Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

BUDDUG. UN о ferched "Моn Mam Cymru" ydoedd y ddiweddar Mrs. Cathrine Prichard (Buddug), Caergybi. Ganwyd hi yn Llanrhyddlad, Gorffennaf 4, 1842. O du ei thad, yr hen- afiaethydd clodfawr Mr. Robert ap Ioan Prys (Gweirydd ap Rhys), hannai yn syth o gyff cenedl un o bymtheg llwyth Gwyn- edd. Enw ei mam oedd Grace, gwraig nodedig am ei thawelwch a'i duwiolfryd- edd. Yr oedd y bardd ieuanc athrylith- gar Golyddan, brawd Buddug, yn meddwl yn uchel o'i fam. Yng ngholeg ei fam y derbyniodd argraffiadau dyfnaf ei oes. Dywedodd wrtli ei dad unwaith,—"Yr wyf, er yn fachgen, fel y gwyddoch, fy nhad, yn gwybod yr Ysgrythyr Lan, yr hon sydd yn abl i'm gwneuthur yn ddoeth i iachawdwriaeth trwy y ffydd sydd yng Nghrist Iesu dyma y ddoethineb a ddysg- odd fy mam i mi, nhad, cyn dyfod dan eioh addysg chwi, na'r ysgol, na'r eg- lwys." Yr oedd Buddug yr wythfed yn y teulu, ac yn ddwy flynedd ieuengach na Golyddan. Ar enedigaeth y ddau hyn o'i blant fe gyfansoddodd eu tad englyn- ion, ac mewn hwyl yr arferai ddweyd mai dyna y rheswm y medrai y ddau fardd- oni. Wele yr englyn i'w fab Goly- ddan,- Buddug. Diolch i Dduw a dalaf-am eni Im' hoenfab dianaf; Ei gyflwyno'n góf lawnaf I fy Nuw yn hyfwyn wnaf." Ar enedigaeth Buddug, eto,- "Ganwyd im' eneth geinawl,—ddianaf, 0 ddoniau'n Tad Nefawl Rhoed i hon gynnar rad hawl Yn lesu mawr grymusawl." Gwel y cyfarwydd nad yw yr englynion yn gwbl reolaidd, ond cawn ynddynt ddatganiad o deimladau diolchgar tad serchog ar enedigaeth ei blant. Unwyd Buddug mewn glân briodas â Mr. Owen Prichard, Caergybi, Ionawr 2, 1863, ac ni bu bywyd priodasol llawnach o gydgord a dedwyddwch. Yr oedd y ddau yn gwbl o'r un chwaeth, yr hyn a fu yn fantais iddi i ymhyfrydu mewn llen- yddiaeth a gwneyd daioni. Dywedir ddarfod i Mr. Prichard ofyn am ei wraig fw thad mewn englyn, a boddhawyd Gweirydd mor fawr fel y bu iddo yn y fan ei fedyddio yn Cybi Velyn," ac yn Eisteddfod Gadeiriol Mon, 1879, der- byniwyd ef i gylch Gorsedd y Beirdd, i'w adnabod rhagllaw wrt-h y ffugenw hwn. Ar un pwnc yn unig y methai Buddug a'i phriod gytuno, sef y cyng- haneddion. Edmygai Cybi Velyn y gynghanedd Gymreig, a meistrolodd hi yn ieuanc. Cywirai Gweirydd mewn englyn aml dro a mawr yr hwyl a fwyn- heid. Ychydig o afael ar galon Buddug oedd gan y cynghaneddion. Hoffai dar- awiadau naturiol a seinber, ac addefai brydferthwch pennill cynglianeddol ond gwell gaiiddi ydoedd rhyddid y dra- gwyddol heol," fel y dywed Islwyn. Dechreuodd Buddug rigymu pan tua deg oed, ac mor naturiol ydoedd y gwaith iddi fel na bu o dan angenrheidrwydd i ddysgu unrhyw reolau. Carai astudio llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg o'i phlentyndod. Pan yn bur ieuanc cymer- ai ddyddordeb dwfn yn yr hen arwydd- eiriau Eisteddfodol a dvsgodd lawer ar yr hen benhillion Cymraeg yn y Cambro- Briton. Pan oddeutu deunaw cod an- turiodd ysgrifennu traethawd ar Y Wenynen" ar gyfer cyfarfod cystadleuol,