Symud i'r prif gynnwys

Cyd drydar hwyr, cyd rodiaw Llwyni a llethr, law yn llaw. Beth am y fael oedd cael cell ( Bu osteg) yn y Castell ? Hen gell wely Owain Goch Lle bu n acenu cannoch. Tra b'o sêr, safed Peris Yn werth, na b'o'i rhin yn is, Yn llon wych wir winllan Nàf, Hyd ddelwad y dydd olaf Peris fo'n pennaf puror I Nâf gun yn y Nef gôr." Y pumed ydyw y bardd WILLIAM Edwards (Gwilym l'adarn). Chwarelwr oedd y bardd hwn, ac yn fab i un Edward Williams, Ty'n y Gadlas, o'r plwyf hwn. Ymddengys iddo gael ei eni rywbryd yn 1786. Bu farw yn 1857, yn 71 mlwydd oed. Yr oedd yn cyfaneddu yn ymyl hen Gastell Padarn. Yr oedd yn fardd rhag- orol. Y mae'r englyn canlynol o'i eiddo ar feddfaen Dafydd Ddu Eryri ym myn- went Llanrug, ac y mae yn gyfryw na raid iddo gywilyddio yn ymyl eiddo prif- feirdd Cymru. Wele, — Dyma gell dywell Dewi,-fardd clodfawr 0 orawr Eryri Tristwch mawr sy'n awr i ni O'i ddwyn, ddyn addwyn, iddi." Cyfansoddodd amryw o bryddestau, a bu yn fuddugol lawer gwaith. Yr oedd yn awenydd coeth a medrus, yn arbennig yn y cylch marwnadol. Yn 1829, cy- hoeddodd gasgliad o'i weithiau, dan yr enw "Eos Padarn." Yr oedd ganddo ran arbennig yn sefydliad a hyrwyddiad Cymdeithas Gymreigyddol, gynt a sef- ydlwyd yn y plwyf, ac efe a ddewiswyd yn fardd y gymdeithas. Yr oedd yn wladgarwr pur, ac yn orselog am noddi yr iaith Gymraeg. Y chweched yw y Parch. Giuffith Edwards, M.A., F.R.H.S., a gyfenwid Gutyn Padarn. Y mae yntau erbyn hyn yn y pentwr. Yr oedd ef yn fab i Gwilym Padarn. Chwarelwr y dygwyd ef i fyny; ond gan fod yn amlwg ei allu- oedd, cymerodd y Parch. P. B. Wil- liams, B.A., Llanrug, ef o dan ei nawdd, a gwnaeth ei oreu i'w hyfforddi cyn ei fynediad i'r coleg. Yn 1846, cyhoeddodd gyfrol o'i gyfansoddiadau, o dan y teitl "Gwaith Prydyddawl y Parch. Griffith Edwards, M.A., Curad Llangollen," yn cynnwys pryddestau buddugol, y rhai a enillasant arian, tlysau, a gwobrwyon, ynghyda llawer o gyfansoddiadau ereill yn Gymraeg a Saesneg. Y mae ei lyfr yn cynnwys traethodau, ar "Ddechreuad, ansawdd, a dibenion barddoniaeth." Yr oedd yn sefyll ymhlith prif feirdd ei oes, ac yn llenor a hynafiaethydd rhagorol. Ceir amryw o'i bryddestau yn y Gwlad- garwr." Bu yn fuddugol ar amryw gyf- ansoddiadau yn yr Eisteddfodau can- lynol,­y Bala yn 1836, Caerdydd yn 1836, Beaumaris yn 1832, Lerpwl yn 1840, a Rhuddlan yn 1849. Ysgrifen- nodd lawer i'r cylchgronau Cymreig a Seisnig, megis y Traethodydd," y Gwyliedydd," yr "Haul," "A mddi- ffynydd yr Eglwys." Rhydd y daflen ganlynol grynhodeb o'i lafurwaith, a diau y bydd yn ddyddorol, ac yn rhoddi syniad am ei ymroad llenyddol. "Celfyddydau yr oesoedd boreuol, Gwyl iedydd (1831); Barddoniaeth, eto 1832, a'i rai dilynol ond wedi eu ryfnewid yn y gwaith prydyddol. Yr Haul 1873. Cyfres á Bregethau ar gysegriad mynwent Llangollen. 1874. Dadgysylltiad a Dadwaddoliad yr Eglwys, 1874, ynghyda 10 o gyfansoddiadau ychwanegol at hyn." Yr oedd yn fardd clasurol, ac yn llenor coeth, fel y dengys ei weithiau. Y seithfed yw y Parch. Evan Evans (Ieuan Brydydd Bir). Yr ydym yn dal gafael yn y gwr talentog hwn, ar gyfrif ei fod wedi bod yn gurad yn y plwyf Yr oedd yn un o ysgolheigion goreu ei oes, yn fardd grymus, llenor manwl a choeth, a hynafiaethydd clodfawr. Yn y "Gwlad- garwr" am Awst, 1835, ceir y dernyn canlynol o'i waith, yr hwn a gyflwynid fel hyn,-Englynion o'r hen ddull, a an- fonid gan y Parch. Evan Evans, alias, y Prydydd Hir, pan yn trigo yn Neheu- barth, i annerch y Parch. Goronwy Owain, ac fel hyn y maent,- Hanbych well, Goronwy ddu, Y dyn o Fon fam Gymru Gwr prif y rhif am fydru. Ni wybuum dy elfydd Am offrydiaw awenydd 0 Gybi, Mon, i Gaerdydd. Yn yr oesoedd cyssefin. Oeddynt feirdd prif, Taliesin, Llywarch Hen, a'r ddau Ddewin. Daroedd heddyw arwyrain, Etwa gwell nog un o'r rhain, Y prifardd Gronwy Owain." Y mae'r hanes fel hyn, medd Gor- onwy Owain, yn tudalen 26 o'r Grono- viana," Ieuan Brydydd Hir o Ddeheuparth, a brydws farwnad i Ffredrig, tywysawg Cymru