Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

hynny fi yn falchach byth. Cynhwysa y gyfrol y rhan fwyaf o gyfansoddiadau Alaw Goch. Awen syml, lyfn, a natur- ioled a chân y pigfelyn ar y brigyn ar dor- iad gwawr, neu ymlifiad nwyfus nentig y mynydd ar ei gwib i'r dyffryn oedd gan- ddo; nis mynnai ei awen gymeryd ei hedyn dychymygol i fro'r cyfarwel- ion a'r ysbrydion pell,-agos atom, gydag ergyd byw, ydoedd hi yn wastad. Nid oedd rheolau cerdd dafod Dafydd ab Edmwnd yn un llyffethair i'w awen ef rodio yn hamddenol ynddynt; canai yr un mor rhwydd ag y gwnai yn y mesur rhydd. Dyfynnwn bigion yma ac acw o'r gyfrol, gyda chaniatad caredig y Barnwr haeddglod. Dyma ei gyngor "Pa fodd i fyw'n hapus," Pa f odd i fyw'n hapus ? O! gwel fedd y baban, Y ti gefaist fyw i ganfod y cyfan; Cest dy, a chest dô, cest blant iach gan anian, A chymwys ymgeledd, paham wyt yn tuchan? Pa fodd i fyw'n hapus? Wel, diolch am bopeth, A chofia nad ydwyt yn haeddu cael unpeth: A chofia gyfaddef mewn modd anrhydeddus, Dy fod o hyn allan yn hynod o hapus." Cerdd swynol a chaboledig ydyw yr un ar briodas y "Ddiweddar Frenhines Vic- toria, â'r Tywysog Albert o Saxe Cbburg a Gotha, Mehefin 28, 1840," a'i diwedd- glo yw,- Llewyrched sirioldeb, a gwên ar bob gwyneb, A barn mewn uniondeb o'r undeb er hedd Er denu o'r dynion a'u cynnes amcanion I feddwl am fuddion a swynion y sedd; Arianu bo rhinwedd i'r bennaf o'r bonedd, A mawrion y senedd anrhydedd a nerth; Mewn harddwch crefyddol a chariad myn- wesol, A phob peth sy' fuddiol yn waddol o werth; Boed hardd ei chymeriad, mewn mawredd yn wastad, Ei choron, a'i chariad, a'i bwriad yn ben; A lor y gogoniant yn wrthddrych eu hoffiant, Eu gobaith, a'u llwyddiant, a'u moliant, Amen." Marwnad gampus a llawn celfyddyd ydyw yr un ar ol W. Williams (Gwilym Ddu o Lannau Cynon), Bedwlwyn, Aber- dâr, yr hwn a ddringodd yn brif-fardd trwy ennill cadair Eisteddfod Merthyr Tydfil, 1824, am awdl i'r Goleuni," ac y mae mab iddo, Hywel Ddu, yn byw yn awr yn Heol Fawr, Merthyr, ac yn par- hau i chwareu â Cheridwen yíi hwyrddydd bywyd. Wele bennill er engraifft,- Gwych fel bardd a hardd ei eiriau, A'i'n wir hwylus trwy'r rheolau; Awenyddol, urddol, fawrddyn, A di-anghlod am wneyd englyn, Awdl enwog, mâd Oleuni,' Tanbaid eto, sy'n ei eiddo'n treiddio trwyddi; Gramadegol, manol, mwynaidd, Addysgiadau, da ei seiniau, geiriau gwaraidd." Dyfynnwn yma dwysged o'i englyn- ion,- YR IAITH GYMRAEG. Iaith ethol, a'r iaith ddoethaf,­-iaith hen, Iaith hynod gyweriniaf: I'r Awen, iaith foreuaf, A'n hiaith ni yw iaith ein Naf." Y LLOER. Wyd, loer, a adleueri-hoff wenau 0 ffynnon goleuni; Rheolydd y môr heli, A thlws lusern nos i ni." DEWISOLION DYNION. Mola rhai yr aur melyn, — ac eraill, Garant guro'r gelyn; Tueddir rhai at dyddyn,- Rhinwedd dda, wir ddyrcha ddyn. Hoff alwad rhai yw ceHylau,—eraill Am eurog fodrwyau; Minnau, Hen Wlad ein Tadau, Bêr o hyd,­-iaith i barhau." Y DDANNODD. 0 dir, ydwyf doredig,­yn y drych, Dyna drwyn mawr chwithig; Och wedd dost gan chwyddi dig, A swch eidion sychedig." OES Y BYD I'R IAITH GYMRAEG. Aed Dyffryn Clwyd gan abwydyn,-a Rhyl Ar olwyn gwybedyn; Aed Caer i rwyd y corryn, 'E gwyd y iaith wedi hyn." YR ENFYS. Arwydd o y nef eirian, — yw'r enfys, A'r unfaint ym mhobman, 0 cofied y byd cyfan Y deil Duw y dwl â'i dân. YR YSGOL SABBOTHOL. "Athrofa gwlad a threfydd,—di-tediaith, I dylodion gwledydd; Golud i fyw mewn gwlad fydd, I dyrfa'r fraint nas derfydd." Y CWMWL. Buan 'hedydd heb un aden,-­gogr yw, Neu gawg rhydd mewn wybren; Cwmwl mawr uwch llawr mal llen O'r diluw ar dair dolen."