Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Gan nad atebai un diben i ni adrodd chwedlau a damcaniaethau ar y pwnc hwn ni a gaethiwn ein sylw at rf'eithiau nas gall fod amheuaeth yn eu cylch. Un o'r rhai hyn yw fod Llundain wedi tyfu i fod yn ddinas fasnachol erbyn yr amser pan oresgynwyd yr ynys gan fyddinoedd Claudius yn o.c. 43. Ymha gyflwr byn- nag yr oedd y lIe cyn hyn, nis gall fod amheuaeth na sefydlodd y cadlywydd Rhufeinig Aulus Plautius ei wersyllfa ynddo pan y cyrhaeddodd yma i ychwan- egu Prydain at yr ymerodraeth Úufeinig dan deyrnasiad Claudius. Tacitus yw yr awdwr cyntaf sydd yn gwneyd crybwylliad am y lle wrth ei enw, pan y mae yn desgrifio cyflwr Prydain yn o.c. 61. Pan dorrodd gwrthryfel per- yglus allan dan arweiniad Buddug, bren- hines yr Iceni, dychwelodd Suetonius Paulinus yn ol gyda'i luoedd o Gymru, ond daeth i'r penderfyniad nad oedd Lon- dinium yn lIe cyfleus iddo ef fel cychwynfa yn erbyn y Prydeiniaid, a gadawodd y lIe i drugaredd Buddug, yr hon a dywallt- odd ei chynddaredd arno trwy ei ddi- nistrio a lladd ei drigolion yn ddiarbed. Ond erbyn yr amser y cyfansoddwyd ar- wein-lyfr Antoninus, yr oedd wedi dod yn lIe mor bwysig fel yr oedd dwy ffordd yn dechreu a dwy yn terfynu ynddo. Dyma y safle a lanwai yn o.c. 320. Nis gallasai gyrraedd i'r fath bwysigrwydd oni bai ei fod wedi bod yn cynhyddu yn raddol am amser maith cyn yr adeg pan y daeth Suetonius Paulinus yn gadfridog ar y fyddin Rufeinig ym Mhrydain. Yn 1867 darganfyddwyd polion wrth gloddio yn agos i London Wall a South- wark, ac y mae yn dra thebyg mai gwedd- illion ydynt o adeiladau ar bolion o'r cyf- nod C'eltaidd, a chyda hwy ddarnau o lestri pridd; ac y mae General Pit Rivers o'r farn mai gweddillion ydynt o aneddau hen ddinas Caswallawn, y rhai oeddynt yn sefyll mewn corsydd ac yn gorffwys ar y polion hyn. Y mae y prawnon o bwysigrwydd y lIe yn y cyfnod Rhufeinig yn rhy liosog i ni eu crybwyll oll, ond y mae'n sicr nas gall- asai y lIe ddod mor boblog a phwysig ar ddechreu y cyfnod Rhufeinig (c.c. 54 hyd o.c. 449) oni bai fod nifer lled fawr o drigolion yn byw ynddo yn yr amser cyn i'r Rhufeiniaid erioed ddychmygu am or- esgyn yr ynys. Y mae yn awr yn amgueddfa y Guild Hall ac yn yr Amgueddfa Bry- deinig arfau cerrig o'r dosbarth hynaf (pcdceolithic), y rhai a ddarganfyddwyd yn y ddaear wrth gloddio yn nyffryn Tafwys. Gwersyllfa filwrol a thref fasnachol oedd Llundain y rhan gyntaf o'r cyfnod Rhufeinig, tra yr oedd Camalodunum a Verulamium yn cael eu cydnabod fel colonia" a "municipium." Er y bathid arian ym Mhrydain er amser yr ymer- awydwyr Augustus, Tiberius, a Caligula, nid oedd Llundain yn lIe digon pwysig i gael bathdy hyd mor ddiweddar a'r adeg y cydnabyddwyd y wlad hon fel tiriogaeth Rufeinig o dan deyrnasiad Cystenyn Fawr yn o.c. 306—337. Erbyn amser Carausius ac Allectus, yr oedd darnau o aur, arian, a phres yn cael eu bathu yn y wlad hon, ac y mae enw Londinium ar nifer fawr o honynt, ac enwau Rutupiæ a Clausentum ar y gweddill. Y mae hyn yn profi fod y dref hon wedi cynhyddu yn fawr mewn maint a phwysigrwydd er y cyfnod cyn-hanesiol, neu ni buasai mor bwysig dan Carausius, Allectus, Maxim- ian, a Chystenyn,­-o.c. 288-­337, ­fel ag i feddu y fath arian. Yn y cyfnod Rhufeinig cynhyddodd yn fawr a daeth yn un o drefi pwysicaf yr ynys. Ar ddiwedd y cyfnod hwn yr oedd nifer mor fawr a hanner cant o drefi wedi eu hamgylchynu â muriau cedyrn, heblaw gwersyllfaoedd milwrol, ac yr oedd Llun- dain yn un o'r rhai pwysicaf yn eu mysg. Oddeutu 446 yr oedd Llundain, Uricon- ium, Cirencester, Silchester, Bath, Caer- lleon, Caerwynt, Caerlleon ar Wysg, Colchester, Lincoln, York, Verulamium, Camulodunum, a 11u o leoedd eraill llai eu maint, yn dra blodeuog. Yr oedd muriau Llundain ar yr adeg uchod yn ymestyn o Ludgate yn y gorllewin i'r Twr yn y dwyrain; ac o London Wall i'r Tafwys; ac felly yr oedd yn filldir o hyd, a hanner milldir 0 led. Ac heblaw hyn, yr oedd aneddau Rhufeinig hefyd yn y wlad ar ochr Kent i'r Tafwys, ond nad oeddynt yn amgylchynedig gan gaerau. [J'n yr erthypì nesaf rhrdlir darluniad o'r darganfyddiadau rhyfedd wnaed yn dditceddar yn naear Llundain, ac o'r goleuni daflant ar hanes bore y ddinas fawr]