Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

aeth, ynghyd a'r bargeinion colledfawr a wnaed yng ngosodiad a gwerthiant y tir- oedd, aeth esgobaeth Llandaf nad ydoedd hi braidd yn werth dim. Dywed yr esgob Beaw, Mewn perthynas i'm cyllid dyma ydyw; o hen renti £ 230 y flwyddyn, ac nid un ffyrling yn fwy." Yr oedd y treuliadau rheidiol allan o hynny ogymaint ag i osod yr esgob druan mewn cyfyngder neillduol. Yr oedd felly gydag esgob Llandaf, ac yr oedd yn waeth, ysywaeth, gyda llawer o'r offeir- iaid plwyfol. Yr oedd plwyfi lIe nas gellid cynnal offeiriad o gwbl, ac felly y daeth yn ar- ferol uno plwyfi ynghyd o dan ofal un person er gwneuthur darpariaeth rheid- iol ar ei gyfer. Yn ol y cynllun hwnnw cafwyd cyflog, a hwnnw yn fynych yn ddigon bychan, ar gyfer y gweithiwr, ond beth am y gwaith ? Pa fodd y gallasai un gWr gyflawni yr hyn fu gynt yn ddigon o waith i ddau ac efallai i dri neu ychwaneg? Pe buasid yn cau rhai o'r eglwysi ac yn ymroddi i wneuthur cyf- lawnder o waith mewn un lIe, buasai llewyrch mae'n debyg mewn mwy o fan- nau. Eithr yr oedd yr offeiriaid yn awyddus i wneuthur eu rhan, goreu y gallont, i'r holl blwyfi oedd yn talu at eu cadw, ac wrth geisio rhannu cyfiawnder yn gyffredinol, ni lwyddasant i wneuthur nemawr o les i neb. "Mae'r cyflog a ganiateir i'r curad mor fychan," ebe Erasmus Sanders, "fed y rhaid iddo wasanaethu tair neu bedair o eglwysi am £ 10 neu £ 12 y flwyddyn-- a'r eglwysi hynny gynifer o filldiroedd oddiwrth eu gilydd. A than yr amgylch- iadau, gyda pha fath drefn neu gysondeb y mae'n bosibl cario'r gwasanaethau ymlaen? Carlamant ar frys drwy'r gwaith o ddarllen y llithiau, ac fel pre- gethwyr teithiol, rhuthrant ar ol y gwas- anaeth mewn un lIe i Ie arall." Dyfyn- nir y gosodiad yna o hanes cyfnod di- lveddarach, ac yr ydys yn ei roddi yn y yn y fan hon am ei fod yn dangos i'r dim yr hyn a allesid ddisgwyl gan ficer tylawd ac aml-blwyfog ei wneuthur yn yr am- serau y sonir am danynt. Nid rhyfedd, gan hynny, i'r gwaith eglwysig ddirywio yn y cyfryw leoedd ac o dan y fath amgylchiadau, ac nid rhy- fedd i safon cymdeithasol yr offeiriaid tylodion ddisgyn yn dra isel. Gwir y dylid gwneuthur cyfrif mawr o weini- dogion yr Efengyl "er mwyn eu gwaith," ond y duwiol a wna hynny. Nid dyna drefn y byd, gwaethaf modd; ac y mae'r ffaith i'r offeiriaid gael eu diystyrru, o herwydd bychandra eu da bydol, yn awgrym lled gadarn o fydolrwydd yr amserau. Mwy na hynny. Yr oedd y tylodi dan sylw, a'r dull anfoddhaol o gyflawni y gwasanaethau eglwysig yr hwn a'i di- lynodd, yn niweidiol i grefydd. Drwg iawn oedd gan Ann am hynny. Yn yr amserau Pabyddol daeth yn ar- ferol i bob offeiriad plwyfol a swyddwr eglwysig i anfon blaenffrwyth ei gyflog, ar fyned i'w swydd, a'r ddegfed ran 0 hono yn flynyddol wedi hynny, i'r Pab o Rufain. Daeth yr arfer, gan bwyll, yn rhan o gyfraith y tir. Pan dorrwyd y cysylltiad rhwng Eglwys Loegr a'r Bab- aeth, ni ddifodwyd y gyfraith honno, o leiaf ni ryddhawyd neb o'r cyfrifoldeb i gyfarfod y gofyniadau. Y peth a wnaethwyd oedd hyn,-cymerodd y brenin y taliadau iddo ei hun. Felly yr aeth y blaenffrwyth a'r degfedau yn eiddo y pen coronog. Yr oeddynt felly yn nyddiau boreuaf Ann. Beth bynnag a feddylir am amddifadu y Pab o honynt. ac yr wyf yn bersonol o'r farn mai gwaith da ydoedd, dyweder a fynnir, cysegr- ysbeiliad ydoedd eu defnyddio i ddim namyn achos crefydd Iesu Grist. Felly yr edrychai Ann arnynt, ac ni fynnai eu der- byn mwy. Trosglwyddodd hwy i ddir- prwywyr er mwyn iddynt eu trosglwyddo i wasanaeth crefydd, gan eu dosparthu deced ag y gallont ar gyfer y plwyfi hynny ag oeddynt mewn mwyaf 0 anghen cynorthwy. Parheir i gasglu y blaenffrwyth a'r degfedau hyd y dydd hwn. Telais i y swm o £ 20 3s. 8c. fel blaenffrwyth ar fy nyfodiad i'r plwyf hwn, ac yr wyf byth er hynny yn talu £ 2 1s. 3c. yn flynyddol fel degfed. Lled anhawdd yn fynych yw cyfarfod y galwadau yn yr amserau cyfyng hyn sydd bellach wedi goddi- weddyd perchenogion degwm ers llawer o flynyddau, eithr, wrth dalu y degfadau, yr wyf yn diolch bob amser am fod yr hyn a fu am oesau yn gysegr-ysbeiliad wedi ei ddychwelyd i'r Eglwys, ac hefyd am ei fod yn myned i gynorthwyo ereill mewn plwyfi tylotach na'r hwn yr wyf ynddo. Diolch fyth hefyd i'r frenhines Ann. Y mae y "Queen Anne's Bounty" yn gof- golofn gyda'r ardderchocaf i haelioni cymhwynasydd a geir yn y byd. Bu yn foddion i leddfu llawer cyfyngder ac i