Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ar ol hynny y gwasanaethodd y diweddar Reithor Griffiths o Gastellnedd. Yr oedd fy mam yn wiaig eiddil iawn ei hiechyd; ac, un diwrnod, beth wnaeth fy mamgu ond mynd a'r bachgen bach anwyl o gartref ei fam i'w chartref hi i Dy'n y Caeau, a phenderfynu ei fagu yno mwyach; ac felly y bu, i raddau helaeth iawn, hyd om chyr- haeddodd David dros 15eg mlwydd oed. Gwedi croesi 15eg oed aeth yn helynt flin rhwng y bach- gen a phriod ei famgu, yr hwn oedd yn ddyn pur wlyb' ei arferion; elai bob dydd i'r dafarn am oriau meithion; ac elai ar brydiau a Dafydd bach gydag ef a chynhyrfid ei famgu yn fawr iawn, gan ofal calon am foesau y llanc bach. Dywedai, os oedd rhaid i'w phriod gael bywyd a bedd y meddwyn, na chaffai yr un bychan ei ddi- strywio felly; a llwyddodd i anfon am ei fam i gyrchu David o Dy'n y Caeau i Fryncwtyn; ac heb oedi gwnaeth fy nhad ei oreu i'w gym- hwyso i fywyd defnyddiol trwy ei addysgu a'i arwain yn y ffordd yr elai. Cofus gennyf am fy nhad yn ein cymeryd un ym mhob llaw, a rhoddi cwestiynau Ysgrythyrol, ac weithiau duwinyddol, ini ill dau, wrth fyned i gapel y Methodistiaid- Salem, Pencoed; a chwynai yn aml mai yn ofer ac am ddim y treu-liai ei nerth. Gwingai fy mrawd yn enbyd yn erbyn y ddisgyblaeth deulu- aidd newydd y gorfodid ef i fyned trwyddi, gwa- hanol iawn i'r modd y buasai gyda'i dad cu yn Nhy'n y Caeau; ond rhaid oedd ufuddhau i'r aw- durdodau goruchel, er mor wrthwynebus oedd- ynt, neu droi yn ol at ei famgu, yr hyn a wnaeth ar ol tua blwyddyn o amser. Yn y flwyddyn y bu ym Mryncwtyn gyda'i dad ffurfiodd gymdeith- icn newydd ynglyn a'r capel Methodistaidd. Clywodd rai o bregethwyr goreu Cymru yng nghapel Salem gwrandawodd yno John Jones Talysarn; Henry Rees; William Morris, Cilger- ran; Cadwaladr Owen, Dolyddelen; William Evans, Tonyrefail; John James, Penybont; Edward Matthews, Ewenni; Daniel Griffiths, Castellnedd-un o'r dynion mwyaf byw ei ddawn a feddai y brodyr Anibynnol yn y sir; Owen Thomas, ac ereill; a diameu gennyf i'w dylanwad mawr effeithio'n ddwfn arno fel pregethwr ar hyd ei oes. Yn y flwyddyn ddilynol-sef pan yn 19eg mlwydd oed, ymbriododd a Miss Ann Powell, Pencoed. Deuai hithau bob amser i Gapel Salem (Pencoed) i'r Ysgol Sul a'r ysgol gân; ond nid oedd yn aelod rheolaidd yno; ac ni fu fy mrawd erioed chwaith yn aelod cyflawn gyda'r Method- istiaid. Yng nghapel yr Anibynwyr y dysgodd ddarllen Cymraeg; a bu yn myned yn lled gyson gyda'i famgu, ar nos Sabbathau, i wrando y di- weddar weinidog da i Grist, y Parch. W. Griffiths, Llanharran (tad y Parch. William Griffiths, Cendl). Y pryd hwn nid oedd offeiriad y plwyf, sef yr Archddiacon Griffiths o Gastell- nedd, ac yntau yn cyd-dynnu yn dda iawn; ac un tro, er mwyn cael tipyn o 'hwyl,' aeth ir festri blwyfol, a dau neu dri gydag ef siaradodd yn erbyn y penderfyniad a gynygiwyd gan y per- son. Dyryswyd amcanion yr olaf, ac aethpwyd allan o'r festri heb wneuthur dim. Yr adeg yma clywyd