth rhwng rheithor a ficer, ac hefyd fel y coll- odd yr Eglwys eiddo rheithorol y plwyfi hynny lIe yr oedd nceriaid ar waith yn nyddiau Harri VIII. f Parhaodd lluaws mawr o'r ficeriaethau dan sylw yn druenus eu tylodi. Byddai yr hen fynachlogau, i grombil y rhai yr elai cyllid rheithorol y plwyfi crybwylledig, yn cymeryd dy- ddordeb ymarferol ynddynt. Os ychydig o weddill darpariaethol a adawsant ar gyfer eu ficeriaid, gofalasant am adael digon iddo i fyw yn gymhedrol. Os oedd y cynteddau eglwysig yn y plwyfi hynny yn dadfeilio, yr oeddynt yn eu had- gyweirio, neu yn codi rhai newydd yn eu lIe. Os oedd cyfyngder ar y tlawd yn- ddynt, yr oedd cardod i'w gael ond myned i'w geisio. Nid felly y bu gyda'r sawl a ddaeth- ant i feddiant o'r rheithoriau trwy rodd î CYMRu, Ionawr, 1902. + CYMRu, Ionawi 1903. + Cymbu, Ebrill, 1903. Breinior Eglwys neu bryniad wedi i Harri osod dwylaw anghyfiawn arnynt. Nid oedd y medd- ianwyr newydd yn malio am ddim namyn am gael y geiniog eithaf. Nid oedd waeth ganddynt hwy am y ficeriaid tylodion. Nid oedd resyn ganddynt weled y muriau cysegredig yn malurio, a'r toion yn ym- agor i dderbyn y gwlaw a'r eira, yr oerni a'r gwres, i'r mannau oeddynt gynt yn glyd yn y plwyfi o'r rhai y derbyniasant y cyfoeth rheithorol. Os hefyd yn yr am- ser gynt y darparwyd ar gyfer cynorthwy- wyr offeiriadol gan y Chantries a'r Guilds mewn plwyfi lawer, nid oedd mwy ddar- pariaeth ar gyfer cynorthwywr i neb oher- wydd yr ysbeiliad a fu. Bu colledion dirfawr i'r Eglwys yn amser y gwrthryfel a'r Werin-lywodraeth hefyd. Tylodwyd llawer o'r esgobaethau a'r glwysgorau, a dadfeiliwyd nid ychydig o gynteddau glân. Daeth tylodi a dadfeiliad i orwedd ar yr Eglwys fel y dwfr ar wyneb y tir. Yr oedd ambell i swydd a phlwyf ac eglwys yma ac acw mewn cyflwr cysurus, fel y bryniau ynghanol y llif-ddyfroedd gerllaw. Yr oedd y rheithorau, y rhai nid ysgarwyd oddiwrth yr Eglwys, yn parhau megis o'r blaen. Yr oedd felly yng Nghellygaer. Parhaodd y degwm yma yn ei gyfiawnder, ac yr oedd i'w gael ar ddydd Pasg ddwy geiniog gan bob gwr a gwraig, tair ceiniog gan bobgwr gweddw a gwraig weddw, a cheiniog gan bob plwyfol arall un ar bymtheg oed neu ragor. Casglwyd y taliadau hynny yn rheolaidd, a pharhaodd y drefn ymhell i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Y dyb gyffredin yw fod cyfoeth rhy- feddol yn perthyn i Eglwys Loegr. Yr oedd hynny yn wir, ac eto y mae gofyn eglurhad. Nid oedd gan yr Eglwys gyllid cyffredinol o gwbl. Yr oedd gan y swyddi a'r plwyfi eu cyfoeth priodol eu hunain. Yr oedd rhai o'r rhai hyn yn gyfoethog, ac ereill heb fod felly, tra yr oedd lliaws o honynt yn dylodion i'w ryfeddu. Meddylier am esgobaeth Llandaf. Bu honno gynt yn dra chyfoethog, ond wedi yr ysbeilio a fu o dan Harri VIII. a'i fab, a'r colledu a fu o dan y Werin-lywodr-