Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Anfoner pob gohebiaeth i'r Golygydd, pob arehebion a thal- iadau a hysbysiadau i'r Goruchwyl iwr, Swyddfa CYMRU, Caernarfon. BLAEN GWAWR.—Y mae'r ystadegau yn rhoddi i chwi ystad iaith Pontypridd a'r Porth. Clywch laweroedd o'r glowyr yn siarad Cym- raeg wrth ddcd o'u gwaith. Clywch lawer iawn o ferched trwsiadus yn siarad Cymraeg hefyd. Y mae Beibl a Thestament Newydd at wasanaeth teithwyr yn ystafell aros gorsaf fwyaf Pontypridd; a rhai Saesneg; y mae llawer mwy o ol darllen ar y rhai Cymraeg. S.—Mae ystyr geiriau yn newid. Dyn bydol yn awr yw dyn wedi ymroddi i garu'r byd, ac nid dyn o'r byd. Yr un ystyr sydd i'r gair Saesneg laorldly. Und gwelais mewn hys- bysiad am hotel yn Neheudir Ffrainc, This hotel enjoys a worldly reputation." Ap ECHO.—Bydd y rhai goreu am gofio yn methu cofio enw weithiau. Clywais y Master of Pembroke unwaith yn gwneud araith yn ei goleg am y rhai oedd wedi marw yn ystod y flwydd- yn. Ac yn awr," meddai, dan deimlad dwys, "yr wyf yn dod at enw fy nghyfaill goreu." Ac yna cyfaddefodd nas galfai yn ei fyw ddwyn yr enw i'w gof. Y mae'n debyg mai actwyr fedd y cof mwyaf disgybledig a pharod ac eto yn Lerpwl, y dydd o'r blaen, dywedai actor enwog, pan alwyd ef i dderbyn ei groeso, mai taerineb ei nai a'i dygodd yno o Lundain,­ac yna anghofiodd enw ei nai yn lân. Ie, gwn am un anghofiodd enw ei wraig; a bu tipyn o dywydd pan y ceisiodd adennill ei gof trwy ei galw ar enwau rhyw wragedd ereill. M. W.­-Nis gallaf gasglu digon o hyder i ddweyd wrthych pwy oedd ac yw y pregethwyr Wesleyaidd enwocaf, a buasai'n dda gennyf gael erthygl gan rywun cyfarwydd ar bulpud y Wesleaid yng Nghymru. Dyma'r darluniau eydd ar glawr yr Eurgrawn Weshyaidd,— Edward Jones Bathafarn, David Rogers, Dr. Thomas Jones, Gwilym Lleyn, John Hughes, Dr. William Davies, Robert Jones, Glanystwyth, Dr. Hugh Jones, Samuel Davies. Ap H.­-Ni chyfyngwyd gwaith Coleg Prif- ysgol Cymru erioed i waith ysgol ganolraddol, hyd yn oed yn ei ddyddiau cyntaf. A yw ysgol ganolraddol yn dysgu Hebraeg, Persiaeg, a Syr- iaeg? Pa nifer all ddysgu hyd yn oed Anglo- Saxon neu Eidaleg ganol-oesol, ac yn wir pa fudd fuasai eu dysgu ynddynt? Mae'n wir y gwnai'r coleg waith matriculation, ond nid dyna ei waith pennaf, ac nid at hynny yr apwyntiwyd ei athrawon,-ymysg y rhai y ceir ysgolorion y gellir yn hollol gywir eu galw'n fyd-enwog. G. ap G.-Dwfr yn disgyn neu ddwfr yn syrthio o graig i graig yw "eirw." Y ffurf liosog yw "eirwyau" neu "eirwau." Gwydd- och am y dôn,―" Rhuad Eirw'r Dyffryn." AT OHEBWYR. W. J. J.