Symud i'r prif gynnwys

R brynawnddydd o Dachwedd, 1909, a hi yn bygwth y glaw, cy- chwynnodd nifer ohonom o orsaf Aberdâr ar ein iffordd i'r Groes Wen, i ddad-orchuddio carreg goffa Gurnos. Teimlai pawb ddyddordeb dwfn yn yr am- gylchiad, canys nid yn unig yr oeddem yn barchus o Gurnos, ac yn cofio'n dda am ei ddoniau amì-ochrog, ond coeliem hefyd fod i wyr Aberdâr fel y cyfryw gyfran bwysig yn y dad-orchuddio yn y Groes Wen, canys yn Aberdâr y cychwynodd y mudiad. Soniai amryw o gyfeillion ac edmygwyr Gurnos y dylesid ymgymeryd â gosod rhywbeth i nodi man fechan ei fedd yn y Groes Wen a'i gadw mewn trefn, yr haeddai Gurnos hynyna o barch oddi ar law ei genedl a wasanaethodd mor dry- lwyr ar hyd ei oes; a thua mis Medi di- weddaf ymgymerodd y Parch. Silyn Evans â chasglu i osod carreg goffa ar y bedd, a llwyddodd tuhwnt i'w ddisgwyl- iadau goreu. Er na fu y gronfa gerbron y cyhoedd ond am amser byrr, ac fod y maes casglu yn gyfyngedig i rannau yn unig o'r Deheudir, cafwyd swm sylweddol, mwy na digon i dalu am yr iholl dreuliau a phrynwyd carreg o fynor llwyd, a honno, fel y sylwodd Silyn, yn un arben- nig, fel Gurnos, ac yn hollol ar ei phen ei hun ymysg cerrig beddau enwog y Groes Wen. Penodwyd y 26ain o Daohwedd yn ddydd y dad-orchuddio. Teithiwyd yn lled hwylus, rhwng glaw a hindda megis, hyd Bontypridd. Daeth nifer fach gryno i fewn atom yma, yn cyn- nwys y prif-feirdd J. J. Williams, Pen- tre, a Dyfnallt Owen, o Bontypridd, a ffwrdd yr aethpwyd yn dyrfa daclus, a'n hwynebau ar y Groes Wen. Yr oedd ar- benigrwydd neillduol yn y daith i lawer o'r cwmni, canys hiraethent am weld Capel y Groes Wen, a'r fynwent enwog sy'n gysylltiedig âg ef, ar wahan i'r mwynhad o gael cipdrem ar ddad-or- chuddio'r garreg goffa gan yr Arch-Dder- wydd, Dyfed. Aeth rhai o'r cwmni allan yng ngorsaf y Groes Wen, eithr aeth am- ryw ymlaen i orsaf fechan Nantgarw,— ardal enwog yn yr amser gynt am ei llestri pridd ardderchog. Pryd bynnag yr eir i'r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, mae'r casgliad da geir yno o hen lestri Nantgarw yn werth sylw. Dringodd pawb am y cyntaf, oreu medrai, i fyny i'r Groes Wen, canys Tro i'r Groes Wen. ofnem y goddiweddid ni gan y nos. Tafl- wyd cipdrem 'nawr >ac yn y man ar 'hyd y wlad oddi amgylch­-ardal swynol od- iaeth, eithr merwinir hi i raddau gan agosrwydd twrw masnach. Gorweddai pentref Ffynnon Tâf, a'i ffynnon enwog, lawr yn y ceunant ychydig tua'r dde, wrth odre Mynydd y Garth; awd i fyny ar hyd llechwedd ucheldir tlws, a buan daeth hen gastell Caerffili a'i furiau llwydion i'r golwg yn y nifwl,-golygfa brudd, drymaidd, ar brynhawn aneglur o Dach- wedd, yn arwain y meddwl yn ol i amser- oedd cyffrous Cymru fu, ac yn ein ihat- gofio y safem ar lecyn oedd unwaith, efallai, yn gynefin i Ifor Bach ac ar- glwyddi y Senghenydd. Danghoswyd i ni hefyd gyfeiriad Capel Anibynnol y Wat- ford, enwog er dyddiau Whitefield; canys yma, onide, y cynhaliodd y gwr mawr hwnnw ei Gymdeithasfa Gyffredinol gyntaf yng Nghymru ? Saif tua milltir o Gaerffili, rhwng dau fryncyn crwn a thlws. Cedwir y marworyn yn fyw yno tan heddyw, ac mae'n dal ei agwedd Gym- reig ynghanol y llanw Seisnig sy'n gor- lifo tros ddwyreinbarth Morgannwg. Yn ara deg cyrhaeddwyd pentre'r Groes Wen, a daeth dywediad briodolir gan rai o fyfyrwyr Aberhonddu i'r Parch. W. J. Nicholson, Porthmadog, tad yr hwn, y diweddar Barch. William Nichol- son, fu yn weinidog yn y Groes Wen, yn fyw i'n cof, sef, Un stryt oedd yn y Groes Wen, a'n ty ni oedd y ty mwya yn y stryt." Saif y Groes Wen ar lechwedd tlws heb fod yn nepell o Gaerffili, mewn ardal uchel amaethyddol. Ceidw'r lle ei Gym- raeg yn wyneb yr holl anhawsterau. Eithr ofnwn, er hynny, y syrth hyd yn oed y Groes Wen yn aberth i'r llifeiriant Seisnig sydd o'i amgylch, canys mae'r Gymraeg eisoes, ysywaeth, yn graddol farw yng Nghaerffili, Ffynnon Taf, Pont- ypridd, a lleoedd ereill o'i gwmpas. Ryw- sut, hefyd, credwn na fyn yr hen iaith anwyl drengu yn y Groes Wen. Saif y capel a'r fynwent enwog mewn ychydig o lawrbant ym mhen isaf y pen- tref. 'Cangen o gapel y Watford yw'r achos yma. Ceir yma Eglwys Anibynnol er yn fore iawn. Bu yma gewri lu yn gweinidogaethu o bryd i'w gilydd yn eu plith y llenor a'r beirniad dihafal Caled-