Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

esmwythau llawer sefyllfa greulawn ei thylodi, eithr nid oedd ac nid yw yn ddigon i gyfarfod pob eisiau yn yr Eglwys. Do, fe wnaeth tylodi niwed i grefydd, ac yr oedd Deddf felldigedig y Prawf yn ei gwenwyno yn barhaol ac yn cyrraedd hwnt i gylch yr Eglwys yn ei heffeithiau. Yr oedd Ymneillduwyr hefyd yn awyddus am swyddi cyhoeddus, ac er mwyn eu cyrraedd, yr oeddynt arferol, fel bo angen, o gymuno yn ol y gyfraith yn yr eglwysi. Nid pawb o'r cyfryw oedd- ynt a gras digonol ynddynt i barchu yr ordinhad, serch y gorfod oedd arnynt i gyfranogi o honi os mynnent swydd. Aeth y peth yn warth. Wrth gwrs, ar y Ddeddf yr oedd y bai, a gwyn fyd pe na buasai hi erioed yn bod. Buasai ei di- ddymiad hyd yn oed yn y dyddiau di- weddar hynny yn gaffaeliad mawr i'r Eglwys ac yn iechyd i Ymneillduaeth, eithr ni ddiddymwyd mo honi. Aethpwyd ymlaen i geisio dileu y gwarth crybwylledig mewn modd arall. Pasiwyd deddf yn 1713, yr hon a elwid "The Occasional Conformity Act." Gosodwyd fod i'r neb a gymuno yn yr eglwysi er mwyn cael myned i swydd gy- hoeddus, ac wedi hynny, tra yn dal swydd, a fynycho addoliad ymneillduol, i gael ei golledu o gan punt ac i dalu pum punt am bob dydd y parhai yn Ymneill- duwr ac yn ei swydd wedi iddo broffesu ei hun yn Eglwyswr wrth fwrdd y Cymun ar ei fynediad i'r swydd. Nid yn rhwydd y pasiwyd y Ddeddf honno. Aeth y ddeddf ar ei chyfer trwy Dy y Cyffredin yn hwylus yn 1702, ond taflwyd hi allan o Dv yr Arglwyddi. Bu felly fwy nag unwaith. Yr oedd Tenison, Archesgob Caergaint, a naw o esgobion ereill yn erbyn y mesur, tra yr oedd Sharp, Archesgob Caer Efrog, a phump o esgobion, o'i blaid. Yr oedd yr Esgob Compton o Lundain yn hynod o gadarn yn erbyn y mesur. Taflwyd y llywodr- aeth allan o swydd yn 1705 a bu etholiad cyffredinol ar y pwnc. Datganodd y wlad ei llais yn erbyn y mesur, ac felly nid oedd perygl iddo basio yn y Parliament newydd. Tra yr oedd y Parliament hwnnw mewn bod, digwyddodd peth a fu yn foddion i droi teimladau yr etholiadau o blaid y mesur. Pregethodd un Dr. Sacheverell o flaen Arglwydd Faer Llun- dain, gan daranu yn erbyn y blaid wrth- wynebol i'r mesur. Dygwyd ef o flaen ei well am hynny, a dirwywyd ef. O gan- lyniad ymagweddodd fel rhyw fath o ferthyr. Teithiodd trwy y wlad gan gy- hoeddi ei helbulon a haeru fod yr Eglwys mewn perygl. Cyffrowyd y bobl. Daeth yr etholiad yn brydlawn, a bu newid mawr ar y gynyrchiolaeth yn y Parlia- ment. Pasiwyd y mesur yn 1713, wedi bod o hono yn bwnc dadleuaeth am un mlynedd ar ddeg. Trwy hynny daeth yn amhosibl bellach i Ymneillduwyr barhau i fynychu addol- iadau Ymneillduol cyhoeddus, tra yn dal eu swyddi, eithr ni pheidiasant a bod yn Ymneillduwyr. Yr oedd llawer o hon- ynt gyfrwysed a'r sarff, ac, yn Ue myn- ychu yr addoliadau Ymneillduol, aethant i gadw capleniaid Ymneillduol yn eu tai. Ac nid oedd yr ormes eto wedi cyrraedd ei hantreth. Yn 1714 pasiwyd Deddf yr Ymraniad. Trwy honno amddifadwyd yr Ymneillduwyr o bob hawl i gadw ysgol- ion o un math ac i fod yn athrawon i neb heb iddynt yn gyntaf lawnodi amod i gyd- ymffurfio ag Eglwys Loegr, a chaffael trwydded oddiar law esgob. Yr oedd hwnnw yn gwmwl bygythiol dros ben i'r Ymneillduwyr, eithr diflannodd heb ar- llwys ei gynnwys trwy farwolaeth y fren- hines Ann. Mi welaf i mi adael yr argraff ar feddwl y darllennydd mai amcan aruchel yn unig oedd yn cyfrif am Ddeddf y Cyd- ymffurfiad Achlysurol. Dyna oedd yr amcan mewn golwg pan y meddyliwyd am dano gyntaf, ond, yn ystod yr hir drafod- aeth a fu yn ei gylch, daeth amcanion llai teilwng i waith. Nwydau cashaol yn hytrach nag amcanion anrhydeddus sydd fynychaf yn corddi yr etholwyr. Par- tiol ar y goreu yw esgynlawr politicaidd, ac y mae yn ddiameu i atgasrwydd tuag at Ymneillduwyr fod yn fwy ei Ie a'i effaith ar hanes sylweddoliad y mesur a esgorodd ar y Ddeddf dan sylw, na sel tros iachusrwydd yr ordinhad dwyfol Cofier hynny, a chofier hefyd un peth yn ychwanegol. O amser Iago I. hyd Ann, yr oedd y teyrn yn dal brenhiniaeth Lloegr a brenhiniaeth yr Ysgotland..Yr oedd megis yn ddau beth. Yr oedd dwy deyrnas yn y wlad. Yn amser Ann, sef yn 1707, unwyd y ddwy yn un deyrnas gyfunedig, ynghyd ag un Parliament ac un pen coronog. Felly y daeth y teyrn yn deyrn Prydain Fawr.