Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

a'r holl anifeiliaid. Buont yma, fel y mae yn hysbys, yn tynnu ar flwyddyn tra yn adeiladu v Babell a'i dodrefn. I derfynu, goddefer i mi ddatgan fy nghred wrth ddibennu, fod yna ddigon o seiliau ini gymeiyd yn ganiataol fod darn o'r trum mynydd wedi ei symud yn llythyrennol. Teg yw i mi amlygu nad ydyw yr ymwelydd v cvfeirir ato ei hunan yn awgrymu y lleiaf am liyn. Wele mawr yw Duw, ac nid adwaen- om Ef. Am yr Hollalluog, ni allwn ni mo'i gael Ef. Ti yw v Duw sydd yn Gorwydd, Llangamarch. BHWNG DAY ERTHYGL Y MAE esboniadaeth Feiblaidd wedi bod, er dechreu y ddeunawfed gan- rif, yn hoff astudiaeth y Cymro. Y mae'n cryfhau yn ein llenyddiaeth bob blwyddyn, ond ei bod yn newid ei ffurf o oes i oes, yn ol amrywiaeth dyddordeb ac amlhad addysg. Yn y rhifyn hwn ceir erthygl ferr esboniadol gan un o ddisgybl- ion ffyddiog yr Ysgol Sul, sydd erbyn hyn ymhell dros ei bedwar ugain oed, ond sydd a'i gariad at y mynyddoedd a Duw'r mynyddoedd heb ballu dim. Cafodd ef ei fagu ym Meirionnydd pan oedd gogoniant Dr. W. O. Pughe yn llenwi'r cymoedd pellaf, a chafodd ysbrydiaeth oddiwrth v gwylaidd a'r llafurus Robert Oliver Rees. Prin y mae Sian Hughes, Pont Robert, wedi cael y parch dyledus i'w gallu a'i gwaith. Y mae'n werth cofio am dani pe ond am y ffaith mai yn ei chartref hi ym Mhont Robert v cadwyd emynnau Ann Griffiths. Crwydrai o sasiwn i sasiwn, canai a gorfoleddai. Yr oedd mwy o'r Mair nag o'r Martha ynddi, y mae'n ddiameu, ac oherwydd hynny cym- erodd llawer ei gwaith efengylu selog yn ysgafn, a chofiasant fod ei chaneuon heb gynllun heb gofio hefyd mor llawn o felod- edd gorfoleddus ydynt. Yr oedd yn ddi- feddwl, gorfod i Dr. Edwards ofyn iddi yn seiat y Bala unwaith eistedd yn yr un ystum a chrefyddwyr ereill, ond medrai siarad â phobl ieuainc am fater eu heneid- iau gyda grym a difrifwch v cofient am danynt flynyddoedd wedi ei rhoddi hi mewn bedd. Nid oes gennyf fi ond cof plentyn am Sian Hughes. Yr oedd yn y Bala adeg gwneuthur rhyfeddodau. Llef yr Arglwydd sydd yn dryllio y cedrwydd ie, dryllia yr Arglwydd gedrwydd Libanus. Efe a wnaeth iddynt lamu fel llo Libanus a Sirion fel llwdn unieorn." Pwy wyr faint o gyfnewidiadau daear- egol sydd wedi bod ar Libanus a Sirion, a mynyddoedd ereill ein hen ddaearen, er dyddiau Moses? ('ofiaf weithredoedd Arghwdd ie, cofiaf dy wyrthiau gynt. Gwyn eu byd pob un a ofno enw yr Arghwdd. II. PUGH. dadorchuddio cofgolofn Charles. Yr adeg honno yr oedd ganddi ei neges ei hun, sef pregethu yn erbyn cyfundrefn y sol ffa, cyfundrefn ddysgid yn brysur yng Nghymru y dyddiau hynny gan gerddor- ion aiddgar. Safai ar y gornel ger Capel Mawr y Bala, a thybiaf fod ganddi gerdd yn son, mewn geiriau diamwys, am ryw gythraul o'i go yn canu so doh." Ac wfftiai pawb at ei hanwybodaeth tra'n cydymdeimlo â'i cheidwadaeth. Peth rhyfedd iawn, y mae'r beirniaid galluocaf, rai o lionynt o leiaf, erbyn hyn o'r un farn a Sian Hughes. Mae'n debyg nad oes gerddor wedi gwneud mwy dros alawon gwerin, yn enwedig alawon gwerin Cymru. na Dr. Arthur Somervell. Ac os nad wyf yn cam- gymeryd, dywedodd ef wrth athrawon synedig Scotland, ychydig amser yn ol, y buasai'n well i'w gwlad pe llwyr anghof- ient eu sol ffa, a phe troent oll yn ol at yr Hen Nodiant yn unig. Bydd yn dda gan lawer gael erthyglau Cadrawd ar Dir Iarll. Nid oes neb yn fyw sy'n gwybod cymaint am y fro hanes- iol hon, bro y mae traddodiad a rhamant wedi ymgartrefu ynddi i raddau pellach, ond odid, nag un ardal yng Nghymru. Hwyrach y tybia ambell un fod Cadrawd, dan swyn y rhamant, ac mewn ffyddlon- deb i draddodiadau Tir Iarll, yn credu gormod. Hyn ddywedaf finnau, os yw Cadrawd yn credu gormod, y mae y rhan fwyaf ohonom yn credu rhy fach. Nid oes draddodiad yn y byd heb ei werth i'r llenor aç i'r hanesydd.