Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

enwad; ac yn y Monthly Treasury oeir erthygl ar ei olygydd newydd galluog. Cymerir ei le yn Nolgellau gan bapur tebyg iddo dan yr enw Cymro. Mae peth ysgrifennu oherwydd y symudiadau hyn; ond gobeithio y caiff y Corff Methodist- aidd ddigon o ras i gadw ei amynedd a'i urddas, gan ddewis yn hytrach dderbyn cam, os daw hynny i'w ran, na'i wneud. Ceir hanes y bardd dymunol R. H. Jones yn yr Y mwelydd Misol. Eos Ogwen yw arwr y mis yn y Cerddor yn y rhifyn hwn cyfaddasa Mr. D. Jenkins at gerdd- oriaeth Gymreig, yn ddeheuig iawn, syn- iadau Mr. T. Matthews am gelfyddyd- waith Cymru. Mae llawer o erthyglau dyddorol iawn, mewn Cymraeg graenus a dillyn- aidd, yn yr Y?nofynydd. Mae pob peth uwch yr enw R. J. J. yn werth ei ddar- llen yn ofalus. Y mae'r erthyglau ar rai o hen gymeriadau Bwlch y Fadfa yn naturiol iawn; y mis hwn darlunia'r awdwr lais crynedig Gwilym Marles yn pregethu allan ar yr heol, gyferbyn a chapel Llwyn Rhyd Owen, o'r hwn y trowd ef a'i bobl oherwydd gwleidydd- iaeth, ddiwrnod y troad allan. Clywais lawrer o son am gysylltiad agos rhwng crefydd ac addysg yng Nghymru. Tybia llawer foct dysg a chrefydd yn gwgu ar eu gilydd. Nid felly y tybiai chwarelwyr Bethesda. Dyma daflen o gyfraniadau eu haddoldai at Ysgol Sir Bethesda. Gan yr Henadur W. J. Parry y cefais hi. Rhoddion Capeli ac Eglwysi Bethesda at Ysgol Sirol Bethesda, 1896. Y Methodistiaid Calfinaidd Jerusalem. 117 0 0 Carneddi 90 5 0 Gerian 69 15 0 Hermon 52 10 0 Llanllechid 48 7 0 Penygroes 35 0 0 Brynteg 25 0 0 Bethel. 8 1 Rhiwlas 3 13 9 Yr Anibynwyr :— Bethesda 90 0 0 Treflys 42 10 0 Salem 35 0 0 Bethania 35 0 0 Carmel. 34 0 U Amana 20 0 0 Chwarel Goch 10 5 0 Saron 8 0 0 449 12 0 274 15 0 Y Wesleyaid Siloam 50 0 0 Sliiloh 48 10 0 Gorphwysfa 17 15 0 Salem 6 15 0 123 0 0 Y Bedyddwyr :— Y Tabernacl 26 0 0 Bethel 7 2 0 33 2 0 Yr Eglwys Sefydledig Glan Ogwen 10 0 0 Gerlan 3 15 0 13 15 U £ 894 4 0 Y mae Gwasg Addysgol Caerdydd wedi cyhoeddi deg drama, bron oll yn Gymraeg. Y tair diweddaf yw Asgre Lân," "Ar y Groesffordd," a The Poacher," y ddwy gyntaf yn Gymraeg a'r olaf yn Saesneg. O gwmpas y capel y mae'r tair yn troi, ac y maent yn gwneud hyn heb dramgwyddo meddwl goreu Cymru. Yn wir, danghosant le pwysig yr addoldy ym mywyd y genedl. Yn y cyntaf ceir gweinidog parchus Horeb yn dod yn agent i gwmni masnachol, a 11 u yn rhoddi eu harian i'r cwmni oherwydd fod cymeriad y gweinidog yn sicrwydd iddynt am eu harian. A'r cwmni yn deilchion, a danghosir beth wna y crefyddwyr brwd, y gwyr bucheddol, a phobl y byd pan dyrr y storm arnynt hwy ac ar y gweinidog. Yn yr ail ddrama ceir y capel a'r blaen- oriaid a'r gweinidog ieuanc. Yn ei sel genhadol a'r gweinidog i gaban herwhel- iwr, a daw wyneb yn wyneb â'i ferch, grug gwyllt y mynydd. Ac o hynny y dechreua gofidiau i brofi llawer ac i buro rhai. Yn Saesneg yr ysgrifennwyd y drydedd. Darlunia hon herwheliwr wedi ei droi at grefydd, ac yn ceisio cadw ei le er gwaethaf temasiynau, sef dannod ac erfyniadau hen gyfeillion, swn cwn, a serch at ffuredau. Mae'r tair yn hawdd eu chware. Rhaid gadael llu o bethau ereill tan y mis nesaf, — yn eu mysg eisteddfodau Eifionnydd, testynau Eisteddfod Aber- ystwyth, a Neuadd Goffa Cerrig y Drud- iou §ASGRE LAN. Drama Gymraeg mewn pedair act. Gan R. G. Berry. Amlen, 80 tud. 1/ Ar y GROESFFORDD. Drama Gymraeg mewn pedair act. Gan R. G. Berry. Amlen 88 tud. THE POACHER. A Comedy in one Act. By J. 0. Francis. Amlen, 44 tud. 6c. Cyhoeddir y tair gan The Educational Pub- lishing Company, Cardiff.