Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

GAN Y PARCH. T. R. OWEN (HOMO MON), LLANDDEUSANT. VI. HEN OEDFAON. cyntaf. Fe fu y cyntaf yn breswylfa i rymus Dduw Jacob. Gwelwyd ynddo y Shechinah dwyfol yn chwareu mewn boddlonrwydd ar y Drugareddfa, a llestri yr hen dduwiolion wedi eu llenwi hyd yr ymylon, nes yr oeddynt yn neidio a dawnsio fel Dafydd gynt o flaen arch yr Arglwydd, ac wedi anghofio yn llwyr eu hunain fel Pedr ar Fynydd y Gwedd- newidiad, anghofio popeth ond eu Gwar- edwr mawr ei hun. Cof gennyf weled cyfarfod pregethu Llun a Mawrth y 3ul- gwyn pan oeddwn blentyn. Nis gwn pwy oedd y pregethwyr, os nad y Parch. W. Ambrose, Porthmadog, ac R. Thomas, Bangor. Mi gredaf mai y ddau yna oedd yn pregethu noson olaf y cyfarfod; yr oedd eu gweinidogaeth yn disgyn fel cawodau tanllyd ar y gynulleidfa. Cerddai awdurdod eu geiriau fel hylif cysegredig trwy yr oll dyrfa. Yr oedd pob mdedwl wedi ei hoelio wrth feddwl y pregethwr, a phob calon yn deml gysegr- edig i'w destyn, a phob calon wedi ei thanio gan y gwirionedd, a'r dyrfa fawr ar eu draed yn llawn llygaid yn craffu arnynt ac yn derbyn y weinidogaeth o'u geneuau fel y ddaear yn yfed y gwlaw, a'r genadwri nefol yn disgyn fel gwlithwlaw ar irwellt neu gawodydd ar laswellt, nesy torwyd ar draws hyawdledd y pregethwyr, fel nad oedd modd clywed dim ond yr hen eiriau nefol sydd erbyn hyn wedi myned allan o'r ffasiwn, sef "Diolch" a "Ben- digedig." Yr oedd y Parch. David Wil- liams, Garth, Bangor, gWr hynaws ac an- wyl, oedd yn weinidog yr eglwys ar y pryd, yn eistedd ar risiau y pulpud, ac yn wylo fel plentyn, a mawr oedd y difyr- rwch oeddwn yn ei gael wrth wylio y dagrau, y rhai oedd fel pelenau o eira yn neidio i fyny i'w lygaid, ac yn ymrowlio dros ei ruddiau fel darnau o greigiau, ac yn teilchioni ar ei wasgod. Yr oedd yr Adgofion Mebyd. UM yn agoriad capel newydd Anibynwyr Pen- traeth, ac y mae ym mhob peth yn deilwng o'r oes ac o'r amcan mawr y mae wedi ei gyfodi er ei fwyn. Gobeithio y bydd mwy gogoniant y ty nwn nar hen frawd Owen Jones (pregethwr cyn- orthwyol y lIe) yn un pen i'r sedd fawr, a nhad yn y pen arall; a dyna lIe yr oeddynt ar eu traed ac yn siarad â'u gilydd trwy arwyddion, a'r holl gynull- eidfa wedi eu cyfodi a'u dwyn i Fynydd Seion i gymanfa a chynulleidfa y rhai cyntaf-anedig, y rhai a ysgrifenwyd yn y nefoedd. Yr oedd John Parry, Bryn- hyrddin, Robert Roberts, Tyddyn y Waen, Hugh Hughes, Glan'rafon, a llawer eraill rhy luosog i'w henwi; ar eu traed yn ymyl y pulpud, rhai yn gwaeddi "Amen," eraill yn gwaeddi "Diolch" a "Bendigedig;" ac eraill, fel David Wil- liams, wedi eu gorchfygu fel nad allent waeddi y naill na'r llall, dim ond wylo fel Mair wrth y bedd, er dangos eu cydsyniad a'r genadwri. Yr oedd dylanwadau dwyfol i'w gweled yn bur amlwg y nos- waith honno, a'r holl gynulleidfa yn barod i ddweyd, yng ngeiriau Pedr ar y mynydd gynt, Da yw i ni fod yma." Ond erbyn heddyw gellir gofyn fel Zechariah gynt,— "Eich tadau, pa le y maent hwy? a'r proffwydi gynt, a ydynt hwy yn fyw byth ?" Na, mae y tadau oll wedi myned; a'r proffwydi, er mor anwyl a hyawdl, oíl wedi distewi. Ond y mae ein hiraeth am danynt bob dydd yn dyfn- hau. Bu y rhai yma i ni fel colofn Duw yng nghanol yr anialwch dyrus yn dangos i ni lwybr ein traed, ac y mae yr adgof am danynt yn aros mor fyw ag erioed. Yr oeddym oll yn falch o gael cyfar- fod a'r Parch. J. Evans Owen, Llanberis, un fel fy hunan wedi ei eni a'i fagu yn y gymdogaeth, a gwrando arno yn adrodd hanes yr achos o'i ddechreuad hyd yn awr. Yr oedd yn fanwl a choeth, fel y mae wedi arfer a bod bob amser. Dangosodd fod yr achos wedi byw ar hyd y ganrif o'r blaen. Gwyddom ei fod wedi cyfarfod yn ystod y ganrif honno â llawer iawn o rwystrau. Gwelodd lawer llew ar y ffordd, ac ymladdodd â llawer lleidr fu yn ceisio ysbeilio Duw o ogoniant ei enw. Gwelodd nosweithiau digon tywyll ac ystormus, ond gofalodd yr Arglwydd fod ganddo rai yn foddlawn i aros yn y ty y nos, ac y maent wedi dechreu ar y ganrif newydd gyda thy newydd, a gobeithio gydag ysbryd newydd. A dymunwn i'r amddiffyn dwyfol aros éto ar yr holl ogon-