Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ANWYD Owen Wynne Jones (Glasynys), yn Nhy'n y Ffrwd, bwthyn yng nghwr gogledd-or- llewinol ardal Rhostry- fan. Ym mhen peth am- ser ar ol ei eni, cododd ei dad dy ar y mynydd yn ardal Rhosgadfan, ac fel John Roberts y Brithdir yr adnabyddid ei dad at ddi- wedd ei oes, a "hogiau'r Brithdir" oedd Glasynys a'i frodyr i'w cyfoedion. Credaf mai merch Tyddyn y Meinsiar, Llan- dwrog, ac Ann wrth ei henw, oedd mam Glasynys. Cafodd Glasynys ychydig addysg ym more ei oes mewn ysgol a gyn- helid ynglyn âg Eglwys Llanwnda. Troes ei wyneb i'r chwarel yn yr oedran cynnar a dybid gan yr oes honno fel yr adeg bri- odol i blentyn ddechreu dysgu ennill. Gallwn feddwl mai hynod ddireidus ydoedd Glasynys yn yr amser yr oedd gartref yn ieuanc-hynod hoff o gellwair a phoeni pobl, braidd yn ddigydwybod felly. Mae'n sicr i'w driciau wneyd i bobl ddigio llawer wrtho, a'u gwneyd i edrych yn ddirmygus arno wedi iddo godi i lenwi safleoedd lled uchel. Ond nid ein gwaith yn bresennol yw ymdroi nac ymhel gyda'r hanesion sydd yn gosod allan yr agwedd hon ar ei gymeriad yn ystod y cyfnod y cyfeiriwn ato. Ein gwaith yn bennaf fydd ceisio galw sylw at ei waith, a nodi allan ei nodweddion fel bardd a llenor. Cyn gwneyd hynny, fodd bynnag, dymunwn ddilyn Glasynys ymhellach ar ei yrfa a nodi yr amgylch- iadau amlycaf yn ei fywyd. Wedi gweithio yn y chwarel am rai blynyddoedd, gallodd fyned i'r ysgol dra- chefn ym Mron y Foel; ac yno, mi gredaf, y tynnodd sylw un gwr eglwysig a fu yn llawer o gymorth iddo ddringo i'r safle a gyrhaeddodd. Er iddo fyned i'r chwarel am amser ar ol hynny, penderfynodd eilwaith fyned i'r ysgol, a'r tro hwn aeth i Glynnog, lIe yr oedd Eben Fardd yn tynnu llawer o bobl ieuainc o bell ac agos ato. Yr oedd Glasynys, fodd bynnag, yn flaenorol i hyn, wedi cymeryd cam lled anghyffredir i rai o'i safle ef yn y cylch- oedd hyn y pryd hynny. Yr oedd wedi ei dderbyn yn aelod cyflawn o eglwys y Myrddin Wyllt. Methodistiaid Calfinaidd yn Rhostryfan, ac yr oedd ei deulu yn bur flaenllaw yn yr un eglwys. Ond yn ei awydd am fynnu addysg, ac yn y rhagolwg y cai rwyddach ffordd i gyrhaedd hynny yn yr Eglwys Sefydledig, penderfynodd ymadael a'r Methodistiaid ac ymuno â'r Eglwys Wladol. Beth oedd yr amgylchiadau neillduol a'i harweiniodd i hyn nis gallaf ddweyd; ond, a chaniatau fod yr hanes- ion a ddywedir yn wir, gellir dweyd iddo ddefnyddio llawer o gyfrwysdra ac ys- tryw i gyrraedd ei amcanion. Nid dyma'r Ue na'r amser i drafod doethineb y cwrs a gymerodd yn unig dywedwn i'r cyf- -newidiad beri i'w gyfoedion a'i gydnabod gartref fethu llwyddo i gymeradwyo ei waith-yr oedd y culni fu unwaith yn glymedig a sel Buritanaidd yr Ymneill- duwyr yn ei gwneyd yn anhawdd i'w hen gyfeillion edrych yn gydymdeimladol ar ei waith. Pa golled bynnag allai hynny fod iddo, y mae'n ddiau i Glasynys dder- byn llawer iawn mwy o fanteision trwy ei waith yn ymuno a'r Eglwys Sefydledig na phed arosasai gyda'i hen enwad. Tua chanol y ganrif o'r blaen cafodd Glasynys fynediad i Goleg Athrawol ~aer- narfon. Tybiaf fod calendr C'oleg St. Mair (Bangor yn awr) yn gamarweiniol pan ddywed,- "Rev. Owen W. Jcnes (Glasynys) 1856." Yr oedd Glasynys yn athraw yn ysgol elfenol Clynnog cyn 1856; yn wir, yr oedd wedi symud o Glynnog i Lan ym Mawddwy erbyn 1855, a'i fryd bellach ar dderbyn urddau. Credwn mai dyma nod Glasynys o'r pryd yr ymunodd â'r Eglwys i ddechreu. Yn Llan ym Mawddwy y cafodd fantais a hamdden i ddadblygu ei alluoedd ar linellau eu natur a'u hanian- awd. Yr oedd gan ystraeon y tylwyth teg, traddodiadau a hanesiaeth Gymreig, ddylanwad neillduol ar ei feddwl, fel y teimlir wrth ddarllen ei farddoniaeth fod ganddo gred ddiysgog ym modolaeth wir- ioneddol y tylwyth teg a bodau cyfrin o'u cyffelyb. Yr oedd llên gwerin cymdog- aeth ei fachgendod, ac yn wir, llên gwerin holl Eryri, yn dra adnabyddus iddo, ac ni fu yn ol o'u casglu a'u cyhoeddi mewn cyfrol sydd yn parhau i werthu. Ei unig fai, bron, ynglyn a'r traddodiadau