Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Ymneillduaeth Gymreig Caer. Nid oes un dref bwysig ar y gor- orau mor agos at Gymru a Chaerlleon, nid oes un wedi bod a chysylltiad mor agos â hanes Cymru,-cartref Huw :b laidd, carchar Gruffydd ab Cynan, nod melldith Lewis Glyn Cothi, canolbwynt cyfraith Cymru adeg fu, marchnadle'r dyddiau hyn." wÈ ID oes dim a rydd fwy o hyfrydwch i ddyn na gwylio bywyd yn ym- ddadblygu. Y mae edrych ar ymddadblygiad y Methodistiaid yng Nghaer yn nechreu y bed- waredd ganrif ar bym- theg yn waith dyddorol-y fath awydd oedd am glywed pregethu y Gair a'r dy- head am gyfrannu gwybodaeth i bawb o'u hamgylch oedd wedi meddiannu y Cymry. Yr oedd gweled y fath lwyddiant, a'r daioni oedd yn deilliaw oddiwrth yr Ys- gol Sabbothol yn eu plith, yn peri iddynt ymawyddu am eangu terfynau, ac enyn- nynwyd cydymdeimlad nifer o'r rhai mwyaf meddylgar at eu cymydogion y Saeson, y rhai nad oedd ganddynt un math o sefydliad i ddysgu eu plant i ddarllen Gair Duw. Un Sabboth yn haf 1825, fel yr oedd rhai o'r cyfeillion hyn yn myned i gapel Trinity Street drwy Upper Northgate Street, canfyddasant nifer o blant yn "chwareu ysgol mewn congl neillduedig — rhai'n eistedd gan agor eu dwylaw ar ffurf llyfr, ac yn adrodd A B C, ac eraill yn sefyll uwch eu pennau ac yn gorchymyn iddynt ddysgu. Pan ganfu y Cymry hyn, hwy a safasant gan ddweyd y naill wrth y llall,— Onid yw hyn yn ddigon i gynnyg ysgol yn y lIe hwn?" A gofynasant i'r plant a ddeuent hwy i un os codent Ysgol Sabbothol yn yr ardal honno, ac addaws- ant oll fyned. Wedi cydymgynghori, hwy a gymerasant ystafell, ac a'i gwnaethant yn lIe cyfaddas i'r gwaith, a buan y llan- wyd y lle, a chafwyd cyfarfodydd llew- yrchus. Byddai John Parry yn mynychu'r lIe i holi y plant ac i weddio gyda hwynt. Ymhen blwyddyn yr oedd yr ystafell yn rhy fechan i'r gwaith, a hwy a gymerasant adeilad ar yr ochr ddwyreiniol i'r Upper Northgate Street, ac a'u gwnaethant yn ysgoldy cyfleus, yr hwn a. agorwyd yn Rhagfyr 1827, lle y cynhaliwyd Ysgol Sab- bothol Seisnig, a phregethwyd yr efengyl, a chynhaliwyd cyfarfodydd i ddysgu canu, am lawer o flynyddoedd, yr hyn 011 oedd o dan ofal y Methodistiaid Cymreig. Cod- wyd a chynhaliwyd hefyd Ysgolion Sab- bothol Seisnig tu allan i'r ddinas, megis yn Rosset, ISiaugha11, a'r Two Mills, Dod- dleston, Lache, a Bretton. Fel y gellid disgwyl, cynhyrchodd hyn beth eiddigedd a chenfigen ym mysg rhai brodyr oedd wedi eu dallu gan orenwad- aeth a chulni cenedlaethol, a bu raid i Mr. Parry aml waith sefyll yn wrol yn ei erbyn -er mai ei gas bethau oedd athrod ac en- llib,-ac y mae lIe i gredu ei fod ar rai adegau wedi bod yn rhy frysiog i fyned heibio iddynt, pryd y byddai angenrheid- rwydd am eu trin, ond nid yn wastad ychwaith. Yr oedd ei gariad yn rhy fawr at y gwirionedd, a'i ysbryd yn rhy led- nais, i oddef gweled yr un cymeriad glân yn cael ei fathru gan neb. Danghosodd hynny yn amlwg gyda Mr. Thomas Thomas, mab Mr. Robert Thomas, o Ler- pwl y pryd hynny (cynt o Tan y Maes, Llanfair Is Gaer). Yr oedd Mr. Thomas Thomas wedi dyfod i Gaer yn oruchwiliwr i Mr. Parry er y flwyddyn 1826, sef ym mhen oddeutu blwyddyn ar ol i Mr. Parry ac eraill sefydlu'r Ysgol Sabbothol Seis- nig; yr hon, oherwydd profiad Mr. Thomas a'i gymhwysder i gynorthwyo'r brodyr yn y gwaith, a dderbyniodd achles mawr. Ar ol peth amser wedi iddo ymsef- ydlu, daeth ei dad, Mr. Robert Thomas, yr hwn oedd yn wr cymeradwy gyda'r Methodistiaid yn Lerpwl i dreulio Sul gyda'i fab Thomas i Gaer, ac aeth gydag ef i'r moddion. Ar ddiwedd oedfa'r hwyr, hysbysodd un o'r blaenoriaid y gynhull- eidfa o'i bresenoldeb ac o'u llawenydd o'i weled yn eu plith. Ar ei ol cyfododd un arall o'r enw Thomas Jones (saer llongau wrth ei alwedigaeth). Gwr ydoedd ef yn perthyn i'r dosbarth hwnnw na chredent ddim ond yr hyn a deimlant, ac nad oes yr un weithred yn deilwng os na fydd wedi ei harwyddnodi ganddynt hwy. Oherwydd ei gulni enwadol a'i ddallbleidiaeth, yr oedd yn elyn i'r achos Seisnig, a dywedodd fod yn dda iawn ganddynt 0ll weled Mr. Robert Thomas yn bresennol, ond fod yn ofid calon iddynt fod Mr. Thomas Thomas erioed wedi gadael Lerpwl a rhoddi ei