Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y mae yr ardal yn fwy rhamantus nag ydyw o brydferth; ac aberoedd ei bryniau fel cadwyni arian yn disgyn i lawr ei bronnau. Tai bychain ydyw y tai ar y cyfan wedi eu hadeiladu yn gad- arn o gerrig. O ran dim defnydd wnelid o briddfeini, gellid meddwl na bu y cyf- ryw yn nes atynt erioed mewn amser a lIe, na'r rhai a wnelid gan yr Hebreaid yn yr Aifft ers llawer dydd. Ac nid anaml y gofidiai llawer hen bererin wrth ddar- llen hanes creulondeb Pharaoh tuag atynt, na buasai yn nes at y clogwyni oedd yn addurno ei ardal enedigol ef, rhag tra- fferthu o honynt i wneyd priddfeini. Os dymunech fyned i fewn i ambell dy, rhaid ydyw myned trwy ddau fath o ddrws, neu ddrws a rhagddrws. Darn oedd hwn ar y gwaelod, gyda'r amcan deublyg, y mae yn debyg, o atal y plant rhag myned allan, ac atal teulu y buarth rhag myned i mewn. Heblaw hynny, cynorthwyid yn dirion yn y modd hwn, am na byddai ond y darn drws yn gau- edig, y ffenestr fechan i roddi mwy gol- euni i'r teulu nag a allai hi ei roddi. Gwir mai y math mwyaf cyffredin o dai oedd y rhai hyn, y rhaid iddynt wrth y rhagddor er atal gwneyd y ty yn gartref i'r ieir a'r moch. Yn y rhan amlaf o lawer, byddai mur wedi ei adeiladu o amgylch gwyneb y ty, gydag adwy ynddo gyfer.byn a'r drws, er myned i mewn ato; ac ond odid na byddai mur bychan ar bob ochr i'r llwybr arweiniai o'r adwy at y drws, ar ben y rhai dodid llestri priddion neu goed i'w cadw arnynt. Os eir i'r ty, ceir siambar ar y naill law, a'r gegin ar y llaw arall. Tân o fawn, ar lawr o bosibl ac os mewn grat, y mae yno dwll wedi ei gloddio o danodd i'r hwn y syrth y lludw. Ac yno hefyd yn aml y cresid y bara. A dyna fara, ydyw bara cetel wedi ei grasu ar dân 0 fawn, neu yn y twll lludw oddi tanodd. Gwell bara sych o'r fath hwn na bara ac ymenyn o fara pryn. Os gwanwyn ydyw, er mai Cwm myn- yddig yw y lle, y mae yno ychydig aredig a hau. Gorchwyl anfelus yn aml yw ar- edig o'r fath. Llethr yw y lle o bosibl, ac aradr bren yw yr aradr; a cheffylau bychain, neu geffyl ac eidion; a rhwng popeth, gorchwyl nid bychan ydyw per- swadio y gwys i aros i fyny. Heblaw hynny, gall fod yno garreg neu graig yn distaw ymguddio, am yr hon nis gwyr neb nes y tery swch yr aradr yn sydyn yn eiherbyn; ac y mae y gwrthdarawiad yn ddigon i godi clefyd y galon ar geffyl, a thaflu yr aradrwr o'r gwys ac o'i dymer. Rhyw dri pheth sydd yn peri ystorm yn y tymherau goreu; y garreg gudd wrth ar- edig; hen ddafad ystrywgar wrth ei hel; baách o wair, pan ar gefn, yn troi yn gam. Fel rheol ceir fod dechreu haf yn am- ser prysur yn y Cwm, yn bennaf am mai adeg cneifiio ydyw. Y mae hwn yn or- chwyl o bwys; ac os dymunech ei weled yn cael ei gyflawni o'r dechreu i'r di- wedd, rhaid i chwi fod yn foddlawn gweithio yn galed, a blino cryn lawer. I ddechreu rhaid codi yn fore-tua phed- war o'r gloch--er mwyn myned i'r myn- ydd i hel. Yn dilyn y dynion y mae pedwar neu bump o gwn eithaf diolwg, ond rhyfedd y cyfnewidiad wneir ynddynt pan wrth eu gwaith yn amgylchu y defaid; y maent yn fywyd ac yn synwyr bob modfedd o honynt. Wedi amgylchu milldiroedd o dir, ceir cannoedd o'r cre- aduriaid diniwed wedi dod ynghyd. Y gorchwyl nesaf ydyw eu golchi, a dyma ddifyrrwch y plant. Mewn afon fechan red heibio y ffermdy, gwneir llyn. Ar lan y llyn y mae corlan, sef tir wedi ei gau i fewn, o amgylch yr hon y mae mur- iau uchel. Ar lan y llyn y mae y gorlan yn gul­-rhyw ddwy neu dair llath o led -­a llathen neu ddwy yn uwch na'r dwfr. Er mor awyddus y rhai blaenaf o'r defaid i droi yn ol erbyn hyn, ar ol dod uwehben y dwfr, bydd hynny yn amhosibl, am fod y dyrfa o'u cymdeithion sydd o'u hol yn eu gwthio ymlaen, a'r dynion yn bloeddio, a'r cwn yn cyfarth ar ol y rhai hynny, fel nad oes dim i'w wneyd ond ymdaflu i'r dwfr. Wedi yr olchfa hon, rhaid aros rhai dyddiau nes iddynt sychu. Yna daw diwrnod y cneifio. Bydd rhaid cael y defaid i'r gorlan drachefn. Posibl mai corlan arall yw hon, a chorlan lawer mwy. Yn wir, corlannau lawer geir yn hon, o leiaf ystafelloedd amryw, ac un buarth neu ddarn lled fawr o dir. Yn eistedd ar y tir hwn, yr hwn yn aml sydd yn llethru ychydig i waered, ceir rhes neu ddwy o'r cneifwyr-meibion a merchaid —30 neu 40, mwy neu lai mewn nifer, a phob un a dafad ar ei lin, a'r gwellaif yn mynd glep, glep. Yn y cwr draw y mae y crochan a'r pyg ynddo, yn berwi ar y tân, ac yn cael ei ddal i fyny gan y dry- bedd, ffurf yr hwn sydd debyg i driongl