Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

O iawnder, ni wâd undyn,—Ataw Gcch, Ddylai gael bathodyn; A myg waith o emau gwyn, Ar ymylau aur melyn. Hir wisgir hwn ar wasgod,­ein cymor, A'n Maecenas hynod; Enfawr a mwy diddarfod, Nag aur glân, ei enfawr glod." Ond tra yr ydoedd Alaw Goch yn cyn- yddu yn ei boblogrwydd beunydd yn y wlad, taenodd cwmwl dudew ei fantell drosto,—"Efe a fu farw." Ar fore Sad- wrn, Chwefror 28, 1863, ymadawodd â'i breswyl a'i briod anwyl yn siriol a llawen fel arfer, i fyned ar neges i Benybont ar Ogwr. Tra yn dychwelyd i orsaf y lle gyda chyfaill y noson honno, cwympodd i lawr ar y palmant yn farw, heb yngan ffarwel iddo. A bron mor ddisymwth â'i angau, y lledodd y newydd torcalonnus dros bob cwrr o'r deyrnas. Nis gellir dy- chymygu yn iawn alaeth ei deulu pan glywsant—y tad hael a chariadus oedd yn ymadael â chartref yn y bore yn llawn di fyrrwch, yn awr yn fud a gwelw, ac nid i sibrwd sill o gysur iddynt mwy yr ochr hon i'r Iorddonen. Mis bythgofiadwy yn hanes ochr len- yddol Cymru ydoedd mis Chwefror, 1863. Ar y 17, bu farw pen bardd ei oes, Eben Fardd a galarai Cymru o'i golli, ac ar yr 28, dyma un o'i chymwynaswyr mwyaf wedi cilio i fro'r marwolion,— Grudd wleb oedd ar ol Eben,-i Alaw: Wylodd 'rol y trylen; Am ddwyn y ddau gorau'u gwên, Ymwywo y mae awen." Cymerodd y cynhebrwng Ie Mawrth 6,— y mwyaf a welwyd yng nghwm Aberdâr erioed. Yr oedd dros chwe mil o gyfeill- ion y gwladgarwr gwresog yn teithio yn orymdaith o flaen y corff-y beirdd a'r llenorion yn gyntaf, gweinidogion yr Efengyl, a'i weithwyr ef ei hun yn canlyn yn cario:r arch. Claddwyd ei weddillion yn y Gladdfa Gyhoeddus, a cheir cof- golofn hardd i ddynodi ei orffwysfan. Rai blynyddoedd wedi hynny, claddwyd ei gyfaill Huw Tegai wrth ei ochr. Buont yn gyfeillion calon yn eu bywyd, a thybed nad ydynt heddyw yn cyd-awenu a chyd- lenydda ar lwyfanau aur paradwys ? Nis gwyddom i awen Cymru wylo ar ol neb yn fwy nag am Alaw Goch. Mae gan Hwfa Mon awdl galar faith am dano (buddugol yng Nghastellnedd, Medi, 1866); ceir pryddest farwnadol fuddugol gampus hefyd gan John R. Hughes Vaenol, Ban- .gor, yr hon a ymddangosodd yn rhan 7, Cyf. II., o'r "Eisteddfod," dan olygiaeth Creuddynfab. Ond dyfynnwn deimladau rhai o'i gymydogion barddol ar ei arwyl,- "Alaw, dyna fraw dan y fron,-gefais, A gofid drwy'r galon; Rhyw un sydd yn rhanu son, Aeth mawredd i blith meirwon." —Dewi Haran. Hiraeth, Ow hiraeth oherwydd, colli Gwr call iawn a chelfydd Ein Alaw Goch dieilýdd,- Pob calon, pob bron sy'n brudd." ^Carw Coch. Alaw Goch oedd fel haul gwyn,-i'w wlad rydd, A'i belydr aur dillyn; Dan glo yn gádwyn y glyn,- Rhwymwyd ef â'i bêr emyn." —Tеlynog. "Awelon Cynon, cwynant,-a Misgin Y moesgar ymdonnant; Pob calon, pob tôn, pob tant, Am Alaw yr ymwylant." -G. Brycheiniog. Ow môr o wae oedd marw hwn,— Walia, Hir alaeth a deimlwn; Galar ar alar welwn,- Eitha'n baich,-hiraeth yn bwn." —Cynonwyson. Yr un bore ag y daeth rhifyn Gorffen- naf, 1903, o'r CYMRU i'm llaw, yn yr hwn yr ymddangosai crynodeb o'r hyn a welais yng Nghladdfa Gyhoeddus Aberdâr, der- byniais lyfr gan y llythyr-gludydd,- "Gwaith Alaw Goch, dan olygiaeth Dafydd Morgannwg," mewn cloriau glas goreurog, ac yn cynnwys 190 tudalen. A thu fewn, cefais yn ysgrifenedig, Cyf- lwynedig i E. B. Morris, Yswain gan y Barnwr Gwilym Williams, Gorffennaf, 1903. Rhyw gyd-gyfarfyddiad gwyrth- iol bron ydoedd hwm< Yn y rhifyn hwnnw o'r CYMRU ygrifŵnais, wrth weled Argel Alaw Goch,"—"Gresyn nad ym- gymerai ei fab, y Barnwr Gwilym Wil- liams, â'r gwaith o gasglu ei holl weith- iau, a'u bwrw ynghyd yn gyfrol." Ac yn hollol anwybodus o'r ffaith am eu cy- hoeddiad, dyma fy nymuniad wedi dyfod i ben cyn i'r CYMRU gyrraedd hanner ei ddarllenwyr. Yn amgauedig gyda'r sypyn ceid nodyn yn hysbysu nad oedd v llyfr ar werth, ac nas argreffid ond nifer penodol gan y Barnwr gwladgar i'w roddi fel anrheg i'w gyfeillion a gwnaeth