Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

i: IN hunig esgusawd am gymeryd testyn mor syml i ysgrifennu arno ydyw ei fod yn rhoddi i ni fantais i adrodd rhai pethau, os nad yr oll, ag sydd yn gorwedd o fewn cylch cof a phrofiad personol. Peth arall, y mae y trigain mlynedd diweddaf wedi dwyn cyfnewidiadau mawrion i mewn i fywyd ein cenedl. Nid ydys yn golygu yn awr y cyfnewidiadau ddygwyd i mewn gan addysg well, a manteision teithio llawer amgenach, ond y cyfnewid- iadau llai hynny ym mywyd cyffredin a phob dydd ein cenedl. Os felly y mae yr ieuanc yn anwybodus o'r modd y byddai eu teidiau a'u neiniau yn byw. Ymofyniad y gellir ei gyflwyno i sylw cyn myned ymhellach ydyw, — Pa un ai dirywio ai diwygio y mae yr oes, gwella ai gwaethygu wna y byd? Nid ydym yn teimlo yn barod i ymgymeryd a'r cyfrifol- deg o ateb. Ond pe yn gwneyd, credu yr ydym y gellid dweyd llawer y naill ochr a'r llall. Nid oes ddadl nad ydyw yr oes hon wedi gwella yn fawr ar yr oes o'r blaen yn ei 'ehyfleusderau teithio, a'i haddysg, ac yn yr arbediad mawr yn awr ar lafur, a hynny oherwydd y peiriannau dirif sydd wedi llenwi ein gwlad, peiriant gwau, a gwnio, aredig, a medi a dyrnu, corddi a chneifio, peiriant canu a gweddio. Nid ydym wedi gweled yr un o'r dosbarth diweddaf; a mwy na hynny, nid oes ar- nom chwant gweled yr un. Oherwydd, os nad all dyn weddio heb gael peiriant i wneyd trosto, credwn mai ofer yw cre- fydd hwnnw." Ond os yw yr oes wedi gwella yn y pethau hyn, nid ydym yn sicr nad ydyw Bywyd y Cwm. wedi dirywio mewn ystyron eraill. Credu yr ydym nad ydyw y moethau mewn bwydydd sydd i'w cael yn awr, er yn fwy dymunol i'r archwaeth, yn fwy llesol, nag mor llesol i'r cyfansoddiad, a bwyd yr hen Gymry gynt. Edrychwch ar y dillad, mor glyd a diddarfod oedd dillad o frethyn cartref. Os nad oedd y gôt yn dwyn delw y London cut, yr oedd hi yn llawer cynhesach. Os nad oedd y bais a'r betgwn yn dwyn olion y Paruian style, yr oeddynt yn llawer mwy syml a digost na'r flimsy style bresennol. A beth bynnag allasai y gwrthwynebiad fod i'r het fawr a'r coryn uchel, onid oedd yn llawer mwy diogel i'r ferch na'r tusw bach o flodau a rubanau fel y maent yn awr? Ac eto, a chymeryd popeth i gyfrif, gwella y mae'r byd. Er cael golwg ar fywyd Cymreig pur rhaid ydyw myned i'r Cwm. Ond nid oes unrhyw olwg y ceir dim i'n cludo am- gen na'r ceffylau bychain, heglog, a blewog sydd wedi eu dwyn i'n cyfarfod gan y brodorion. Y math hwn yn ddiau ydoedd y rhai oeddynt eiddo Abraham y Ceunant a'i gymdogion, pan y diolchai i'r Brenin Mawr am roddi y cyfryw iddynt, ac nid ceffylau mawr, o'r fath ag a wel- odd yn ffair y Bala; am y rheswm nad elai y fath geffylau mawr i'r ystablau oedd ganddynt hwy. Meddwl wnelai y mae yn debyg fod yn haws i'r Creawdwr wneyd ceffylau bychain, nac iddynt hwy wneyd ystablau mwy. Ond pe y cer- bydau goreu erioed at ein gwasanaeth, nis gellid gwneyd unrhyw ddefnydd o honynt, ar y ffordd sydd gennym i'w theithio. Ffordd gul, garegog, a, llawn rhiwiau serth ydyw ac ar hyd yr hon yn aml y teithia y llifeiriant, pan yn brysio i'r môr.