Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YNA dro! Ia Shwt dicwyddws hi? Medd- yles i ddim fod cymint yn gwpod am y peth. Naddo fi, myn asen i. Ond ma pobol n gwêd sliaw o gelwddach hèd. Wel, fe wêta i'r cwpwl, bob ifflyn, o'r dechra I'r diwadd. 'Rodd ticyn o whant mynd i ddwr y môr arno i, a mynd a'r wejan gita. fi. Dychriws Mèr Jên ddannod i fI fod pob un yn mynd off ond hi, a 'rodd hi'n reit hèd; fath ar ddy llun Sulgwyn 'rodd 'na gannodd a milodd yn mynd yn ddistop off i'r Western, a Barry, a phob- man, nes odd y Porth mor wag ag wn i beth. Wel, ta beth, bendrafynes fynd a hi i ddwr y môr, yn eno'r dyn. 'Rodd hi am fynd i Barry, a finne am fynd i Jessie Maríne, man lIe buo scyrshon y Splits, a fe spliton y diffrans, ys dywad y bardd, drwy fynd i Aberddô. Wydde ddim un o ni shwt le odd a, ond wêtes i wrth Mèr Jên fod nhw'n rhoi gair da iddo, a'i fod yn lle tip-top i faddo, ac fod teie 'co ishta plase gwyr mawr. Etho ni? Do, fe do. Acha dy' Mer- cher, gwnnes gyda'r wawr; a 'rôdd y tewydd yn jenwin; allset ti, Shoni, byth 'i neyd e'n well byse ti'n treio dy law ag ar dy ddwy-benlin. 'Rown i wedi shafo gyda'r barbwr nos ymlan. Wisges yn go gwic y trowser chec, a'r got a chwt a'r wasgod ddu, sgitsha tan, tei goch, nishad shidan, a mwfflar gwyn-popeth, bachan, up to the knocker. 'Rodd Mèr Jên yn dishgwl am dano i yn y stêshon, wedi bod 'co, spo, am hanner awr. Pan ddês i, gofynnws i fi dicyn yn short,- "Ble buoch chi cyd, Dai?" "0, 'rown i am i chi fod gynta, Mèr Jên," ebe fi, "fath ladies first yw i fod mwy. Dyna smart ych chi." Gita hynny, fe dônodd lawr sopyn a rhaid i fi wêd, Shoni, 'rodd hi'n smart fudur; blows gwyn am dani, bachan, llawn ffrils, a thwcce i gyd; hèt newydd wedi costi cinog a dima, dyna beth ffact yw a, a rosis coch a gwyn, melyn a glas arni; i geal gwêd y gwir, Shoni, welast ti ddim beth pertach yn dy fywyd. Wel, fe etho i gwnnu ticad. Fi odd y cynta wrth y drws bach ticedi. Tro i Aberddö. Mae serch ar y dechreu yn cynneu fel carth; Pan dderfydd, hi a ddiffydd heb gywilydd na gwarth." Huw Morus. "Two to Abertho," eba fi. A da'th y clerc ag un ticad. Two," eba finna. "0," ebe fe, "I thought you were stuttering." Stutterin', myn asen i," eba fi, give us two tichets to go to Ábertho." "You don't want two," ebe fe, "you can get to Abertho with one. For whom do you want two?" "For myself and me butty," eba finna, dan werthin. Fe dda'th a dou singles. "Three and 'leven, please," eba fe. Give us two returns, boss, instead," eba finna. "Too late, now I have dated them; you must take these now. The return is not cheaper," eba fe, a'i fwnci fyny. "Isn't it, sonnyì" eba finna. "Give us two returns at once, and hurry up. Fyse ddim dy isha. di, a'th sort, oni bae am dana i a'm sort." 'Rodd y mwnci inna wedi cwnnu 'nawr. 'Rown i'n gwpod beth own i bouthtu 'ddo, a 'down i ddim wedi planco la.wr eto un senten goch. Fe dda'th my lord a'r ddou return, a thri a whech, ac nid tri ac un ar ddeg odd y ffeâr. Safies fel'ny bum cinog i geal sigrets, ag off a fi ar iol Mèr Jên i geal sôt gwmffwrddus. Pan 'steddes i yn y train, mi gofies nad odd gen i ddim sigrets; ond roen ni i fod i newid yn y Bont, a fe rytes i shop barbwr, ac wedi i fie geal pacin o sigrets, shotes werth gròt o docins a off a fi fel mail 'nol i stêshon y Bont. 'Rodd rhyw flôc yn sharad sha Mèr Jên. A gwêd y gwir, 'down i ddim yn leico'i olwg a. Gyda fi odd Mèr Jên wedi dod, ac impidens y blôc odd rhoi drwyn rhyngon ni. Ma rhwbath ishta na yn ddicon i hala rhwng y gWr drwg a'i gwd. Ond off a ni yn llon o'r Bont, sha'r Fro; a 'roedd coese'r train wedi ceal 'u gresho'n dda y bore 'ma. Cyn y'n bod ni wedi rhoi dwy neu dair anadl, roen ni meâs yn y wlead ynghanol y co'd a'r dail a'r borfa dyna beth odd,-