Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

IV. JOHN HUGHES, PONT ROBERT. odd ei fam fawr ddim ond llafur ei dwy- law ei hun i'w fagu ef a'i frawd ieuangach nag ef. Enw y brawd hwnnw oedd Morris, a daeth yn weinidog defnyddiol a chymeradwy gyda yr Anibynwyr. Bu yn gwasanaethu yn yr efengyl am dros ddeugain mlynedd, i eglwys Sardis, lle bychan sydd wrth Abermarchnad, rhwng Llanwddyn a Dolanog. Bu Morris Hughes farw ychydig flynyddoedd o flaen ei frawd, a chyfansoddodd John Hughes farwnad iddo, yn yr hon y dywed,- Rhoddaist ti i eglwys Sardis, I gyhoeddi athrawiaeth iach. Ddeugain mlynedd o wasanaeth Am ryw gyflog hynod fach. Cafodd John Hughes ychydig ysgol gyffredin pan yn blentyn, a dysgodd yn- ddi ddarllen Saesneg ac ysgrifennu ychydig, ond ni ddysgodd ddeall dim Saesneg yr adeg yma. Wedi gadael yr ysgol y dysgodd ddarllen Cymraeg, ac ni wnaeth sylw o'r Saesneg mwy am flyn- yddau lawer. Cafodd ddygiad i fyny hollol amddifad o addysg a moddion cre- fyddol: a thyfodd yn fachgen gwyllt ac anystyriol, eto ni chyflawnodd unrhyw bechod gwaradwyddus. Yr oedd tuedd ynddo er yn fore at brydyddu, a chyfan- soddodd rai ysmalwawdiau (interludes) yr adeg honno, a bu bechgynos tebyg iddo ei hun yn chwareu y rhai hyn, yn fwy er mwyn difyrrwch nag elw. Bu yn gweini ychydig yn rhai o'r ffermydd o gwmpas ei gartref, cyn myned i ddysgu crefft gwe- hydd i Ben Dugwm, at dad y Parch. John Davies, y cenadwr enwog a anfonwyd gan Gymdeithas Genhadol Llundain, ar gym- eradwyaeth Mr. Charles o'r Bala, i Ynys- oedd Môr y De. Dechreuodd cyfeillgar- wch pur rhwng John Davies â John Hughes y pryd hwn, a barhaodd am eu hoes. Yr oedd y cenhadwr dair blynedd yn hyn na John Hughes, bu fyw am un flwyddyn ar ei ol. Yr oedd teulu Pen Pregethwyr Sir Drefaldwyn. MDDENGYS i John Hughes gael ei eni mewn ty bychan o'r enw Pen y Figyn, Llanfihangel yng Ngwynfa, Chwefror 22, 1775, o rieni tlodion. Bu farw ei dad pan oedd ei yn saith oed, ac ni chaf- Dugwm yn grefyddol, ac yr oedd rhyw ymrysoniadau ar feddwl John Hughes yn fynych, ond nid digon i'w gadw rhag byw yn anuwiol, nes y clywodd Thomas Jones Llanwynog yn pregethu ar y geiriau,- Dal yr hyn sydd gennyt, fel na ddygo neb dy goron di." Gadawodd y bregeth argraff ddwys iawn ar ei feddwl, a theimlai na feddai ef ddim oedd yn werth i'w ddal. Glynodd wrth wrando, a gwel- odd ei gyflwr colledig fel pechadur, a daeth i fesur o adnabyddiaeth o Grist fel Gwaredwr, a derbyniwyd ef yn aelod o eglwys y Methodistiaid ym Mhenllys yn niwedd haf y flwyddyn 1796. Bu yn dywydd mawr ar ei feddwl yn adeg ei dro- edigaeth, ac yr oedd yntau mor onest gydag ef ei hun, fel y chwiliai ddirgel- oedd ei galon i'r eithaf, a dywedir iddo yr adeg yma benderfynu ei achos personol rhyngddo â Duw mor drwyadl fel nad amheuodd wirionedd ei droedigaeth byth ar ol hyn. Ymddengys fod John Davies wedi cael mwy, a gwell addysg, yn 'blentyn, na John Hughes; ond yr oedd y fath awydd a syched am wybodaeth ynddo yntau, fel y llafuriai yn ddibaid i ddiwyllio ei feddwl. Bu y ddau lanc yn gryn gynorthwy y naill i'r llall yn eu hymdrech am ddysgeidiaeth, a gwelodd Mr. Charles gymhwysder yn- ddynt i fod yn ysgolfeistriaid yn ei ysgol- ion cylchynol ef. Bu John Hughes yn athraw vn Llanfihangel, Pont Robert, Llanwrin, Berthlas, a Llanidloes. Yr oeddwn yn adnabod dwy wraig a fu dan ei addysg yn Llanwrin, a mynnent hwy ei fod yn ysgolfeistr rhagorol, a bod ganddo fedr neillduol i wneyd pob peth yn eglur i'r plant. Yr oedd ganddo ddull neill- duol o weinyddu cerydd ar y plant a droseddent reolau yr ysgol. Cadwai ysgol unwaith mewn hen dy annedd, yn yr hwn yr oedd pobty, a chaead arno a phan y byddai un o'r bechgyn wedi gwneyd tros- edd go fawr, bwrid ef i'r pobty, a chaeid arno yno am amser penodol. Os byddai y trosedd vn fychan, y cerydd fyddai lapio côt uchaf yr ysgolfeistr am y plen- tyn, a'i roddi i orwedd ynddi ar y llawr, a gwasgu a throi a throsi tipyn arno, fel y bydd gwraig yn tylino torth o fara. Nid oedd y gwragedd hyn yn cofio ei weled erioed yn arfer gwialen i guro neb. Dy- wedir y byddai yn well gan y bechgyn fyned i'r pobty na chael eu gwasgu yn yr