Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

AE gennym yng Nghymru engreifftiau a chofebau am lu o gewri blaenllaw esgynasant o iselder tlodi a dinodedd, yn araf araf, er gwaethaf gwaradwydd a sen aml gydnabod, i deml eurog anfarwoldeb. Ac yn ddibetrus, gallwn nodi Alaw Goch gyda'r blaenaf yn y gyfres. Dyma esiampl deilwng i ieuenctyd ein gwlad i geisio ei dilyn. Ganwyd David Williams o rieni cyff- redin; rhoddodd nod o'i flaen i gyrchu ato ym moreuddydd bywyd; gwnaeth ei lwybr dros Alpau o anhawsderau; con- crodd hwy'n llwyr; a chyrhaeddodd gopa'r ysgol yn ddiogel, nes y daeth yn destyn serch oesol yng nghalonnau'r Cymry. Ganwyd ef Gorffennaf 12, 1809, mewn lIe o'r enw Llwyn Drain, yn: mhlwyf Ystrad Owen, ger y Bont Faen, Morgannwg. Cafodd y fraint amhris- iadwy o gael ei ddwyn i fyny mewn awyr- gylch grefyddol gan rieni tyner, gweith- gar, a gofalus. Saer coed ydoedd ei dad, yr hwn a draws-gymerwyd pan yn ieuanc yn filwr ar y llynges, a bu yn gwasanaethu yn y swydd honno am yn agos 1 chwe blynedd. Yr oedd ym mrwydr fythgof- iadwy Trafalgar, ac arosai yn y llong nesaf i'r Llynghesydd Nelson, a gwelodd y gwron yn syrthio. Tua'r flwyddyn 1821, symudodd y teulu i Aberdâr. Bu Alaw am dymor efo'i dad yn dilyn galwedigaeth llifiwr coed. Eithr nid boddlawn ganddo y gwaith hwnnw; yr oedd ganddo ef ddychymyg am alwedig- aeth well nag un saer coed. Penderfyn- odd daflu cipdrem ar ryfeddodau coludd- ion y ddaear-byd du y glowr. O ris i ris, dringodd a dringodd, nes y daeth yn berchennog ar lofeydd mawrion ei hunan, a chanddo filoedd o weithwyr dan ei lyw- odraeth. Wedi dringo i anrhydedd a chyfoeth dirfawr, ymlynodd yn fwy fwy yn llên ei wlad a'i defion, ei beirdd a'i barddon- iaeth. Astudiodd a meistrolodd reolau barddoniaeth ar fyr dro. Ei ddau hoff ramadeg oedd rhai Shôn Rhydderch yr Amwythig, a Robert Davies (Bardd Nantglyn). Daeth i sylw'r wlad fel bardd a llenor o nod, ac yn olynydd teilwng ym myd llên i'w daid enwog, Iolo Fardd Glas, Alaw Goch. awdwr "Perllan Gwent," â, gyhoeddwyd yn 1839. A dyma feddargraff Alaw Goch iddo,- Och alar, gwêl lech Iolo,— y Bardd Glas, Beraidd glôd, er cofio Dyn o ddysg a dawn oedd o, Iawn o'i gryd yn ei gredo." Yr oedd ei wladgarwch yn llosgi fel tân ysol yn ei galon. Iddo ef, ynghyd â Syr John Owen, Archddiacon Gnffiths, &c., y mae i ni ddiolch am yr Eisteddfod Genedlaethol; gwariodd lawer o arian ac amser er ei mwyn. Ymofynid am ei was- anaeth yn aml fel llywydd, beirniad, a chadeirydd eisteddfodol, a llanwai hwynt yn anrhydeddus. Nid oedd ei hafal, meddir, fel cadeirydd neu lywydd meddai ar allu digyffelyb i ddarostwng pob twrw a berw ddigwyddai godi ymhlith y bobl-nid oedd eisiau ond i Alaw Goch godi ar ei draed bron, a byddai'r babell ddistawed a mynwent mewn munyd. Yr oedd ei haelioni yn ddi-drai at bob mud- iad gwladgarol, crefyddol, neu unrhyw beth ag ynddo duedd at lesoli ei gyd- ddynion,- Beth bynnag, bynnag fai'n bod, Alaw bur oedd law barcd." Penderfynodd amryw gyfeillion llen- garol, er mwyn dangos eu diolchgarwch a'u gwerthfawrogiad o'i lafur diball, ei anrhegu â thysteb genedlaethol, mewn ffurf o fathodyn aur ac anerchiad. C'ymerodd y cyflwyniad a'r amgylchiad dyddorol Ie yn Neuadd Ddirwestol Aber- dâr, Ion. 15, 1862. Diau yr adgyfyd ad- gofion fel angylion claer yng nghalonnau hen drigolion Aberdâr am y diwrnod hwnnw,— y clychau yn dyhidlo eu ding- ding persain, a'r seindorf bres yn gwneyd glannau'r Dâr a'r Cynon yn lifeiriant o fiwsig. Llywydd y cyfarfod ydoedd un o blant glannau'r Aeron, Ceredigion,-yr Archddiacon Griffiths Castellnedd, ac ar- wisgwyd y tlws ar fron y bardd 0 Ynys Cynon gan ei briod. Yna bu nifer llu- osog o'r beirdd yn tywallt yn ddi-dor eu henaint barddonol ar ben yr arwr, Gwilym Tawe, Y Gohebydd, Aneurin Fardd, Nathan Dyfed, a Uu ereill. Dar- nenwyd rhai oddiwrth Nicander, Ceiriog, Caledfryn, Ioan Emlyn, &c. Dyma un yr olaf,-