Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Llenorìon a Cherddorion Llanberis. N nechreu yr ail ganrif a'r bymtheg, ac wedi hynny am gryn amser, ychydig oedd nifer hen breswyl- wyr y plwyf hwn, ac yr oeddynt yn hollol an- wybodus am y byd a'i hel- yntion er hynny, y mae yn cael ei gydnabod eu bod yn naturiol yn ddynion o synwyr cyffredin cryf. Fel y dywed un awdwr, — They were a type of men with sound common-sense." Y mae amryw o'u dywediadau, a nofiasant i lawr mewn traddodiad ar lafar gwlad, yn profi hyn ac y mae y nodwedd yma yn amlwg yn hiliogaeth yr hen breswylwyr sydd yn cyfaneddu yn y plwyf yn awr. Os oeddynt y pryd hwnnw yn anwybodus, ac heb fedru darllen yr un gair ar lyfr, ac yn wir, heb feddu yr un llyfr i'w ddar- llen, pe buasent yn gallu, er hyn, yr oedd ynddynt ryw athrylith gynhennid, a deuai honno allan yn ei gloewder pan y cydeis- teddent gyda'u gilydd ar nosweithiau hir- nos gaeaf i adrodd chwedlau am y Ty- lwyth Teg, a phethau eraill. Fe gydna- byddir hefyd, gan wyr sydd yn alluog i farnu, fod y neillduolrwydd meddyliol a berthynai i'r hen breswylwyr yn parhau yn ei rym yn y to presennol. Y maent ar eu pennau eu hunain yn hyn, ac er fod yn eu plith, erbyn hyn, lawer o drigolion plwyfydd eraill yn Arfon a Môn, y maent wedi eu trawsnewid i'w neillduolion eu hunain, fel yr ystyrrir y plwyfolion ar y blaen yn y rhagoriaethau arbennig hyn. Yr Ysgol Sul roes y cyffyrddiad cyntaf i'r dadblygiad a gymerodd le yn eu hanes. Wedi hynny, yr ysgolion dydd- iol. Y ddwy adran hon a fu yn symbyl- iad i'w meddyliau ynglyn â llenyddiaeth a chrefydd, a mawr fu eu dylanwad i agor eu meddyliau, a rhoddi cyfeiriad pri- odol ynddynt. Yn gynnar yn y ganrif o'r blaen, yr oedd yma gewri o feddylwyr, a'r oll o'r bron yn blant yr Ysgol Sul, ac heb ond ychydig o fanteision addysg elfennol. Gyda golwg ar y llenorion a anwyd ac a fagwyd yn y plwyf, gellid enwi amryw o ddynion o feddyliau grymus a neillduol iawn, ac yn ddarllenwyr mawr yn wir, y mwyafrif o honynt heb gael dim ysgol ddyddiol, ond yn unig pan oeddynt yn blant. Yr ydym yn cyfeirio yn awr at hanes y plwyf yn nechreu y ganrif ddi- weddaf. Yn 1845, pan y cyhoeddwyd y Traethodydd cyntaf, creodd ei ym- ddanghosiad ysbrydiaeth newydd, nid yn unig yn y rhai oedd yn arfer darllen o'r blaen, ond yr oedd yn symbyliad cyff- redinol-aeth fel tonn dros y plwyf. Cy- hoeddiad chwarterol oedd y Traethod- ydd y pryd hwnnw, a phan ddeuai rhifyn allan, yr oedd un dyn yn cael ei benodi ymhob caban yn y chwarel, ar yr awr ginio, i ddarllen yn gyhoeddus yn y caban, ac wedi darllen erthygl, neu ran o honi, yna cymerai ymddiddan le, ac o'r ymddiddan codai pwnc o ddadl nes creu brwdfrydedd, a'r rhai hynny weithiau yn parhau am wythnosau, a'r dadleuon hyn yn cael eu hadrodd yn y teuluoedd yng nghlyw y gwragedd a'r plant. Fel hyn, yr oedd yn dyfod yn beth cyífredinol trwy'r holl blwyf. Cymerodd hyn le am gyfnod lled faith, ac feìly yr oedd yn creu rhyw gymaint o feddylgarwch yn holl drigolion y plwyf, a pharhaodd y dyddor- deb yn erthyglau y Traethodydd am lawer o flynyddoedd. Magwyd felly yn raddol do o ddynion cryfion mewn gallu a medr llenyddol. Ni a enwn amryw o hon- ynt. Y darllenwr yn y caban, fel rheol, fyddai y llywydd, ac yn y caban mwyaf, Hugh Lewis oedd hwnnw, a llawer o ddi- fyrrwch a gafwyd gydag ef, oblegid yr oedd rhyw anhwyldeb weithiau ar ei natur, fel y cysgai tra vn darllen. Clywid ei dafod yn tewychu, a phan y c]ywid hynny, yr oedd rhai yn barod i roddi pwt iddo yna ceid tipyn o hwyl, yr hyn a roddai y cyfarfod mewn trim da. Yr oedd ef yn ddadleuwr diail, ac yn ymresym- wr cryf, a chanddo ddoniau llifeiriol ond nid yn fynych y byddai yn cymeryd rhan. Ei brif waith oedd cadw trefn ar y dadleuwyr, ac nid gwaith bychan oedd hwnnw, yn enwedig ar rai adegau ond pan y deuai yr adeg i symio y ddadl i fyny, cai gyfle i ddangos pa mor fanwl yr oedd wedi dilyn yr ymdrafodaeth ar y pwnc, gan mor fedrus y byddai yn galw sylw at y gwahanol bwyntiau. Yr oedd hon yn un o'r adegau mwyaf dyddorol yn yr holl ymdrafodaeth. Cymerai yntau hamdden i fyned drwyddi yn fanwl, ac yr oedd yn gallu gwneyd hyn am fod ei gof mor afaelgar, ac anfynych y clywid neb yn cwyno fod ei syniadau ef wedi cael cam ond byddai y symio i fyny gan y llywydd, fel rheol, yn derfyniad boddhaol i bawb gyda golwg ar y gwir syniad gan awdwr yr erthygl.