Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ar dri throed. Cludir y defaid, y rhai a gneifiwyd, a'r rhai ydynt rwym eu traed erbyn hyn, at y crochan a'r pyg, wrth yr hwn y saif dyn gydag offeryn, yn cyn- nwys dwy neu dair o lythrennau cyntaf enw y perchennog. Dodir yr offeryn hwn yn y pyg poeth, ac argreffir ar ochr y ddafad; ac os bydd y ddafad druan wedi cael ei harcholli trwy i'r gwellaif miniog dorri darn o'r croen ymaith, dodir y pyg poeth yn yr archoll; ac er y dioddef ar y pryd, y mae yn feddyginiaeth ragorol. Diwrnod cneifio yn ol Ceiriog yw hwn,- "Swn gwelleifiau mewn sgubor a buarth, Hyrddod yn ymladd 'rol stripio eu gwlan; Cwn yn brefu, a defaid yn cyfarth, A'r crochan pitch yn berwi i'r tân." Ffynhonnell arall o fasnach yr amaethwr ydyw y gwartheg. Buwch fechan, ddu, a chyrn mawr yw yr un Gymreig os wedi ei magu ar y mynydd- dir. Corff mawr a chyrn bychain yw buwch y gwastadedd. Y rheswm am hynny ydyw, mai bwyd gwael gafodd y naill, tra y llall wedi cael porfa fras y gwastadedd. Cyrn mawr y mae porfa sal yn ei gynhyrchu, ond corff mawr y mae porfa dda yn ei gynhyrchu. Onid oes rhywbeth yn debyg mewn cymdeithas ? Os bydd dyn yn cornio a hyrddio o hyd, onid ellir yn deg gasglu mai ar ymborth meddylion sal y mae y cyfryw yn byw? Peth arall am gorn y fuwch ydyw ei bod yn cadw ei hoed arno. Dannedd y ceffyl, ond corn y fuwch, ydyw y register. Ceir cylch o amgylch y corn am bob blwy- ddyn o'i hoed. Rhan bwysig arall o fywyd yr amaeth- wr Cymreig yw cael y tanwydd, a hwnnw yw "mawn." Priddyn du meddal, fel sebon neu ymenyn, yw y mawndir pri- odol; ac mae y fawnen yn cael ei thorri gan offeryn priodol at yr amcan-yn rhyw hanner llath o hyd ac yn hollol ysgwar, rhyw dair modfedd bob ffordd. Ar ol ei thorri, dodir hi ar y ddaear, a dyna lIe maent yn gorwedd yn llafnau duon ochr yn ochr am ddyddiau, nes sychu digon i gael eu trin, sef eu codi a'u gosod ar eu pennau fel y gwneir gydag yd. Dyma ni yn awr yn gorffen gyda, gor- uchwylion yr haf, heblaw yn unig ddweyd fod i'r bywyd hwn ei ddwy ochr, sef yr un farddonol a'r un an-farddonol. Posibl ydyw mai un o'r rhai an-farddonol ydyw tywys y ceffyl bychan tenau i lyfnu yr ochr serth; asenau yr hwn sydd fel y cwysau a lyfnir ganddo, i'w gweled lawn mor eglur ar ei ochrau; neu mwy tebyg o bosibl ydynt i ddannedd yr ôg a dynnir ganddo, wedi eu dodi dan y croen i gyn- nal asgwrn y cefn i fyny, oni bai fod dyn yn sicr mai nid felly y mae oddiwrth ruddfan y truan, ffroenau yr hwn sydd yn ymyl eich clust, gan fel y cydia y dan- nedd hynny yn y ddaear yn anfoddlawn symud ymlaen. Ond y mae iddo ei ochr farddonol, yn enwedig pan gyda'r defaid min hwyr a'r ysprydion drwg wedi gadael pob hen ddafad, a'r oll yn ymgasglu tua'r cynefin. Y mae'r haul, yntau, gydag urddas yn taflu ei olwg diweddaf tros ei blant cyn gadael o hono i dalu ymweliad ag eraill o'r teulu. Mae'r bugail hefyd mewn tawelwch sydd ddwyfol ymron, ac nid ymron chwaith, ond y mae felly, o her- wydd tybia fod lleisiau o'r ysprydol i'w clywed, nes y mae yn naturiol blygu i lawr ar ei liniau i addoli Duw ynghanol cynulleidfa angylion a seintiau, ymysg y rhai y mae ei dad a'i fam ac eraill o'i gyd- nabyddion. Ni bu addoliad mewn cathedral erioed yn fwy cysegredig a chywir, nac addoliad y bugail ynghesail y cwm. Yn awr y mae y gaeaf wedi dod, a chan nad oes lawer o waith gan drigolion y Cwm oddieithr porthi y gwartheg a bugeilio y defaid, gallant fforddio amser lawer i ddarllen, ac ymweled â thai eu gilydd. Noswaith o fri ydoedd y nos- waith wau, sef gwau hosanau; pan y cyf- arfyddai ieuenctid yn bennaf yn nhy un o'r cymdogion. Meddyliwch am dy felly. Ffermdy lled fawr ydyw, 0 leiaf y mae yno gegin ragorol, a simddai fawr; sim- ddai y gallai y teulu ymochel o tani pe y gweddill o'r ty yn cael ei gymeryd ymaith. O bobtu y tân y mae yno ben- tanau, ar y rhai yr eistedd aelodau ieu- engaf y teulu. Y mae gwraig y ty wedi darparu y pren tân ers wythnosau; ac wele y mae yn gwneyd ei wely y tu ol i'r tân ar y noswaith grybwylledig. Ar y scrin y naill ochr y mae y fam yn arfer eistedd, am fod yn gyfleus iddi roddi yr hosanau a'r dillad y mae yn eu trwsio yn y gist neu y gell sydd yn eisteddle y scrin, dim ond codi y cauad ar yr hwn yr eis- tedd. Ac ar y gadair fawr yr ochr arall, yr eistedd y tad. Yn gylch mawr o ddeutu yr eistedd y gwahoddedigion. Ar