Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

1. MYFYRDOD Y CYSTUDDIEDIG,* Sef penhillion a gyfansoddwyd gan Jane Hughes, merch y diweddar Barch. John Hughes, Pont Robert, yn ei hafiechyd. Q RHODDWN ogoniant i'r Drindod, Gogoniant am ethol Gwaredwr Gorchfygai'r byd, satan, a'r bedd Gogoniant a genir i'w enw Gan saint a seraffiaid am hyn Gogoniant am agor y ffynnon I olchi'r aflauaf yn wyn. Gogoniant, gogoniant i'r Iesu Am farw ar Galfari fryn; Gogoniant i'r Tad am ei roddi I weithio cyfiawnder hardd gwyn Gogoniant tragwyddol i'r Ysbryd Am godi pechadur o'i fedd, A'i ddysgu i adwaen yr Iesu, A'i arwain i fywyd o hedd. Gogoniant, gogoniant tragwyddol Oedd iddo cyn amser yn bod Gogoniant yn undeb y Drindod Wrth ddwyn y greadigaeth i fod Gogoniant, gogoniant, fe gafodd Ogoniant ym Methle'm dylawd Fe ganodd angylion ogoniant Wrth weled y Meichiau mewn cnawd. Gogoniant, gogoniant, fe ganodd Angylion ogoniant i Dduw, Tangnefedd yn hyfryd i ddynion, Pan anwyd ein Ceidwad hoff gwiw Gogoniant, gogoniant mwy wedyn Na chlywodd y nefoedd cyn hyn, Pan lefodd y Meichiau Gorffenwyd Brydnawngwaith ar Galfari fryn. Mae'r gwreiddiol yn Llyfrgell Gymraeg Coleg Llanbedr, cyflwynedig gan y Parch. D. H. Davies, gynt o Genarth. Cofus ganddo glywed Jane Hughes yn canu'r penliillion hyn yn niwyg iad 1859, gyda hwyl ac arddeliad mawr cerddai ei llais fel trydan drwy'r gynulleidfa, nes gwef- reiddio pawb. Anfonodd y ddiweddar hen Ficer hwynt i mi, gyda'i ddymuniadau goreu, yn 1906. — Carneddog. Hen Garolau. Am lunio cyfamod o hedd Gogoniant, gogoniant, mi redaf Bob bore i Fethleriem dre', I weled yr Ior yn y preseb, Mor isel a thloted ei le Gwna hynny fi'n ffyddlon mewn angen, Afiechyd, gorthrymder, a phoen Ond im gael adnabod yr Iesu, Mi ganaf ogoniant i'r Oen. Gogoniant, mi wela f' Anwylyd 'R ol disgyn yn esgyn i'r nen, A gallu tragwyddol sydd ganddo, Teyrnasa'n oes oesoedd, Amen Agorwch, 0 ddrysau tragwyddol, Dyrchefwch eich pennau, 0 byrth, Mae Iesu'n dod adre'n Goncwerwr, Pob gelyn ni phlyga a syrth." Gogoniant, gogoniant ddatseinir Trwy eang ororau gwlad hedd; Am godi Tywysog y bywyd, Gan ddwyn agoriadau y bedd Gogoniant daeth adref o Edom A'i wisgoedd yn gochion gan waed, Gelynion ei Eglwys fel crinwellt Yn lludw dan wadnau ei draed. Plant Seion, 0 seiniwch Hosanna, Hosanna am Briod a Brawd, A deithiodd y ddaear mewn tlodi,- Erlidiwyd gan ddynion mewn gwawd Yr hwn sydd a'i enw'n Rhyfeddol, Fu'n gorwedd mewn preseb yn dlawd 0 ddaear, pam gwnaethost di hynny Pan gefaist dy Grewr mewn cnawd ? 0 Iesu, 0 Iesu, hoff Iesu, Ai'th gariad a'th ddygodd fel hyn Mor isel a'r preseb a'r anial, A'th hoelio rhwng lladron ar fryn ? 0 edrych, fy enaid, ar hwnnw, Sydd acw'n ogyfuwch â Duw, 'N wynebu'r fflangell a'r milwyr, Er mwyn i'w elynion gael byw. Gogoniant, gogoniant i'r Iesu, Am brynu trueiniaid â'i waed Gogoniant tragwyddol am foddion I gannu gelynion yn rhad