Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

II. MAE hanes Gaunor Bodelith, fel ei ceir yn llyfr Mr. Edward Edwards, gydag ychydig iawn o gyfnewidiad- au geiriol, yn darllen fel hyn,- Gaenor ELLIS. Byr Gofiant. Gaenor Hughes, merch hynaf Hugh a Chatherdne Davies, Bodelith, a Gwen Hughes oedd ei chwaer arall, a'i brawd David Hughes. Bu yn gorwedd yn ei gwely o hyd mewn gweledigaeth. Byddai y gwely lle yr oedd hi yn yr haf [wedi ei drwsio gyda] phwysiau [o nodau] fyddai y plant yn eu hel a'u pimo hwynt o'i gwmpas, a byddai yn hoffi hynny yn ang- hyffredin. Byddai yn gweddio ddwywaith bob diwrnod, a thair gwaith bob dydd Sul. Byddai Thomas Williams Ty'n Llyn ac Ellas Williams yn myned yno yn aml iawn foreu dydd Sul i'w chlywed hi yn gweddio. Oher- wydd ei bod yn gweddio deirgwaith ddydd bul byddai yn gweddio y tro cyntaf yn foreu iawn. Byddai Thomas Williams ac Ellis Williams yn darllen pennod iddi bob tro y byddai yn myned i ymweled â hi, a byddai hithau yn dweyd wrthynt hwy pa le o'r Beibl i ddarllen yn aml. Hefyd byddai pobl Eglwys Loegr yn dyfod a ganu iddi hi yn aml, oherwydd ni fyddai yn eu gwahodd hwynt; ond daeth pobl Llangar i ganu iddi un tro, ac wrth fyned adre darfu iddynt yfed cwrw yn Llandderfel ac ni chawsant ddod i ganu iddi wedyn. Byddai hi yn dweyd wrth- ynt hwy pa un o'r Salmau i ganu. Byddai Llandderfel a Llandrillo yn dod i ganu iddi hi. Byddai yn wastad ar ol gweddio, neu ar ol siarad ychydig, yn disgyn yn ol i'r gwely a hi fydd- ad yn myned yn is na'r gobenydd, ac ni wyddid fod anadl ynddi hi, a byddai felly am hanner awr neu awr, weithiau dro arall byddai ragor na hynny. Wedyn deuai ati ei hunan a dech- reuai siarad a chrechwenu, gan edrych ar draed y gwely. Byddai boneddigion o Lundain yn dyfod edrych am dani, mewn cerbydau ac ar geffylau; ac mor gynted ag y clywai hi ryw un o honynt hwy yn siarad adnabyddai ei lais ef wedyn yn union. Byddai yr ymwelwyr bon- eddig yn myned ati bob yn un neu ddau, oher- wydd yr oedd y He yn fychan iawn, a byddai pawb yn cael bwyd yno [Bodelith]. Ond ni allai hi ddioddef dim angar nac unrhyw oglau. Pan y byddent yn berwi potes yn y ty byddai raid cau a thopio pob twll i safio i angar ddyfod ati hi. Un tro daeth Gwen ei chwaer a thorth wen tan ei ffedog drwy y siamber lle yr oedd hi, ac aeth hithau i lesmair oherwydd i'r arogl eff- eithio arni hi. Byddai yn gallu cofio popeth a glywai hi, ac wedi dyfod o'r gweledigaeth byddai yn cofio beth fyddai hi wedi ei weled. Byddai yn gweled pobl yn y nef a gwelai eraill yn uffern. Fe fyddai hi yn dweyd hynny. Nid oedd hi yn bwyta dim un tamed, ond llymed o ddwr glân. Byddent yn rhoi tropyn o win yn y dwfr am ychydig yn y dechreu; ond aeth Gaunor Bodelith. hwnnw yn · rhy gryf di hi. Ond nid oedd hi yn cymeryd dim [ond] dwfr ei hunan yn ystod y blynyddoedd diweddaf. Yr oedd John Elhs, Cwmorwr, plwy Llangwm, yr hwn fu mewn gweledigaeth, yn ffrynd anghyffredm iawn iddi, a byddai yn dod i edrych am dani hi ac yn siarad â hi ddarnau diwrnodau, am hynny o am- ser y byddai yn gallu siarad. Elinor ei chwaer mam Hugh Bodelith.