Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

draed o fewn y ddinas, nid oedd ef yn gwneuthur dim ond cynorthwyo y Saeson er pan y daeth iddi. Y Saoboth dilynol yr oedd Mr. Parry yn pregethu yn y capel, ac ar ddiwedu oedfa'r hwyr efe a ddymunodd ar i'r holl aelodau aros yn ol, fod achos pwysig i ddyfod gerbron; ac yn y "Seiat" efe a ddywedodd fod un o'u haelodau, ac un o'r rhai mwyaf gweithgar, wedi cael ei sarhau a'i friwio yn fawr gan un o'r blaenoriaid. "Cyfeirio yr ydwyf," meddai at Mr. Thomas Thomas, fy ngoruchwyliwr i, i gy- meriad yr hwn y gallaf dystio na fu yr un dyn mwy gonest a duwiolfrydig erioed o fewn y lle; ac hyd nes y bydd i'r person hwnnw dynnu ei eiriau'n ol, a gwneuthur ymddihaeriad teilwng a phriodol, ni fydd i mi roddi fy nhroed o fewn y pulpud hwn eto." Gyrrodd hyn yr eglwys ar dân, oherwydd fod Mr. Thomas yn ddyn a pharch mawr iddo gan fwyafrif yr eglwys, yn enwedig yr ieuengtyd. Ac er i'r gWr ystyfnig fod braidd yn ymarhous yn tynnu ei eiriau'n ol, mae'n hyfrydwch can- fod mai Mr. Parry gariodd y dydd. Ac .vedi rhai blynyddoedd estynwyd i Mr. Thomas y swydd anrhydeddus o flaenor. III. Y WASG GYMREIG YNG NGHAER. Er fod dyled y Cymry yn fawr i Mr. Parry fel pregethwr, yr oedd eu rhwym- edigaeth yn llawn cymaint iddo fel cyhoeddwr. Yr oedd argraffwasg Caer wedi rhoddi i Gymru er yn fore rai llyfrau adna- byddus, megis,- GWAGEDD MEBYD AC IEUENGTID, Sef rhai Pregethau a bregethwyd yn Hand Alley yn Llundain ar Ddymuniad amryw o rai ieuaingc. At yr hyn y chwanegir Cateehism i rai ieuaingc gan Daniel Williams D.D. (1728) DULL Y BRIODAs Ysbryeol. — Argraphwyd gan T. Huxley dros Peter Morris (1770). Dwy o GERDDI TRA Rhagorol. — Argraph- wyd gan T. Huxley dros William Jones, yn y flwyddyn 1770. DIFERYN DEWISOL 0 FEL O'R GRAIG CRIST. -Argraphwyd dros J. Richard, gan T. Hux- ley. Lle y gellir cael argraphu pob math o Gôpiau ar Bapyr a Llythyren dda, am Bris gweddaidd, (1783). Dwy Bregeth. — Gan E. H. Gweinidog o Eglwys Lloegr. Argraphwyd gan Thomas Hux- ley o Lan Elwy (yr unig argraphwr yn y Parth- au hyn ac sydd yn deall yr Iaith Gymraeg, &c.). Yr oedd cyfleusderau i argraffu yn nyddiau Mr. Parry yn anaml, a llyfrau Cymraeg yn brinion ac yn anhawdd eu cael, a byddai y gwaith o gyhoeddi llyfr neu olygu cylchgrawn yn anturiaeth nad oedd ond ychydig yn barod i ymgymeryd â hi. Yr oedd Joseph Harris (Gomer) wedi cychwyn y "Seren Gomer" wyth- nosol yn 1815, ond methodd yr antur- iaeth o ddiffyg cefnogaeth; yn 1817 daeth rhifyn cyntaf "Greal y Bedyddwyr" allan o dan ei olygiaeth, yr hwn a gyfar- fyddodd â'r un dynged. Yr oedd Try- sorfa" Mr. Charles a Mr. Lloyd wedi peidio ymddangos, a "Geirgrawn Dafydd Dafis o Dreffynnon, a "Chylchgrawn Cymraeg" Morgan ap Ioan Rhys cyn hynny, wedi hen ddistewi, fel nad oedd yn y flwyddyn 1818 ond nifer bychan ar y maes. Yr oedd y Wesleyaid wedi de- chreu cyhoeddi yr "Eurgrawn Wesley- aidd," yn 1809, ac yr oedd Gomer wedi rhoddi ail gynnyg â'r Seren Gomer" drwy ei dwyn allan yn fisol er Ionawr 1818. Felly yr oedd y wlad mewn sef- yllfa isel o ran moddion gwybodaeth gyffredinol; ac o dan deimlad dwys o'r anfantais cenedlaethol yma, ac o gydym- deimlad at ei genedl, ac oddi ar awydd i'w gwasanaethu yn fwy llwyr, ac i ddi- wallu ychydig ar ei hangenion, ceisiodd y Parch. John Parry argraffwasg yn y flwyddyn 1818, ac ymgymerodd a chy- hoeddi Goleuad Gwynedd," neu, fel y galwodd ef yn ddiweddarach, ar gais y Deheuwyr, Goleuad Cymru." Mae yn llawenydd canfod iddo gael derbyniad gwresog, a pharhaodd Mr. Parry i'w gy- hoeddi hyd y flwyddyn 1830. Yn y flwyddyn honno rhoddodd y Methodist- iaid y "Drysorfa" (yr hon a fu am ysbaid o dair blynedd heb ymddangos) iddo i'w golygu a'i hargraffu, yr hon a ddygai allan yn fisol, yr hyn a wnaeth gyda ffyddlondeb a medrusrwydd mawr. Heblaw y cyfnodolion hyn, cyhoedd- odd lyfrau o wahanol faintioli, megis "Gramadeg yr Iaith Gymraeg," "Gra- madeg Hebraeg," "Catecism Brown," "Pedwar cyflwr dyn" Boston, "Esbon- iad ar lyfr y prophwyd Esaiah," yr hwn a ddaeth allan yn fisol, pris chwe cheiniog y rhifyn, a "Rhodd Mam i'w Phlentyn," llyfr bach sydd wedi anfarwoli ei hun drwy ei symlrwydd a'i gyfaddasder i ar- wain meddwl plentyn at "Dduw yr hwn a'i gwnaeth"— ei ofyniadau a'i atebion yn syml, rhy syml i hyd yn oed i'r plentyn mwyaf difeddwl beidio eu deall a'u cofio.