Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

FALLAI na chododd cym- eriad amlycach a mwy ei barch yng nghanolbarth Ceredigion yn ystod y rhan gyntaf o'r ganrif basiodd na John Lewis (Ioan Mynyw). Yr oedd yn fardd a llenor uchel- ryw, ac nis gadawai linell o'i eiddo gyr- raedd llygaid y cyhoedd heb ei throi a'i throsi ym mhair coethder ,-mewn gwir- ionedd, dyna'i fai parod fel cynghanedd- wr oedd gorfanylder. Ystyrrid ef fel or- acl yng nghylchoedd Tregaron yn ei am- ser; ato ef y cyrchai y beirdd ieuainc pan yn dechreu ymserchu ac ymgolli yng nghyfareddion Ceridwen, am wersi a chyn- lluniau; tyrrai llawer ato i ysgrifennu ew- yllysiau a dyrys-bynciau ereill ac anaml y dychwelai y gwan a'r anghenog o droth- wy Rhyd yr Onnen heb dderbyn enaint i'w glwyf a gwawl i'w drybini. Yn wir, nid yw tref Caron Sant wedi rhoi hyd eto mewn gweithrediad y parch dyladwy ar goffa y dyngarwr a'r gwladgarwr Ioan Mynyw-un a weithiodd ac a aberthodd fwy na neb drosti i'w chodi i sylw, yn fasnachol a llenorol. Ganed ef yng Nghrofft y Beudy, Hen- fynydd, Ceredigion, yn 1815. Rhoes Rhagluniaeth iddo rieni cyfrifol a thra cyfoethog, a chadd Ioan o'r herwydd well manteision na'r cyffredin o'i geraint i yfed o win addysg brin y cyfnod hwnnw. Pren- tisiwyd ef yn ieuanc ym maelfa Ebenezer Morgan, Aberystwyth. Yma y daeth i gyffyrddiad a rhai o oreuon llen a chân,- David Saunders, Brutus, Adda Fras, David Jenkins, Dewi Gwenog, Daniel Ddu, &c. Yn nechreu 1836, cawn ef yn priodi âg Elizabeth, merch Timothy Davies, Cribyn Clottas (gŵr deallgar a chanddo lyfrgell eang) ac ymsefydlodd fel masnachwr yn Nhregaron. Bu iddynt saith o blant- dau fab a phum merch. Nid oedd Ioan eto wrth ei fodd cododd chwant bod yn offeiriad arno, a Thachwedd 12fed, o'r un flwyddyn (1836), pasiodd i fewn i Goleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Stephan. Nis daeth i'r coleg fel myfyriwr cyn 1841. Troes ei yrfa fel ysgolhaig yn fethiant truenus, fel, ymhen rhai misoedd, cyng- horodd y Prifathraw Llewelyn Lewellin, D.C.L. (1799—1878), ef i ymadael â'r loätl Mynyw. coleg, am nad oedd argoel y pasiai yn fuan. Gorfu arno droi at y faelfa eto: ymaflodd yn ei fasnach yn llwyr a phar- haodd ei feddwl yn sefydlog ynddi hyd ei farw. Dechreuodd Ioan Mynyw gyfathrachu â duwies cerdd yn fore bu Daniel Dd'u o gynhorthwy mawr iddo i feistroli'r mesur- au caethion; a chlywais y medrai wau englyn cywir pan yn dair ar ddeg oed. Urddwyd ef yn fardd yn ol braint a def- awd yn Eisteddfod Caerfyrddin yn 18GR. Ychydig gystadleuodd erioed; canu yn ol ei bleser i bersonau a digwyddiadau lleol wnai fynychaf: ond beirniadodd lawer mewn mân eisteddfodau ar hyd a lled Ceredigion. Cyfrifid ef yn wr hyfedr a manwl wrth y gorchwyl hwnnw-nid oedd yn finiog; tafolai fabanod barddas mewn ysbryd llednais, gan nodi eu gwendidau a'u cynghori yn fanwl, ac anaml y clywsid cecru a grwgnach parthed dilysrwydd ei farn a'i chwaeth. Y darn meithaf welais o'i waith oedd awdl ar Gerddoriaeth." Gallasem gredu mai ffrwyth ei awen ieuanc oedd; oherwydd braidd yn wasgarog a syml yw ei syniadau yma ac acw, er yn gywir mewn cynghanedd. Fel y crybwyllwyd eisioes, tipyn yn beirianol oedd ei awen, ac y mac yr ansoddeiriau dieisiau yn amharu yr awdl hon yn fawr o ran ei gwerth bardd- onol. Tebyg oedd yn hyn i Ddaniel Ddu. Hapus ddigon yw'r hupynt hwn,- Canai'r tadau i Dduw'r duwiau Am Ei radau ymwaredol- Fwyn emynnau-peraidd odlau, A chaniadau gwych hynwlol." Sonia am ysbrydiaeth cerdd ar faes y gwaed,- Ac mewn câd er maint y bloeddiaduu, A thrwst dirfawr yr athrist arfau, Y gweiniaid, er eu gwŷniau — wna'n hapus A dewr a.r ingus dir oer angau." Nyddodd englynion gwir dda ar farw- olaeth Ioan Tegid. Difynwn ddau o hon- ynt,— "LIenor Celtaidd; braidd caed broddau-,iddo, Nad oeddynt yn olau Na ieithoedd pobloedd ein pau, Na hanesion hen oesau.