Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

iant. D&.U beth sydd heddyw yn aros yr un ag oedd gyda'r eglwys ar gychwyniad ei gyrfa gant a deuddeg mlynedd yn ol, -yr amddiffyn dwyfol, a hen gwpan y cymundeb. Y mae hon yn aros yn fy meddiant i, ac nid oes gennyf ddim o fewn fy nhy mor gysegredig gennyf. Yn y bennod o'r blaen soniais am enw yr hen frawd William Evans Tywydd, tad i Mr. William Evans (Monioyson), a thaid i William Evans (Wü Evan o Fon), ac ni raid i'r naill na'r llall gywilyddio dim wrth weled ei enw,-yr oedd yn un o'r dynion mwyaf caredig sangodd ddaear Mon, ac un oedd wedi gweled mwy na'r rhan fwyaf o'r trigolion oedd yn byw o'i amgylch. Cigydd a phorthmon oedd wrth ei alwedigaeth. Byddai yn prynnu llawer o anifeiliaid i borthmyn eraill, ac felly yr oedd wedi cael mwy o fanteision i weled y byd, a chasglu gwybodaeth, rhagor eraill oedd o'i amgylch. Bedydd- iwr o farn a phroffes oedd efe. Cof gen- nyf i mi ddod ryw brydnawn Sabboth, pan yn fachgen pur ieuanc, o'r bregeth yn y capel gyda William Evans a John Roberts Penybont (yr un sydd yno yn bresennol), a thestyn y pregethwr y Sabboth hwnnw oedd Actau ii. 19. Nis gwn yn y byd pwy oedd y pregethwr, na beth oedd ei bregeth, ond yr oedd yr hen frawd yn teimlo nad oedd y pregethwr wedi taflu dim goleuni iddo ef ar yr amseroedd gor- ffwys o olwg yr Arglwydd, ac felly y teimlai John Roberts. A dyna lIe 'roedd y ddau yn curo eu pennau yn erbyn yr adnod, ac ar hynny dyma finnau yn taro fy mhwt i fewn. "John Roberts," meddaf fi; cam-gyfieithiad sydd yna, nidfelyna y dylid darllen yr adnod." Taw a dy lol, y corgi bach," ebe yntau, "be wyddost di am gam na chymwys." A thewi yn y fan fu rhaid i mi. Ond wedi i John Roberts droi at ei dy yr oeddwn innau a William Evans yn dyfod gyda'n gilydd at y gamdda, a chyn ymadael dyma ef yn gofyn i mi, Tom bach, beth oeddat ti yn ei ddyweyd wrth John Roberts am yr adnod yna?" "Dyweyd yr oeddwn i, William Evans, mai cam-gỳfieithiad sydd yn yr adnod yna." "Pwy glywaist ti yn dyweyd hynny?" "Fy nhad, wrth Wil- liam Jones, Talceneiddew." "Sut yr oedd dy dad yn dweyd?" "Fel hyn- 'Cyn delo amseroedd gorffwys oddiwrth bresenoldeb yr Arglwydd. "Wel, wir, meddai, "yr wyf yn credu mai ti sydd yn dy le. Nid oes yr un man yn bod o olwg yr Arglwydd," ac fel yna fe gollodd John Roberts, fel pob anghredadyn, y prydnawn yna esboniad go dda ar yr adnod yna. Wn i ddim a ydyw wedi cael hyd i'w well hyd heddyw. Hwnna sydd wedi aros hyd heddyw yn oreu yn fy meddwl i. Pa esboniad bynnag a wneiif ei ymddangosiad y mae hwn yn ei drechu. Peth mawr ydyw i'r da neu'r drwg gael gwreiddio yn y meddwl ieuanc. Dyna sy'n aros. Y mae y rhai yma fel y golofn niwl a'r golofn dân i Israel gynt, yn ar- weinyddion naill ai i ddistryw a cholled- igaeth neu i drigfannau dedwydd y wlad lle mae Duw ei hun yn preswylio. Dy- wedai Dr. Samuel Johnson mai i'w fam yr oedd ef yn ddyledus am y syniadau cyntaf gafoedd am nefoedd ac uffern. Un grefyddol iawn oedd fy mam," meddai Dr. Johnson, "cof gennyf pan yn blen- tyn bach gyda. hi yn y gwely un bore ei bod yn ymdrechu desgrifio i mi pa fath le oedd y nefoedd-11e gogoneddus a hyfryd, lIe mae dynion da 0ll yn cael myned, ac nid oes yno ond y pur a'r sanctaidd; ond uffern sydd le ofnadwy, yn cael ei drig- iannu gan ddiafol a'i angylion, lIe ydyw uffern yn llosgi o dân a brwmstan. Ac i argraffu hynny yn ddyfnach ar fy meddwl gwnaeth i mi adrodd yr oll wrth Thomas Jackson y gwas bach oedd yn ein gwasan- aeth. Oddi ar hynny hyd yn awr meddaf yr un syniadau am y ddau Ie ag y dysg- wyd fi ynddynt y bore hwnnw, ac os ydyw fy syniadau yn gywir, mam bia'r clod." Nid oes dim a mwy o gyfrifoldeb yn perthyn i ddyn na dwyn plant i fyny yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Yr oedd ewyllys yr hen William Evans yng nghyfraith yr Arglwydd. Cri enaid yr hen wr yn y gyfeillach grefyddol bron bob amser fyddai, O na wyddwn pa le y cawn i ef; a welsoch chwi yr hwn sydd hoff gan fy enaid Do, fe'i gwelwyd ef mewn ambell i gyfeillach grefyddol wedi cyfodi i dir lled uchel fel y gallai ddyweyd, Cefais yr hwn sydd hoff gan fy enaid." Nid oedd William Evans, mwy nag eraill o blant y Goruchaf, heb ei ffaeleddau; ond y mae Duw am i ni wneyd fel efe ei hun, claddu beiau, ond arddangos pob rhinwedd a daioni. Nid oedd yr Arglwydd yn foddlawn i'r ychydig ddaioni oedd yn Abiah bach gael ei gladdu o'r golwg yng nghanol pechodau Jeroboam ei dad. Huned yr hen frawd anwyl hyd y bore hwnnw pan yr udgano udgorn Duw, ac yr agorir drysau holl feddau y byd, ac y cawn oll adgyfodi i ddechreu dydd na welir diwedd iddo.