Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

I. YM Mynwent Llandderfel, ar du gog- leddol yr eglwys, ac yn awr yn gorwedd ar fedd y diweddar John Jones Post Office, yn agos i gofgolofn Dewi Hafhesp, y mae carreg fedd hirgul, arw, a'r llythrennau yn prysur ddiflannu oddiar ei gwyneb. Yn wir, nid oes fodd darllen erbyn hyn ond ychydig o'r cerf- iad. Digon prin fod y garreg yn union uwchben gorweddfan y fenyw hynod y mae yn gofnod iddi. Clywsom Mr. Charles Jones yn dweyd ddarfod i'r garreg gael ei symud er hwylusdod i dorri bedd ei dad (y John Jones enwyd yn barod), ac na ddodwyd hi yn union île yr ydoedd yn ei hol. Symudodd yntau hi drachefn, a gos- ododd hi mor agos ag y gallai gael lIe gan y beddfeini newyddion i'r man yr oedd ef yn ei chofio bob amser pan yn blentyn. Y mae yr hyn fedrir ei ddarllen o'r cerf- iad yn awr yn debyg i hyn,- EGLWYS LLANDDERFEL. Derfel yw'r gŵr barfog ymysg y beddau. (0 ddarlun gan John Thomas). Gaunor Bodelith. Beddargraff Gaunor Hughes o Fodelith gladdwyd Mawrth Oedran 35 [Yn i/ canol, ambell air aneylur o ddau englyn ddifynir eto.] Hugh Evans a fu farw Chwefror 23 1841 (tebyg i 1811) yn 80 oed. Y mae y garreg wedi bod yn wrthrych cryn ddyddordeb i drigolion Llandderfel, ac y mae y ddau englyn y mae llaw amser wedi eu dileu ymron oddiar y maen yn bur hysbys i amryw o honynt, ac adroddir hwy ganddynt gydag ond ychydig o wa- haniaeth geiriol mewn lle neu ddau. Yn un o'r gyfres erthyglau yn y Traethodydd ar Hen Lyfrau y Cymry ysgrifennai y diweddar Athraw Ioan Pedr yn rhifyn Ionawr, 1874, fel hyn,- "Gwelir ei bedd ym mynwent Llandderfel gydag argraff a dau englyn o gaffadwriaeth am