Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

1. When you us ring, we'll sweetly sing. A.x.R. 1749. 2. Peace and good Neighbourhood. A.x.R. 1749. 3. Prosperity to the Church of England. A.x.R. 1749. 4. We were all cast at Gloucester by Abel [? Abraham] Ruddhall, 1749. 5. Thomas Powell, Esq. Lewis Williams, gent., Churchwardens, 1749. 6. I to the Church the Living call, and to the grave do summon all. A.x.R., 1749." Dechreua'r Llyfr Cofnodion yn 1678; a Llyfr y Festri yn 1764.* Yr oedd Aber- ystwyth ym mhlwyf Llan Badarn Fawr unwaith. Y pryd hynny deuai pobl ieu- ainc y dref i fyny yma i briodi; ac yr oedd yn frawddeg adnabyddus ymysg preswyl- wyr y pentref-" Plant yn dod i fyny ac yn dychwel yn wyr a gwragedd." Efallai mai y pethau mwyaf hanesiol fedd yr eglwys, wedi'r cyfan, yw'r Meini Croes Celtaidd welir tu allan i'r drws yn y fynwent. Nid oes neb hyd yma wedi profi hyd sicrwydd eu hoed na'u diben. Tebyg mai carreg gloddiwyd yn y plwyf yw'r hynaf. Mae tua phedair troedfead o uchder o'r ddaear, ac yn ddwy a hanner o led. Nid oes ôl meistr gyda'r cŷn a'r morthwyl arni. Perthyna'r llall i gyf- nod diweddarach a'i gwneuthuriad o fynor gwyrdd yr Iwerddon,-wyth troed- fedd o uchder o'r ddaear un modfedd ar ddeg o led, ac wyth modfedd o drwch. Mae'r addurniadau cerfiedig sydd bob tu yn gyffelyb iawn i arddull Chineaidd. Nid oes dadl nad cerflun o esgob sydd mewn un man arni. Mae y pen yn fawr, y llaw dde yn codi at yr ên, a'r llaw chwith ar ryw fath o darian guddia ran o'r corff. Mae deffiniad Westwood o'r lluniau yn agos iawn at wirionedd, gellid tybio. Credai rhai mai maen coffa Pad- arn yw, godwyd gan ei ddisgyblion a'i ddilynwyr wedi clywed am ei farwolaeth yn Vannes. A un hynafieithydd goleu- edig mor bell a'i galw'n Groes Sant Padarn;" eithr ni rydd ei resymau dros hynny. Ca'r darllennydd farnu trosto'i hun oddiwrth y darlun. Yn uwch i fyny ychydig, tu arall i'r llwybr, mae cof-faen diaddurn ar y llawr am hen oruchwyliwr Lewis Morris, a rhydd yr hyn sydd arni syniad am gyf- oeth mwnfeydd y cylch yn y ddeunawfed ganrif,— "Cardiganshire and its Antiquities (Geo. Eyre Evans), tud. 87. John Thomas, refiner of the Lead & Silver Ore at Wallog and Aberystwyth died Dec. 21, 1788, aged 45. Ar ochr ddwyreiniol y gangell yn y fynwent mae hunell George Ernest John Powell, Nant Eos, cyfaill mynwesol Long- fellow, Swinburne, George Groves (golyg- ydd Macmillan's Magazine), a chewri llên ereill. Gohebent âg ef yn fynych mae'r llythyrau eto ar gael gwelsom adysgrif- iad o honynt oll gyda chyfaill dro yn ol a phrofant edmygedd difloesgni eu hys- grifenwyr hyglod am athrylith y bonedd- wr ieuanc diymhongar. Yr oedd Mr. Powell yn meddu ar amgyffredion cryf- ion ac ar ddarfelydd cyfrin a phell; cyf- ansoddodd lawer iawn o ddarnau bardd- onol o deilyngdod,eu harddull yn gain a chlasurol, ac yn dwyn ol heuliau barddas Groeg a Rhufain. Synnwn yn aml at mor ychydig glywir am dano'n awr. Cyhoedd- odd amryw Iyfrau, Quod Libet" (1860): "Poems by Miolnir, Nanteos" (>1861); "Poems, Second Series" (1861) :f a bu'n cynhorthwyo Magnusson gyda'i Legends of Iceland (1864), heb son am ei ysgrifau yn y cyfnodolion Seisnig. Mab oedd i'r Milwriad Thomas Rowland Powell (a fu farw Mai 13, 1878), a gan- wyd ef Chwefrol 10, 1842. Mai 10, 1881, ymbriododd â Miss Harris, Goodwick, Penfro,-Milo Griffith yn rhoi'r briodas- ferch. Bu Mr. Powell farw yn ddyn cymharol ieuanc Hydref 7, 1882. Carreg wen o fynor sydd ar ei fedd. Cuddiai'r glaswellt ymron yn llwyr faen diaddurn Nancy Felix, y delynores ddall. Trigiannai gyda'i chwaer mewn bwthyn bychan elwid Gorffwysfa, ar Riw Shon Sa'r, nid pell o Ogerddan. Dywed yr hen bobl ei bod yn hyfedr iawn efo'r tannau, a byddai galwadau mynych am ei gwasanaeth ym mhrif blasdai'r. cylch. Yr oedd yn ddewines, hefyd, a chyrchai llawer ati o bell ac agos. Mae enw Nansi'r Delyn, fel ei gelwid, yn parhau yn loew ar Iafar y fro. Bu farw Mehefin 29, 1856', yn 74 mlwydd oed, a cheir y pill syml hwn ar ei charreg fedd,— Nansi Felix a roes heibio 'I thelyn dyner oedd yn tiwnio; Ac ehedodd ffwrdd oddiyma O Orphwysfa — i — orphwysfa. t Argraffwyd y tri llyfr hyn yn swyddfa John Cox, Aber Ystwyth.