Symud i'r prif gynnwys

[Darlith yw hon, draddodwyd yn hen gartref Ann Griffiths, gan y diweddar John Jones, ieu- cngaf, Llanfyllin. Ni wnaeth neb gymaint a Mr. Jones i gadw cof yr emynyddes yn fyw. Ond nid yw gymaint yn yr amlwg a rhai o'r gweithwyr teilwng ereill. Y mae dau reswm am hyn,-ei wyleidd-dra naturiol dwys, a'r ffaith ei fod yn un o deulu Dolwar, oherwydd yr oedd ei nain yn chwaer i Ann Griffiths. Rhoddir gyda'r erthygl ddarluniau o gymaint o berthynasau Ann Griffiths ag a fedrwn gael, -sef silhouette. o John Jones, hynaf, Llanfyllin, nai Ann Griffiths,-ei fab John Jones a dwy o'i ferched. Yr wyf wedi arfer credu fod Ann Griffiths yn debyg, o bryd a gwedd, i'r teulu hwn. Maddeuer imi am ychwanegu dar- lun y Parch. Owen Jones, diweddar briod un o'r merched,-¾un o ysgolheigion manylaf Cymru, ac un o'r gwyr mwyaf addfwyn fugeiliodd braidd.] JOHN JONES, LLAXFYLLI". MAE y bardd yn dweyd mai Trwy ddirgel ffyrdd mae'r uchel Ior Yn dwyn ei waith i ben." Ond hwyrach ein bod ni weithiau, wrth fyfyrio ar wrthrychau ein hedmygedd, yn rhy dueddol i dybied ein bod yn canfod rhyw ragluniaeth ddirgel a hynod lIe nad oes ond pethau cyffredin iawn yn cymeryd lIe. Peth cyffredin yn ein dyddiau ni, ac nid peth anghyffredin yn yr amser yr ydym yn myned i siarad am dano yw, fod dynion da yn teithio ar hyd a lled y wlad i bregethu-fod dynion yn casglu at eu gilydd i wrando. Nid peth anghyff- redin ydyw cael dynion darllengar, yn hoff o ddarllen eu hunain, ac yn hoff o fagu ysbryd darllen mewn eraill trwy roddi benthyg llyfrau da iddynt. Gall pethau fel hyn fyned ymlaen, ac y mae pethau Ann Griffiths. cyffelyb yn cymeryd lle yn wythnosol-ac heb dynnu nemawr o sylw. Ond tybiwch chwi fod cyfres o amgylchiadau cyffredin o'r natur hyn yn cymeryd lle, ac yn y diwedd yn cynhyrchu rhywbeth anghyff- redin-y mae y gwahanol ddolennau yng nghadwen yr amgylchiadau yn myned yn bwysig ac yn dra ddyddorol. Y peth anghyffredin yr ydym yn myned i son am dano heno ydyw dyfodiad crefydd i Ddolwar Fechan, a'r canlyniad- au o hynny. Ond yr ydym yn bwriadu cyffwrdd â gwahanol ddolennau y gadwen hyd nes y deuwn at wrthrych ein sylw mwyaf arbennig. Fe ddywedir i ni fod Methodistiaeth wedi dyfod yn lled fore i ardal Llanfair a Phentyrch. Yr oedd yr hen bobl yn siarad llawer am Ben y Gochel, lle y bydd- ent yn arfer myned i wrando ar y llefar- wyr a fyddent yn arfer teithio y pryd hynny. Yr oedd y lle hwnnw yn lle y byddai gwragedd a gwyr crefyddol o'r gymydogaeth hon yn arfer cyrchu iddo. Ac fe'n hysbyswyd gan wraig oedd yn gyd- nabyddus iawn â hanes ac arfer yr hen bobl yr ydym yn cyfeirio atynt, y bydd- ent yn arfer codi yn fore gyda'r wawr- ddydd i nyddu eu hanner pwys cwyr gwlan, yr hyn fyddai yn dasg iddynt bob dydd heblaw goruchwylion eraill y ty, er mwyn ennill oriau y prydnawn a'r hwyr i fyned i Ben y Gochel, a mannau eraill, i wrando ar y gwyr dieithr a fyddent yn arfer teithio y pryd hynny. Y mae yma yn ddiau wers y byddai yn werth ei chofio gan grefyddwyr difraw y dyddiau hyn, yn esiimpl yr hen bobl hyn. Y mae yn dra thebyg fod ymhlith y rhai fyddent yn arfer gwrando ar y pen- nau gryniaid,­-fel eu gelwid,-deulu un gwr oedd yn adnabyddus iawn yn y gymydogaeth hon ers rhyw 40 neu 50 mlynedd yn ol, plant yr hwn sydd yma hyd y dydd hwn. Yr wyf yn cyfeirio at Samuel Owen o'r Wig, enw yr hwn fydd yn gysylltiedig a dyfodiad crefydd i Dol-