—Wele lythyr dyddorol oddi wrth Mr. T. Ifor Rees, o'r gon- sulaeth Brydeinig ym Marseilles, — Yn yr olaf o'i erthyglau tra dy- ddorol ar Syr Hugh Myddelton, dyry'r ysgrifennydd restr Fuller o'r mwn- gloddiau a weithiwyd gan Myddelton yng Ngheredigion, a gyda golwg ar yr ehw BromeHaid dywed. — Nid ydym yn gwybod am fwnglawdd o'r enw Bromefield yn sir Aberteifi. Ai at waith glo Bromefield yn Nimbech y ma-3 Fuller yn cyfeirio?' Yr ateb vw, Nage! Cyfeirio y mae Fuller yn ddi- ameu at fwnglawdd Bronffioèd yng MghwmsyHog. Y mae mwngloddiau Cwmsytlog. Darren, Bronffloed, Go- ginan, a Chwmerfin, i gyd o fewn cylch o rhyw filltir ysgwar, fel vr ehed y fran. Saif gwaith Bronffloed yn is i ìawr i'r dyffryn na gwaith Cwmeyfiog. Bu'm tadcu yn gweithio am tlynyddau yn y mwnglawdd hwn, ac mae'r enw yn adnabyddus iawn i drigolion Penrhyn Coch a Bow Street." MAWDDWY.—Un o Lanferres, sir Ddinbych, oedd y Dr. John Davies, ond bu'n rheithor Mallwyd am ddeng mlynedd ar hugain. Oddi- yno, yn 1621, y cyhoeddodd ei Eiriadur, yno y bu tarw yn 1644, ac yno, yng nghangell yr eglwys, y claddwyd ef. Y mae eisiau ad- newyddu hen eglwys Mallwyd er cof am dano; ac o'r mil punnau ey'n eisiau y mae tri chant eto heb eu cael. Derbynnir rhoddion at yr amcan hwn gan reithor Mallwyd. L. y PLAS.—Y mae eich dylanwad yn fawr, ac nis gellwch wadu hynny. Yr ydych wedi eich breintio â phrydferthwch, cyfoeth, a gallu. Y mae eich cyfrifoldeb, felly, yn fawr. Gwnaech ddaioni anrhaethol pe penderfynech wisgo dillad nad yw'n gofyn creulondeb i'w cael i chwi. Gwelaf mai crwyn y carlwm yw defnydd mwyaf ffasiynol cotiau y gaeaf hwn. Os pery'r ffasiwn am bum mlynedd, dywedir y bydd y creaduriaid bychain prydferth hyn wedi eu difa o'r wlad am byth. Oni fedrwch wrthod gwisgo cotiau ofyn ddifodi'r carlwm sy'n ddi- arhebol am ei wynder ers blynyddoedd Ac oni fedrech wisgo blodau ar eich het yn lle plu ? Dywedir fod yr osprey hefyd mewn perygl di- fodiad, ac mai drwy greulondeb anynol y tynnir ei phlu. Medrech chwi roi esiampl o beth sy'n syml a gweddus mewn gwisg, a honno'n wisg na ddwyn ar gof mai trwy greulondeb a thrais y ca.fwyd hi. C. R.—Er nad oes lle yn y rhifyn hwn, yr wyf yn gobeithio y daw adolygiadau ar holl lyfrau Cymreig y fiwyddyn hon. PEREGRINUS.—" Wrth i mi adael y gwesty rhuthrodd gwas ar fy ol ac yng ngwydd llu o bobl gofynnodd a oeddwn wedi talu fy mil a lle'r oedd fy nerbyneb. A gynghorech fi i roi cyfraith arno?" Nid heb resymau cryfion y cynghoraf neb i fynd i gyfraith, ond peth arall yw gofyn barn cyfreithiwr. Pe rhoddech gyf- raith ar y gwas, ni enillech ddim, a chollech lawer. Yr oedd yn rhaid iddo ef wneud fel y gwnaeth; pe gadawsai chwi fynd a hwythau heb groesi eich dyled, buasai raid iddo o'i dlodi dalu o'i gyflog bychan. Ond, y tro nesaf, ewch i westy mwy cartrefol, lle na ddirwyir y gweis- ion fel hyn. LL. B. M.—Daw cyfrol o ganeuon ang- hyhoeddedig Mynyddog, rhai glân a phur a siriol fel ei holl ganeuon ef, yng Nghyfres y Fil cyn hir. Wedi eu clywed, mynnant aros yn y glust. Ond nid g«nnyf fi y bydd hawlfraint arnyut.