Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Chwyrn gaseg, chwe haiarn goesau,-gron hir, Gywrain, hardd, gwel lwythau, Cerbydres gynnes yn gwau, A llaw gwr yn lIe geiriau." Englynion miniog eithriadol ydyw y rhai i "Rhys Grintachlyd." Wedi noethi i'r byd olwg ar ei gymeriad, cawn yr eng- lyn uwch ben arogl Rhys, druan,- "Gorwedd yn y bedd y baw,-hen saryn, Anuwiol, heb gyffraw; Ni welir neb yn wylaw, Na sain rhoch, cnd swn 'y rhaw.' Gan ein bod eisoes wedi rhedeg ymhell dros derfynau gofod, a chan ein bod yn bwriadu ysgrifennu yn helaethach eto ar Alaw Goch, terfynwn gyda dyfynnu y darn rhyddiaeth canlynol, sef hanes ei ymweliad â'r Amwythig Tach. 14, 1860, i gyfarfod pwyllgor yr Eisteddfod,- Darfu i un ar ddeg o'r aelodau gyfarfod; a gwn y bydd yn hoff gan y wlad ddeall fod pob un â'i holl nerth am lwyddiant. Ond mor wired â'm gair, os yw hynny yn wir hefyd, ni fum yn y fath le erioed a'r Amwythig. Y peth cyntaf, yr oedd ffair yno y dyddiau hynny. Yn nesaf, yr oedd rhedegfa (races) ceffylau yno. Yn drydydd, yr oedd yn bwrw gwlaw. Yn bedwerydd, nid oedd llety, na gwely, na bir, na bwyd i'w gael am arian. Felly, gorfu i Gwilym Tawe, Gwilym Mai, a minnau drigo ar yr heol fawr, o hanner awr wedi deuddeg o'r gloch hyd dri yn y bore, gyda bechgyn y gwisgoedd gleis- ion. Er ein bod yn myned ymaith am chwarter wedi tri gyda'r trên, a'n bod yn gweled tân rhagorol yn y station, gwrthododd y dyn gonest ein gollwng i mewn. Felly, cawsom ddewis yr un a fynnem,-sythu neu beidio. Bu rhai o honom yn gofyn i'r bechgyn gleision am lety; ond ni allent hwy ganiatau ein cais heb i ni Llanbedr Pont Stephan. [AR ol i Ellis Wynne wawdio cymeriadau trahaus ei oes mor ddeheuig ac ysmala yng Ngwel- edigaethau y Bardd Cwsg," dechreuodd rhai eraill o'r beirdd eu portreadu hefyd. Dyma ddau bictiwr pur nodweddiadol a gopiais o hen ysgriflyfr, yn dyddio tua 1720. Gwelais yr englyn cyntaf yn Almanac John Prys am 1763, ond mewn dull gwahanol, ac yn wallus. Pwy allasai eu hawdwyr fod tybed yr adeg hon ?—CARNEDDOG.] Y CWNSLERIAID A'R TWRNEIAID. GwYR y curls, a'u bils heb wad,­-sain cowraint Sy'n cyrraedd cymeriad; Hyfwyr lu yn hifio'r wlad, (Tewion, siriol) tan siarad. Y GERBYDRES. Brasluniaur Hen Feirdd. gyflawni rhyw drosedd. Beth bynnag, ní'ri darostyngwyd i hynny y tro hwn. Ond wele y cloc yn taro tri, ac ym mhen tipyn cawd lle i fyned at y tân mawr segur yn y station. Felly bant a Gwilym Mai a minnau efo'r trên, a chawsom y pleser o adael ein caredig Gwilym Tawe ar ol, i drugaredd y blue boys hyd y bore. Felly, cyrhaeddais adref cyn tri o'r gloch (y prydnawn), ac yr oeddwn o'r braidd yn amheu fy hun. Gadewais Gwilym Mai ym Merthyr. Nid wyf wedi clywed pa un ai byw ai marw ydyw; ond clywais trwy Aneurin Fardd iddo weled Gwilym Tawe yn fyw yn yr Am- wythig bore drannoeth. Da machgen i. Weather proof, onide? Ond yn awr am bennill o farddoniaeth,­-os na sythwyd yr awen,- 0! canaf i Ynys Cynon,—mwy byth, Am bethau cysurlon; 'E ddygwyd imi ddigon O rasau hedd yr oes hon. Ni fyddaf byw ar drugaredd-moethau Yr Amwythig oerwedd; Yn hir heb fan i orwedd, Dyma hen wlad, — dim yn wledd. Am y lle oer, llwm, a llwyd, — 0 cofiaf Y cyfan, nid breuddwyd; Heb dy na thân rhag anwyd, Dros nos hir heb fir neu fwyd. Trwy daro y traed oerion, — ysgydwn Fy esgidiau gwlybion; A gloesi ger bechgyn gleision Y sythais i, os yw waeth son. Eto, os byth af atynt,o reswm Ni 'rosaf mewn corwynt; 0 hwyliaf mewn gwell helynt, A'm gwae na wnaethum i gynt. Gyraf i ryw garafan,-âf â stove A stafell fach burlan; Drws a chlo, a tho, a thân,- Yno cysgaf fy hunan." E. B. MORRIS. Y TAFARNWYR. MAWR-DDUWTAU'R plant trachwantawl,- mwyn, boldew, Mewn baldordd uffernawl; A chnafon duon y diawl, Siaradus,­-ffeilswyr hudawl.