Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Llanfair Caereinion yw capel y Bont, a gofelir am dano yn bennat o Feifod — yn oresennol gan y Parch. E. Arthur Morris. Oddeutu hanner can mlynedd yn ol gwnaed y Bont yn ddosbarth eglwysig, ac adeiladwyd yr eglwys bresennol a gysegr- wyd i Sant loan yr Efengylydd. un rheithor fu arni o'i chychwyn hyd yn ddi- weddar, sef y diweddar Barch. D. Lloyd James, D.D., dreuliodd hanner canrif o'i fywyd yma. Yn awr y Parch. E. Roberts yw y rheithor. Adeiladwyd yr ysgol yn y flwyddyn 1857, ar dir a roddwyd gan Arglwydd Powys. Ysgol sydd yn llwyddo'n rhag- orol ydyw, dan ofalaeth y cerddor adna- byddus Mr. E. Dryhurst Roberts. Nid yw efe'n petruso arfer yr iaith Gymraeg yn gyfrwng i addysgu'r plant, a sylwa arholwyr ei Fawrhydi ar gyflymder medd- yliau y plant a addysgir felly ynddi. Yn y rhan hon o'r pentref hefyd mae yr unig dafarn sydd yn y lIe, ac ym marn rhai o honom mae yma un yn ormod mewn pentref mor fychan. Nid oes yma ddim rhwng y dafarn a'r capel neu'r eglwys,- na llyfrgell nac ystafell gyhoeddus, heb- law ambell i gyfarfod llenyddol ac eistedd- fod dair blynyddol. Tros y Bont mae rhan Llangynyw o'r pentref. Tri adeilad sydd yma, sef siop y diweddar Mr. Maurice Hughes, a ddygir ymlaen yn bresennol gan ei fab, Mr. D. P. Hughes; capel presennol y Methodist- iaid, a adeiladwyd oddeutu 1863, ac a dal- wyd am dano drwy lafur y Parch. Edward Griffiths, Meifod, yn bennaf, pan yr oedd y Bont yn ei ofalaeth; a thy Lot Wil- liam fel ei gelwir. Hen dafarn yw hon, a golwg ryfedd sydd arno. Gelwir ef ar restr y Llythyrdy yn Old Public." Ei hen enw oedd The Old Pack Horse." Nis gwn am enw Cymraeg arno, ond y mae ei breswylydd presennol yn ddyn mor anghyffredin-geilw ei hun weithiau yn faer y dre-fel mae'n ddigon ar hyn o bryd gan y trigolion ei alw'n "Dy Lot Williams" neu'n "Dy Lot." Gallesid dweyd llawer am y gŵr bia'r nenbren yma, ond rhaid ymatal. Saif yr hen daf- arn ar hen ryd groesai'r afon yn yr amser gynt lle y mae'r bont yn bresennol. Cymerwn ein safle ar ben y bont, ac edrychwn i'r pedwar gwynt. Yn gyntaf edrychwn i fyny'r afon, dros y coed i'r bryn pellaf. Yno gwelwn dy bron ar uchaf y bryn, a synnwn fod neb yn adeiladu ar y fath uchelbwynt. Enw'r ty yw Halfen, a thrwy waelod Halfen y cerddai Ann Griffiths i'r capel o Ddolwar Fach. Pe'r elem ar hyd y ffordd o'r Bont i Halfen, teithiem hyd ran ddiweddaf llwybr yr emynyddes. Cyn pen hir wedi gadael y Bont croesir nant a elwir Nant y Dugwm. Yn lle dal ymlaen i Halfen codwn i fyny ar y chwith yn y fan hon drwy y coed, ar hyd Ifordd Pen Dugwm, ac yn fuan iawn deuwn i'r fan lle ganwyd ac y magwyd John Davies, y cenhadwr o Tahiti. Safai ar un o gaeau Pen Dugwm, ar y chwith i'r ffordd at y ffarm. Nid oes yn awr ond ychydig anwastadrwydd ar wyneb y tir lle gynt y safai ty'r gwehydd. Yno y dysgodd John Hughes ei grefft fel gwehydd yno y cafodd achles i'w awydd am wybodaeth, ac y dysgodd garu y cen hadwr â chariad na oerwyd er eu gwahanu gan hanner y byd. Mae Pen Dugwm bron yn ardal Penllys, lle y magwyd Tnos. Williams (Eos Gwyn/aJ, ac yn ddiweddar- ach Gwrgant. Edrychwn eto ychydig i'r gogledd oddiar y bont. Rhyw filltir ar hyd ffordd Cwm Nant y Meichiaid, dipyn o'r ffordd ar y chwith, y mae Rhos Pen Bwa, lle y cafodd Gwallter Mechain wraig, a merch Robert ab Olifer wr. O'n blaen, wrth edrych i lawr yr afon, y mae dyffryn Meifod yn cychwyn; ac ar y chwith wrth fynd i lawr lai na milltir o'r Bont mae Dolobran, cartrefle y Cryn- wyr enwog Charles a Thomas Lloyd. Bu Charles Lloyd, er ei fod wedi ei enwi i fod yn uchel sirydd, ac yn un o rai boneddig- eiddiaf y sir, heb weled ei gartref am ddeng mlynedd, drwy gael ei gadw'n gar- charor yn y Trallwm, ryw wyth milltir o Ddolobran, am na buasai yn mynychu'r eglwys unwaith yn y mis. Dioddefodd Thomas Lloyd ddirwyon anghyffredin tra yr arhosodd yn y wlad hon, ond aeth ef drosodd i'r America at William Penn ac efe oedd prif ynad cyntaf Pennsylvania. Adeiladodd Charles Lloyd a'r Crynwyr gapel bychan rhwng Dolobran a Choed Cowryd, mewn lle neillduedig iawn. Mae'r capel yn sefyll heddyw, ac yn dy golchi i'r wraig sydd yn byw ymhen y capel. Capel bychan ysgwar yw o briddfeini, a adeiladwyd yn y flwyddyn 1701. Yr oedd oriel gul un ochr iddo, ac y mae y trawst oedd yn ei dal yno eto. Ar yr ochr arall yr oedd pedwar o dyllau neu agoriadau i'r ty-dau i'r gegin a dau i'r llofft, fel y gallai, os byddai angen, y rhai oedd yn y ty gyd-addoli a'r rhai oedd yn y capel. Mae agoriadau cyffelyb yn cysylltu hen gapel y Methodistiaid yn y Pentre Uchaf