Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

O'r cefn. Rhiwfelen i'w gweld yr ochr arall i'r cwm. ~\T R ydym yn dyfod yn awr at Soar, ac X un o'r lleoedd agosaf ato yw Nant Llwyd, dau le ag y mae cysylltiad agos wedi bod rhyngddynt am lawer o am- ser. Cape! perthynol i'r Methodistiaid Calfinaidd yw Soar, wedi ei adeiladu ar lechwedd y mynydd, uwchlaw yr afon Camddwr, heb dý yn y golwg, llac yn agos iawn ato. Nant Llwyd a'r Brithdir yw y lleoedd agosaf, ac y mae tua milldir o ffordd rhwng Soar a Nant Llwyd. This sequestered spot yw y desgrifiad geir o'r lle ar feddfaen yn y fynwent sydd wrth y capel. Rhyfedd yw cael o hyd i gapel mewn lìe mor wyllt ac unig ag yw hwn; ac eto, y mae yr achos crefyddol ynddo wedi bod yn llwyddiannus i ennill agcs holl drigolion y mynyddoedd hyn am fill- diroedd lawer i wahanol gyfeiriadau i fod yn aelodau o'r gynulleidfa sydd yn per- thyn iddo. Dechreuodd Methodistiaeth yn y parthau hyn yn fore iawn. Y mae yn bur debyg mai y Parch. Daniel Rowland oedd y cyntaf bregethodd yma yr oedd ef yn gwasanaethu fel curad yn Ystrad Ffin yn agos i gychwyniad y Di- wygiad, a chan y byddai raid iddo groesi y CAPEL soAR A THY'R CAPEL. SOAR Y MYNYDD. mynyddoedd hyn wrth fyned a dychwelyd, y mae yn dra sicr iddo fod yn pregethu yn y cymoedd hyn wrth deithio trwyddynt. Ymhlith y rhai fydaai yn dyfod i wrando Mr. Rowland i Ystrad Ffin yr oedd Howell Harris, a cheir hanes am dano ef yn pre- gethu yma fwy nag unwaith yn ystod y tymor yr oedd Mr. Rowland yn gwasan- aethu yn Ystrad Ffin. Byddai \\rilliams Pant y Celyn yn arfer croesi y mynydd- oedd hyn wrth fyned i Dregaron ar gyfer Sul y Cwrdd Mawr yn Liangeitho, bu yntau yn pregethu mewn gwahanol leoedd yma ac efe, meddir, sefydlodd Society yn y lle. Ceir hanes am Howeìl Harris yn pregethu yn Rhiw Halog yn y flwyddyn 1740. Dechreuodd amryw ddiwygiadau grymus yma o bryd i'w gilydd sonid yn neillduol am ddiwygiad mawr 1779, dor- rodd allan i ddechreu ar brynhawn Sab- both o dan bregeth hen gynghorwr o'r enw J. Edward Watkin. Pan glywodd Rowland Llangeitho am dano, anfonodd genadwri ar unwaith i Gwm Towi i'w hys- bysu y byddai ef yn pregethu yno y Sab- both dilynol, a Sabboth rhyfedd gafwyd. Tystiolaeth Mr. Rowland am y diwygiad