Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

wir blentyn y Llyfr Gweddi; ni'm syflir gam ym mhellach tua Geneva na Rhu- fain; ond siglaf law yn serchus a'r Pab- ydd a'r Anghydffurfiwr ag un troed ar y Llyfr Gweddi a'r llall ar y Beibl." Ond eto, ychwanegai, — "Yr wyf yn dod yn fwy ymwybodol bob dydd fod ymbellhad peryglus yn cymeryd lle rhwng yr Eglwys a chorff y genedl, a gosodaf y prif reswm ar fethiant y pulpud. Y mae pregethu'r Eglwys yn druenus o wael; a pha beth bynnag ddywedir am weinidogion Ymneill- duol Cymru, y maent yn bregethwyr ar- dderchog-llawer gwell na'u brodyr Seis- nig." Ond ei sel dros ei Eglwys, eiddi- gedd dros ei hurddas, a'i ddymuniad angerddol am ei gwneyd yn ben moliant yng Nghymru oedd yn gwneyd iddo siarad yn blaen ac eglur ac i rybuddio ei hoffeir- iaid a'i hurddasolion mai Eglwys i'r Duw byw ydoedd. Yr oedd yn Eglwyswr trwyadl, egwyddorol, a defosiynol i'r pen, ac yr oedd ganddo olwg fawr ar, a char- iad dwfn at, y Sacramentau. Cytunai a chwi," meddai ei gyfaill, y Parch. D. Williams, rheithor Llandyrnog, I'w codi a'u gwneyd yn bob peth mawr, uchel, a daionus; mewn gair, yn bob peth, ond eu gosod yn lle Iesu Grist. Ond os awgrymech am Bresenoldeb gwrthrychol, neu draws-syl- weddiad, dyna fo mewn eiliad yn neidio i'r eithafion pell-yn Efengylydd, yn Biwritan, yn Galvin, yn Anghydffurfiwr,-yn unrhyw beth, yn bob peth, yn hytrach na gosod dim yn lle Iesu Grist-ne gosod dim rhwng enaid dyn a Duw." Ac fel canlyniad i'w argyhoeddiadau dyfnion a'i welediad clir o wirioneddau'r Efengyl, yr oedd pawb a bregethai'r "hen, hen hanes" yn ei symlrwydd ymysg ei gyfeillion ac yn ymddibynu arno am gydymdeimlad; tra, o'r ochr arall, yr oedd yn elyn anghymodlawn i bob rhod- res a defodau diangenrheid. Dyna, meddaf, oedd y prif achosion fod rhyw- rai yn barhaus yn ei ddrwgdybio ac yn tynnu cam-gasgliadau am dano-ei dduw- iolfrydedd a'i fawr sel dros ddal i fyny gymeriad Protestanaidd yr "Eglwys Lân Gatholig." Y mae cryn ddirgelwch hefyd ynglyn a'i ddygiad i fyny a'i addysg foreuol; ac y mae tipyn o ddadlu wedi bod ar hyn yn y wasg. Un peth sydd sicr. Yr oedd, fel pob dyn mawr a chymwynaswr cenedl, yn hannu o hen gyff anrhydeddus ym Mro Morgwnnwg-teuIu wedi bod yn ar- wain mewn popeth oedd dda a phur am genhedlaethau. Mab hynaf ydoedd I,r diweddar John Howell, Bryncwtyn, Pen- coed, a ganwyd David Howell yn Nhre- oes, plwyf Llangan, yn 1831. Felly yr oedd yn ddeuddeg a thriugain pan fu farw. Yr oedd ei dad yn ddyn 0 allu- oedd allan o'r cyffredin, yn un o brif flaenoriaid y Methodistiaid, yn ysgrifen- nydd eu Cyfarfod Misol ym Morgannwg am oes gyfan, ac yn fardd a llenor da. Mae ei unig frawd — William Howell, Pencoed-yntau yn ddiacon blaenllaw, yn dilyn yn ffyddlawn yng nghamrau ei dad, ac yn aelod o Gynghor Sir Morgan- nwg. Mae eu chwaer­-gweddw y di- weddar Ddr. Saunders-yn gystal asglo- dyn o'r hen gyff a'r un o honynt, yn meddu ar holl fedr a dawn ei brodyr, a hi oedd yn gofalu am ei brawd, y Deon, er pan gollodd ei briod hyd ei farwolaeth. Felly fe welir mai cangen oddiar gyff Methodistaidd oedd y Deon. Ac wedi i'r Methodistiaid gael cynifer o ddynion mor rhagorol-yn wir, sylfaenwyr y Cyfundeb -gan yr Eglwys, dylent fod yn llawen wrth weled yr Eglwys yn cael ambell un gwerth ei gael a'i ganmol ganddynt hwythau yn ol. Y mae popeth yn glir hyd yma; nid oes un amheuaeth yng nghylch y ffeithiau uchod; ond y mae gwahaniaeth barn gyda golwg air y dylanwadau fu'n offer- ynol i ffurfio ei gymeriad. Yr oeddid wedi arfer meddwl mai gyda'r Methodist- iaid yr oedd wedi ei godi, ac mai dylan- wad eu pregethwyr a'u Hysgol Sul a'u haddysg oedd arno trwy ei oes. Ond y mae y Parch. David Williams, Llan- dyrnog, yn credu fel arall, a dywed,- Yr oedd mwy o ôl crefydd ei fam arno trwy ei oes na chrefydd ei dad. Eglwyswraig drwyadl oedd ei fam o'r hen stamp, fel y dywed ef ei hun mewn llythyr dyddiedig o Ddeondy Tyddewi, Rhagfyr 1, 1900 ,— Ganwyd Esgob Hughes ym mhlwyf Trefdraeth, nid Nevern, ac nid Methodus oedd ei fam, ond Eglwyswraig ffyddlawn o'r hen stamp, fel ag yr oedd fy mam inau.' Dyma oleuni newydd ar gysylltiadau boreuol ei fywyd ac o'i ddewisiad o weinidog- aeth yr Eglwys. Eglwyswr o'i febydd oedd ac hefyd o waedoliaeth." Ond y mae gan ei frawd, Mr. William Howell, Pencoed, stori arall hollol wahanol i'w hadrodd, a dyma gnewyllyn ei "Adgofion" am ei frawd,- 0 fewn tua 400 0 lathenni i'r fan Jle y pan- wyd fy mrawd, preswyliai ei famgu Mary Griffiths o Dy'n y Caeau, plwyf Eglwys Fair, lle