Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Fardd y blodau, wele fi Medd Briallen yn y cysgod Hoff gan bawb ei hwyneb hi, Blentyn llonnaf haul a chawod." NID yw'n fore hygar ?—bore yn Ebrill, mis y mill a'r briallu, a mis dychweliad yr adar crwydr. Tymor cyfareddol yw anterth gwanwyn, fel y dywedais lawer gwaith. Cathla adar bleth-odlau serch, a nythant; gwthia coed eu blagur allan; eistedd blodau ar leithig llwyni; a lliwir o'r newydd garped y llawr. Awn allan am dro i gwmni Natur. Dyma ni'n y wig. Ni fuom ynddi ers talm. Gadewch i ni gyniwair drwyddi'n Y Friallen. [PRIMROSE PRLMULA VULGARIS.] PENNOD I. EIFION Wyn. BRIALLU. hamddenol, ac wrth ein pleser, gan gadw ein llygaid a'n clustiau'n agored. Piti fu- asai mynd heibio i brydferthwch heb ei weled, o eisie edrych. Gresyn fuasai pasio