y person yn gwneyd y sylw hwn,­-‘ Dyn enbyd yw bachgen Ty'n y Caeau; rhaid gwneyd rhywbeth er ei rwystro neu ei ennill drosodd a llwyddwyd o dipyn i beth i gael ganddo fyned i'r Eglwys i'r gwasanaeth. Gwasgodd y person arno hefyd i ymaelodi yn yr Eglwys a pharotoi ar gyfer ei gweinidogaeth; ond rhaid oedd gofyn am gydsyniad ei dad, ac hefyd am gymorth ar- ianol i'w gynnal ef a'i wraig. Cymerodd y Parch. John Griffiths fantais ar yr amgylchiadau an- hapus a fodolai rhwng ei dad a David, gan y mynnai tad David iddo gymeryd at ffermio. Gwasgodd y person arno i benderfynu y pwnc ar unwaith, gan ei fod ar y pryd newydd fynd i'r sefyllfa briodasol, ond gwrthododd ar bob cyf- rif; a gofynnodd David am help arianol o £ 300 at ei gymhwyso i fod yn y Customs. Ymwelodd y person a'i dad ynghylch y mater, ond gwrth- ododd yr olaf, ar gyfrif yn y byd, addaw dim at ei barotoi i fod yn offeiriad; ac ymadawsant heb fod ar y telerau goreu a'u gilydd. Cyhudd- odd y tad yr offeiriad o godi dyn diras i'r pulpud, fel codi dyn i fod yn gyfreithiwr neu feddyg; a gwae fyddai iddynt ill dau ryw bryd-yr ofteir- iad a'r gwr ieuanc. Dywedodd wrth Mr Griffiths y dewisai ef weled ei fab yn glanhau a thrwsio yr heolydd, neu lanhau simneiau, yn hytrach na phregethu yr efengyl heb ras yn ei galon. Ar ol i'r offeiriad fyned adref cymerodd ei fam ei phriod mewn llaw, un diwrnod, a dywedodd y caffai Dafydd fyned i'r offeiriadaeth ar ei waethaf, ac y mynnai hi gael rhoddi ei gwaddol priodas i gynnal ei mab a'i wraig; a hynny fu; ac o dipyn i beth, er yn bur anfoddlon, gadaw- odd ei dad iddo fyned rhagddo i barotoi ar gyfer y Weinidogaeth yn yr Eglwys; ac aeth i ysgol ragbarotoawl ym Merthyr Tydfil. Gwnaeth gynnydd cyflym iawn yno mewn addysg; ac ymhen y chwe mis pasiodd arholiad i fynd i ysgol y proffwydi a gynhelid, y pryd hwnnw, yn Abergafenni. Gwnaeth gynnydd amlwg yno hefyd; ac urddwyd ef yn ddiacon i guradiaeth o dan ofal y Rheithor Griffiths o Gastellnedd; a buan iawn y daeth David Howell yn well pre- gethwr hyd yn oed na'i feistr enwog." Felly, fe welir, wedi'r cwbl, er y gall yr Anibynwyr hawlio rhyw gyfran o hono,-pa faint, y mae'n anhawdd pen- derfynu, yn ol adgofion ei frawd, — mai dylanwad crefydd ei dad a'r hen bregeth- wyr Methodistaidd fu y prif offerynau yn ffurfiad ei gymeriad a'i syniadau uchel am grefydd ac am weinidogaeth yr Efengyl. Ac nid oes amheuaeth nad oedd Dafydd ieuanc yn dod i Fryncwtyn yn fynych yn ystod y pymtheg mlynedd y bu'n aros gyda'i daid a'i nain, ac nad oedd yn myn- ychu capel y Methodistiaid yr un mor aml. Gwir nad yw hwn ond cwestiwn o hanes, ond y mae popeth o ddyddordeb ynglyn â dynion mawr, a dylid cael y manylion mor gywir ag sy'n bosibl. Ond, a dweyd y gwir, rywfodd, hynod anfoddhaol yw hanes boreuol y Deon, hyd yn oed wedi i'w frawd ei hunan gyhoeddi ei adgofion. Fodd bynnag, y mae ei fywyd cyhoeddus, er y dydd y gadawodd yr aradr, fel Eliseus gynt, hyd ei farwolaeth, mor oleu a'r dydd i'r byd gyhoeddi ei farn arno.