Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

[YR oedd Sian Hughes, Pont Robert," yn enw llawn o ddyddordeb i'n tadau, ac yn ferch I'r hen bregethwr a bardd John Hughes. Meddai ar lawer o dalent, gwreiddioldeb, a hynodrwydd. Crwydrai ar hyd a lled ein gwlad i geisio efengylu, yn ei ffordd ei hun, ynghyda gwerthu rhai o'i gweithiau barddonol. Bu'r hen bobl yn son ac yn canmol llawer ar ei Marwnad fawr (fel y galwent hi), ar ol y Parch. Henry Rees. Gwerthodd yr awdures ddoniol filoedd lawer o gopiau o'r gerdci yma yn nhai y wiad a'r mân bentrefi, a chredai llawer o'r rhai gwledig, ar y pryd, mai Sian Hughes oedd barddones oreu Cymru. Yn wir, cawsent fargen ar y gerdd,—mae'n syndod sut y gallodd werthu hanner cant o benhillion am ddim ond dwy geiniog. Derbyniai lawer o gar- edigrwydd a pharch ar ei chrwydriadau. Enillai fwy, mae'n debyg, ar bwys coffadwriaeth ei thad a mham. Yr oedd enw ei thad yn hysbys trwy Gymru fel pregethwr tanllyd, a gwnaeth ei mham gymwynas fawr â'n cenedl trwy gofio Emynnau Ann Griffiths. Nid oedd ball ar an- wyldeb y ferch ryfedd a garw Sian Hughes o'i rhieni. Canmolai hwy'n barhaus ymhobman, a gwnai "swn crio torcalonnus wrth son am danynt," medd un hen wraig o Dre Madog wrthyf. Erbyn hyn, y mae copiau o'i Marwnad fawr i Henry Rees wedi mynd yn brin iawn. Y mae un o honynt yn fy nghartref er pan oeddwn yn blentyn. Prynodd fy nhad hi gan tíian Hughes ei hunan, wrth ddrws Capel y Garth, Porthmadog, 44 mlynedd yn ol. Ad- ysgrifenaf hi i fod mewn cadwraeth. Gwelir ynddi gynllun cymysglyd, ynghyda theithi meddwl a phrofiad amrywiol yr hynod Sian Hughes.*—CARNEDDOG.] Yr ugeinfed dydd o Chwefror, Ar nos Sadwrn, dyma'r awr, Daeth y newydd trwm i'm clustiau I d'wysog syrthio, a gwr mawr Gwr cadeiriol y gymanfa, T'wysog pennaf Israel Duw, Un fu'n ffyddlawn dros ei Arglwydd, Peidiwch dwedyd,—" Ai gwir y w 'í Dwedai rhywbeth wrthwy'r Sabboth 'l'ro dy bin, mae'n rhaid it ganu Fy nheimladau a'm gorchfygai, Methu credu mewn gwirionedd Henry enwog, angel Cymru, Mae y newydd wedi 'nharo, A meddyliais pa fath gyfarcn Dyma wyneb-ddalen y gerdd, Y Uyfiawn fydd byth mewn Coffadwriaeth." Marwnad Er parchus goffadwriaeth am y Yr hwn a fu farw y lüfed o Chwefror, 1869, yn í2 mlwydd oed, wedi bod yn gweinidogaethu yng Nghorff y Methodistiaid Calfinaidd am hanner can' mlynedd. Bernir fod dros bedair mil yn ei angladd. Gan JANE HUGHES, Pont Robert. Oni wyddoch chwi i dywysog ac i wr mawr syrthio heddyw yn Israel."— 2 Sam. iii. á8. Pris Dwy Geiniog. MARWNAD FAWR HENRY REES. GALAR-GAN. Pan 'rown mewn myfyrdod dwys,- 'Rol dy frawd aeth tan y gwys Troi i wylo wedyn draw, Oedd y newydd hwn mewn braw. Est ti adref, ai gwir hyn ? N es yw 'nghalon fach yn syn A fu rhyngot ti a'r llu, PARCH. Henry REES, Liverpool, Ar ol glanio trwy'r Iorddonen Mewn i byrth Caersalem fry. Wyt ti'n 'nabod pawb o'r teulu Sy yna'n ddisglaer fel y wawr ? Wyt ti'n gwybod bod ni'n wylo Ar dy ol trwy Gymru'n awr? Pa fath gyfarch a fu rhyngot A fy anwyl dirion dad ? Cyd-ryfelwyr fuoch yma Yn y brwydrau'n nydd y gad. A pha olwg gest ti hefyd Ar d'urddasol hynaf Frawd, Tan goronau fyrdd myrddiynau ?— Nid yn wr gofidus tlawd, Fel bu yma ar y ddaear, Pan yn talu'n dyled ni, Yn ei berffaith bur gyfiawnder,- Heddyw disglaer iawn y'ch chwi. Henry fwyn, a Henry hawddgar, Hoffus iawn a llawn o hedd, Ai o fewn yr wythnos yma, Rhoir di yn dy ddistaw fedd ? Er im' glywed am dy farw, Methu credu eto'n iawn, Hyd nes gwelir y gymanfa Heb dy swyn angylaidd ddawn. Beth a wnawn ni, anwyl Arglwyda, Beth a ddaw o Seion Duw, Os ai di a'r holl enwogion Adref yna oll i fyw ? Mae fy nghalon yn ondus, Ac mae miloedd heddyw'n brudd, A bydd Seion yn ei mwrning 0 Gaergybi i Gaerdydd. Pan ddoi'r newydd i fy nghlustiau, Aeth fy nghalon fel y plwm, Dwedyd wnes, Ni allaf oddef Y fath newydd trist a thrwm Ar y platform yng Nghaerfyrddin Daeth y newydd i mi'n syn, 'Roeddwn bron rhy wan i oddef Cenadwri drist fel hyn.