* Gaunor oedd yr ieu- angaf.† angỲng nghladdedigaeth William Jones Ty'n y Ffridd y bu hi yn cerdded [olaf ?] gyda Betsy Meyrick. David Hughes, saer, oedd brawd Gau- nor. Gofynnodd Betsy Meyrick iddi hi [un- waith], Wel, Gaunor, yr ydych yn hyfryd iawn yn y fan yma a'r holl bwysiau o'ch cwm- pas.' Meddai [hithau],— 'Nid wyf yn hidio dim byd ynddynt hwy, oherwydd yr wyf fi yn methu dioddef gwynt gwin yrywan.' Byddai Gaunor Hughes yn rhoddi cynghor- ion difrifol iawn i'r rhai fyddai yn myned 1 edrych am dani hi, a hynny am y byd tragwydd- ol. Yr oedd Gaunor Hughes yn ddynes syml yn vstod ei hoes, a chantores dda oedd hi hefyd, oherwydd byddai yn dod i Eglwys Llandderfel i ganu Salm (oherwydd nid oedd y pryd hwnnw o deulu Eglwys Loegyr). Yr oedd Gaunor Hughes yn ddynes eiddil, ac yn edrych yn bur lwyd ei gwedd yn wastad, byddai yn wen iawn. Meddylir nad oedd hi yn ddynes dach cyn mynd i'r saldra mawr. Byddai y bobl yn gofyn iddi yn aml pa beth fyddai hi yn ei weled yn ei gweledigaeth, a byddai hithau yn dweyd nad oedd iddi ddim cenad i ddywedyd pa beth oedd hi yn ei weled, oherwydd fod y bobl mor anghrediniol. Ond byddai yn dweyd ac yn synu yn anghyffredin iawn weled pobl fyddai hi yn meddwl fyddent mewn lle da, a'r lleill fyddai hi yn eu gweled mewn lle drwg, ond dyn a farna wrth yr olwg ond Duw yw chwiliwr y galon.' Yr oedd hi yn meddwl yn wastad y byddai ei meistr tir hi mewn lle da, ond un o'r pethau a'i synnodd hi fwyaf oedd ei weled â phryfed yn cerdded cig ei ddannedd, ac yntau yn ddyn mor ddistaw ac mor dyner. Ei enw oedd Cyffyn. Un arall, Evan Davies Cae Pant, a welodd hi mewn lle da iawn, ond yr oedd hwnnw yn wr da iawn wrth y tlodion. Byddai yn rhoddi y naill yn lle'r. llall yn wastad. Byddai Gaunor Hughes yn medru codi ar ei heistedd yn y gwely heb roddi ei phenelin arno yn gymorth iddi, pan y byddai yr ysbryd gweddio yn dyfod arni hi, yr hyn o'r blaen na fedrai ddim symud heb gymorth ei theulu. Ni byddai dim yn llygru o'i chwmpas, po- peth yn cadw yn reit lân heb oglau na sawyr arno. Nis gwyddid a fyddai rhywbeth yn y gwely ai peidio (byddai mor ddi-sym), ond pan y byddent yn gweled ei phen hi, yr oedd dillad y gwely yn ymddangos fel pe na byddai dim ynddo, ac ni byddai chwythiad ynddi hi pan y byddai hi mewn gweledigaeth. Yr unig beth oedd yn ei chadw hi rhag madru oedd bod ei Yr Hugh Evans sydd a'i enw ar ei bedd- faen mae'n sicr. t Dywedir ar y dechreu mai hi oedd yr hynaf.