Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

I. CYFNOD NIWLOG. ID oes gyfnod mwy pwysig yn hanes Prydain na'r pedair canrif gyntaf a nodir yn gyffredin gyda'r llythyrennau A.D. ond nid oes adeg fwy tywyll neu fwy anhawdd treidd- io i'w helyntion, sef cas- glu a gosod mewn trefn ddealladwy ddef- nyddiau cymysg yr hanes a ddisgrifia y gwasanaeth pwysig y cymerwyd rhan ynddo gan y Goidel, y Brython, a'r trefn- ydd hynod a osododd i lawr yn Ewrob sylfeini y gwareiddiad a adnabyddir fel y Rhufeinig. Wrth i ni gyfeirio at ran neilltuol o'n gwlad-Gogledd Cymru, er engraifft, mae niwl yn gorchuddio y dyffrynnoedd, sef y gaenen isaf o'r hen boblogaeth; daw y parthau uwch yn fwy amlwg, ond hynod dywyll yr hud a'r lledrith sy'n gordoi pob man yn y parthau uchaf y mae'r awyr- gylch yn lled glir. Mae'r disgrifiad, fe- allai, yn gofyn eglurhad. Wrth y parth- au isaf y golygir y genedl Goidelig def- nyddia y Brython arddull alegoraidd neu fabinogaidd wrth ddisgrifio; mae y Rhuf- einddyn yn fwy eglur gyda'i hanes, oblegid nid yw efe yn gwisgo gwybodaeth â damhegion. Nid oes gennym ni hanes Goidelig, na- myn manion aneglur a adawyd ar ol gan y Brython mewn cofnodau mabinogaidd ansicr yn eu cynhwysiad oblegid ei duedd i guddio yr hyn oedd anffafriol i'w ddysg ef, ac i ddefnyddio pob peth oedd ffafriol i'w olygiadau ef, o ba ffynhonnell byn- nag y tynnai wybodaeth. Wrth gyfeirio at Brydain Rufeinig yr ydym ar dir sicr- ach. Yr unig gyfeiriad boreol sicr a phwysig a gawn ni at Fon yn yr hanes Rhufeinig yw yr hyn ddisgrifir fel Gores- gyniad Mon yn y ganrif gyntaf gan Suetonius Paulinus, pryd y derbyniodd y Derwyddon, meddir, ergyd farwol a ag- orodd ddrysau Gogledd Cymru i drafnid- iaeth â Rhufain. Cadarnheir hyn gan draddodiadau ynghylch cloddfeydd Rhuf- einig Mynydd Parys, a rhwydwaith o ft'yrdd Rhufeinig yn y parthau mwyaf dyrus o Ogledd Cymru. Yn y cyfnodau dan sylw tybir i war- eiddiad Rhufeinig offeithio yn fawr a llesol ar Gymru, er nad i'r un graddau Ceris y Pwll. ag a wnaeth yn y rhannau eraill o Rufain Brydeinig. Y cyfoeth mwnawl a demt- iodd y Rhufeiniaid i dalu ymweliad mwy arosoí â'r parth o'r Ymherodraeth a alwn ni yn Gymru, na'r ymgyrch y cyf- eiriwyd ato uchod. Ni oresgynwyd Cymru, mae'n debyg, yn yr ystyr ag y meddianwyd hi yn fwy diweddar gan y Brythoniaid, y rhai a orfodwyd, feallai, gan yr Angliaid i adael Gogledd Lloegr ac ymfudo i Ogledd Cymru. Yn yr hanes dilynol y mae a wnelom ni yn bennaf â Mon mewn cyfnod amhen odol na ellir yn hawdd ei gyfyngu tu fewn i gylch dyddiau neu amserau adnabydd- us. Gan fod cyn lleied ymddiried yn cael ei roddi gan haneswyr i'r hanes hen- afol, a chan fod gwahanu hanes oddiwrth chwedloniaeth yn orchwyl dyrus, y mae yn anhawdd gwybod beth sydd- ffaith a beth sydd ffug ond y mae i ni ychydig bethau a'n cynorthwyant i ddarllen hanes Mon, a digwyddiadau y goresgyniad Bry- thonig dilynol i ymadawiad y Brython- iaid o Brydain, ynglŷn â'r rhai y cymer- wyd rhan bwysig gan Geris y Pwll, Moel y Don, a'r rhai y ceisir eu disgrifio yn y penodau sydd yn dilyn. II. BRAD CASWALLON. Gadawodd Ceris ei enw ar fôr-gilfach y Pwll, is law i'w hen breswylfod a elwid Llwyn y Moel, ond yn awr sydd fwy ad- nabyddus dan yr enw Plas Newydd. Moel oedd gaethwas a gydnabyddai un arall fel ei arglwydd, neu ei bennaeth a gwneid hynny yn amlwg trwy i'r gwas gael ei eillio. Ond yn achos yr arwr pre- sennol, nid oedd efe Foel mewn gwirion- edd, oblegid gwrthodai efe fel Goidel rhydd ymostwng i un Brython goresgyn- ol, a heriai bob ymosodwr ar ei hawliau i'w ddifeddianu o'i etifeddiaeth. Yr oedd ei Lech a elwid Pwll Ceris yn ymyl y man mwyaf peryglus i'w fordwyo. Ar yr adeg y dechreua y stori yr oedd Mon yn dra chynhyrfus oherwydd brad- wriaeth Caswallon ap Bran tuag at Gar- adog ei frawd, yr hwn oedd gyfrannog ag ef yn llywodraeth Mon yn absenoldeb Bran ap Bile yn y Llys Gwyddelig. Yr oedd Caradog yn llywodraethu y rhan orllewinol o Fon, tra y cymerid gofal o'r gogledd a'r oror ddwyreiniol gan Gas- wallon. Gwahaniaeth mawr rhwng y